Skip to main content

Penodi Prif Ddylunydd ar gyfer datblygiad ysgol a chanolfan i gymuned Glyn-coch

Glyncoch-artist-impression - Copy 2

Mae'r Cyngor yn falch o gyhoeddi ei fod wedi penodi contractwr i ddylunio ysgol gynradd a chanolfan arloesol i gymuned Glyn-coch. Bydd y cynllun yma'n cael ei gyflawni mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru erbyn 2026.

Cyhoeddwyd y prosiect cyffrous yma ym mis Mawrth 2023, yn un o dri chynnig llwyddiannus ar gyfer prosiectau ledled Cymru a fydd yn derbyn cyllid llawn gwerth £15 miliwn gan Her Ysgolion Cynaliadwy Llywodraeth Cymru. Mae'r cynigion sy’n ymwneud â'r dyluniad yn cynnwys technolegau gwyrdd, megis gerddi glaw a datrysiadau'n seiliedig ar fyd natur i reoli dŵr wyneb. Bydd yr adeilad newydd yn bodloni gofynion Carbon Sero-Net a bydd yn cael ei ddefnyddio yn ganolfan les i'r gymuned wrth ddarparu parth dysgu gweithredol ar gyfer addysgu egwyddorion peirianneg, ecoleg a rheoli tir.

Bydd yr ysgol yn croesawu disgyblion o Ysgol Gynradd y Cefn ac Ysgol Gynradd Craig yr Hesg, ac yn cyfuno dalgylchoedd y ddwy. Bydd yr ysgol yn cael ei hadeiladu ar safle Ysgol Gynradd Craig yr Hesg a thir cyfagos (hen Uned Atgyfeirio Disgyblion Tŷ Gwyn). Bydd yr ysgol gynradd Saesneg yn cynnwys meithrinfa a dosbarth cynnal dysgu. Bydd yr adeilad hefyd yn cynnwys darpariaeth gofal plant cyfrwng Cymraeg.

Rydyn ni wedi bod wrthi'n creu dyluniadau cydsyniad ers yr haf y llynedd, ac mae'r prosiect bellach wedi cyrraedd carreg filltir bwysig wrth benodi Willmott Dixon yn arweinydd ar ddyluniad y datblygiad nes dechrau ar y gwaith adeiladu.

Bydd Willmott Dixon yn bwrw ymlaen â'r broses ddylunio hyd at yr ymgynghoriad cyn cyflwyno cais gyda thrigolion lleol ac ymgynghorwyr statudol er mwyn llywio'r cynlluniau terfynol. Ar ôl hynny, bydd y cynlluniau'n cael eu cyflwyno ar ffurf cais cynllunio er mwyn i Bwyllgor Cynllunio a Datblygu'r Cyngor eu hystyried yn ffurfiol.

Mae disgyblion, staff yr ysgolion a thrigolion wedi bod yn rhan fawr o'r broses hyd yn hyn, a bydd Willmott Dixon yn parhau i geisio eu barn bwysig nhw drwy gydol y broses ddylunio er mwyn sicrhau bod yr ysgol yn gweddu anghenion y gymuned.

Mae Cylch Trafod wedi'i sefydlu i Randdeiliaid Cymunedol mewn perthynas â'r cyfleusterau bydd ar gael yn rhan o'r Ganolfan i'r Gymuned. Mae'r Cylch Trafod yn gyfle i gynrychiolwyr lleol a meysydd gwasanaeth y Cyngor gydweithio i ddylunio rhan yma'r datblygiad. Bydd hyn yn sicrhau bod y cyfleusterau sydd ar gael yn diwallu anghenion y gymuned.

Yn fuan, bydd y Cyngor yn lansio gwefan i ddarparu diweddariadau rheolaidd a sicrhau bod trigolion yn effro i gynnydd y prosiect.

Meddai'r Cynghorydd Rhys Lewis, Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg, Cyfranogiad Pobl Ifainc a'r Gymraeg: "Rwy'n falch iawn bod y Cyngor bellach wedi llofnodi contract i benodi prif ddylunydd i ddatblygu ysgol a chanolfan wych i gymuned Glyn-coch. Mae gan y Cyngor berthynas dda iawn â Willmott Dixon. Mae'r cwmni wedi gweithio ar nifer o brosiectau yn yr ardal, gan gynnwys Llys Cadwyn yng nghanol tref Pontypridd, sydd bellach yn ganolfan allweddol yng nghalon y gymuned.

"Bydd datblygiad Glyn-coch yn darparu ysgol sydd wir ei hangen i'r gymuned, ac yn disodli dau hen adeilad gyda chyfleusterau o'r radd flaenaf sy'n addas ar gyfer yr 21ain ganrif. Y llynedd, roedden ni'n falch iawn o sicrhau cyllid llawn ar gyfer yr ysgol yma o ganlyniad i gais gwych i Her Ysgolion Cynaliadwy Llywodraeth Cymru, a byddwn ni'n parhau i weithio'n agos â Llywodraeth Cymru trwy gydol y prosiect. Rhan allweddol o ddyluniad yr ysgol yw dod o hyd i ffyrdd arloesol o gyflawni amcanion yr Her Ysgolion Cynaliadwy, megis defnyddio deunyddiau naturiol a chynnwys disgyblion yn rhan o'r broses ddylunio, gan gydymffurfio â'r Cwricwlwm Newydd i Gymru.

"Bydd y buddsoddiad yma'n cael ei ddarparu trwy ein partneriaeth â Llywodraeth Cymru a'i Raglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy er mwyn cyflwyno cyfleusterau addysg modern i ragor o'n cymunedau. Mae buddsoddiad gwerth £75.6 miliwn ar draws Pontypridd a'r cyffiniau yn ariannu cynlluniau mawr yng Nghilfynydd, Beddau, y Ddraenen-wen a Rhydfelen, ynghyd ag adeiladau newydd ar gyfer ysgolion cynradd Llantrisant, Pentre'r Eglwys, Pont-y-clun a Glynrhedynog.

"Dechreuodd y gwaith dylunio ar gyfer yr ysgol a chanolfan gymuned newydd Glyn-coch ym mis Gorffennaf 2023, ac mae'n mynd rhagddo'n dda. Mae penodi Willmott Dixon yn sicrhau y bydd y gwaith dylunio yn parhau nes dechrau Ymgynghoriad Cyn Ymgeisio gyda'r gymuned, cyn cyflwyno'r cais cynllunio terfynol. Mae ymgysylltu â'r gymuned yn rhan bwysig o'r broses yma, ac rydyn ni'n sicrhau bod trigolion lleol, pobl ifainc a staff ysgol Glyn-coch wrth wraidd proses ddylunio'r cyfleuster newydd."

Dywedodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles :"Mae ysgolion yn fwy na briciau a morter. Gall adeiladau sydd wedi'u dylunio'n dda gyfrannu at y gwaith o fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd, cefnogi staff a disgyblion gyda'u haddysg, a darparu man i'r gymuned leol ddod ynghyd.

"Mae'n wych gweld cynllun ysgol newydd a chanolfan gymuned Glyn-coch yn cyrraedd y cam nesaf. Bydd hyn yn darparu ysgol fodern i ddisgyblion a, thrwy eu cynnwys nhw ym mhroses cynllunio a chreu'r ysgol, byddan nhw'n dysgu sut mae gwneud penderfyniadau sy’n effeithio ar eu dyfodol.

"Rwy' hefyd yn falch bod y cynlluniau'n cynnwys cynigion i gyflwyno darpariaeth gyfrwng Gymraeg i lefel uwch o'r cychwyn cyntaf - yn dechrau o'r ddarpariaeth gofal plant, hyd at ragor o gyfleoedd chwarae a dysgu cyfrwng Cymraeg yn y dyfodol.

“Mae dysgu am gynaliadwyedd yn orfodol yn ein Cwricwlwm newydd i Gymru. Mae'r prosiect yma'n rhoi cyfle gwych i ysbrydoli disgyblion a gwireddu nod y Cwricwlwm i ddatblygu dinasyddion moesegol, gwybodus.”

Wedi ei bostio ar 05/02/24