Skip to main content

Diwrnod Gweithredu gydag Urddas 2024 yn Rhondda Cynon Taf

dignity logo welsh

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn dathlu Urddas mewn Gofal drwy gydnabod gwaith caled y Gwasanaethau i Oedolion i gynnig mwy o ddewis, mynediad ac urddas i unigolion er mwyn diwallu eu hanghenion o ran gofal a chymorth. Mae’r dathliad yma'n tynnu sylw at brosiectau ac achosion amrywiol lle mae staff ymroddedig wedi mynd y tu hwnt i'r galw i ddiogelu lles a pharch y rheiny sy'n derbyn gofal.

Mae Diwrnod Gweithredu gydag Urddas yn gyfle i sefydliadau iechyd a gofal cymdeithasol ddangos eu hymrwymiad i ddiogelu hawliau unigolion tra’n darparu gwasanaethau gofal sy'n llawn urddas a pharch ar eu cyfer. Mae'r achlysur wedi'i gefnogi gan elusen gofrestredig Dignity in Care, sy’n eiriol dros gynnal a diogelu iechyd y cyhoedd drwy hybu safonau gofal rhagorol, a sicrhau bod darparwyr gofal – gan gynnwys ysbytai, cartrefi preswyl a chartrefi gofal―yn blaenoriaethu ymreolaeth a pharch ar gyfer y bobl sy'n defnyddio eu gwasanaethau.

Mae Diwrnod Gweithredu gydag Urddas yn cael ei arwain gan y Cyngor Urddas Cenedlaethol, a lansiodd yr ymgyrch yn 2006. Ar hyn o bryd mae gan y Cyngor 116,000 o Hyrwyddwyr Urddas cofrestredig, ac mae o'r farn bod modd i bawb fod yn gyfrifol am urddas mewn gofal trwy gydweithio a rhannu arferion gorau.

Meddai'r Cynghorydd Gareth Caple, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Iechyd a Gofal Cymdeithasol:  “Mae Urddas mewn Gofal yn parhau i fod yn ffocws pwysig i’n sefydliad ac mae'n llywio’r gwasanaethau gofal rydyn ni'n eu darparu.

“Mae'r Cyngor bob amser yn chwilio am ffyrdd newydd y mae modd i staff helpu pobl i lywio'u profiadau o ran gofal, gan eu grymuso i gael mwy o ddewis, rheolaeth, ymreolaeth, ac, yn anad dim, Urddas.

“Hoffwn hefyd gydnabod ymroddiad swyddogion y Cyngor sy’n mynd gam ymhellach bob amser i sicrhau bod unigolion yn cael gofal a pharch o'r radd flaenaf, fel y maen nhw'n ei haeddu. Mae eu gwaith caled yn wirioneddol glodwiw, ac mae’n bwysig ein bod ni'n tynnu sylw at agweddau cadarnhaol ar y gwasanaeth.”

Fy Niwrnod i, Fy Newis i

Sefydlwyd prosiect Fy Niwrnod i, Fy Newis i yn 2021 i gefnogi unigolion ag anghenion ychwanegol ledled y Fwrdeistref Sirol. Mae’r prosiect yma'n helpu unigolion i gael gafael ar ofal a chymorth hanfodol, tra’n eu grymuso i gymryd rhan weithredol mewn prosesau lle mae penderfyniadau'n cael eu gwneud ynghylch eu llesiant a’u hanghenion gofal.

“Dywedodd 87% o bobl ag anabledd dysgu a gymerodd ran yn y prosiect eu bod nhw'n awyddus i newid rhywbeth am eu diwrnod, a hynny wrth ailafael mewn rhyw fath o drefn arferol yn dilyn y cyfnod clo"

Cafodd y prosiect ei lywio gan gyfres o achlysuron ac arolygon a oedd yn gofyn am farn unigolion a’u rhieni/cynhalwyr. Cafodd y cyfranogwyr eu hannog i rannu eu safbwyntiau ar fanteision y gwasanaeth, nodi meysydd a allai fod yn ddiffygiol, ac awgrymu gwelliannau neu newidiadau a allai wella'u profiad o ran derbyn gofal.

Roedd y canlyniad yn amlygu holl anghenion a dymuniadau amrywiol y cyfranogwyr:

  • Treulio mwy o amser gyda theulu a ffrindiau
  • Seibiannau o wasanaethau oriau dydd traddodiadol
  • Ystyried cyfleoedd i wirfoddoli a/neu weithio
  • Treulio mwy o amser i ffwrdd o'r tŷ
  • Gweithgareddau ar gyfer grwpiau
  • Dod i adnabod pobl newydd a meithrin cyfeillgarwch
  • Cymorth o ran chwilio am swydd a pharatoi ar gyfer cyfweliad

Mae staff RhCT yn gefnogol iawn o'r rhaglen ac yn awyddus iawn i gyflwyno gwasanaeth sy'n canolbwyntio ar y gymuned ac ar yr unigolyn, gan sicrhau bod modd i bobl gael rhagor o reolaeth a dewis dros eu bywydau. Mae'r staff wedi cyfrannu at greu dulliau arloesol o gynnal y gwasanaeth mewn ffyrdd sydd o fudd i'r unigolion sy'n derbyn gofal a chymorth.

Yn fwy diweddar, ym mis Tachwedd 2023, cytunodd y Cyngor i wella ei wasanaethau trwy fodel newydd sydd wedi'i chydgynhyrchu ar gyfer Gwasanaethau Oriau Dydd. Mae tair lefel o gymorth, ac mae pob un yn cyd-fynd â blaenoriaethau allweddol y Cyngor:

  1. Cymuned a Chyflogaeth – helpu unigolion i gydnabod eu cryfderau, eu rhwydweithiau cymorth, a’u hopsiynau o ran cymorth yn y gymuned.
  2. Manteisio i'r eithaf ar Gysylltiadau yn y Gymuned – helpu unigolion i adennill eu hannibyniaeth gyda chyfleoedd i feithrin cysylltiadau o fewn y gymuned.
  3. Arlwy'r Cyngor – helpu unigolion i fanteisio ar gefnogaeth mewn canolfannau yn ogystal â rhai grwpiau yn y gymuned. Dyma'r math mwyaf cymhleth o gymorth.

Mae'r rhaglen wedi derbyn adborth ardderchog gan unigolion a'u teuluoedd, ac mae hi'n cael ei defnyddio i lywio a gwella'r gwasanaeth yn gyson. Mae hyn yn sicrhau bod modd i bobl dderbyn y gofal a’r cymorth sydd eu hangen arnyn nhw, a hynny, yn bwysicaf oll, mewn ffordd sy'n gweddu iddyn nhw.

I ddysgu rhagor am y rhaglen Fy Niwrnod i, Fy Newis i, ewch i https://dewch-i-siarad.rctcbc.gov.uk/fy-niwrnod-i-fy-newis-i

Symud o Gartref Gofal Preswyl i Fyw'n Annibynnol

Mewn achos diweddar, mynegodd unigolyn a oedd wedi cael ei symud i gartref gofal preswyl ar ôl cwympo awydd cryf i ddychwelyd i gysur ei chartref ei hun. Gan gydnabod pwysigrwydd anrhydeddu ei dymuniadau, cynhaliodd ei gweithiwr cymdeithasol asesiad o'i gallu i fyw'n annibynnol eto. Llwyddodd yr asesiad i gadarnhau bod modd i'r unigolyn ddychwelyd i'w chartref.

Gan weithio ar y cyd â’r unigolyn, nododd y gweithiwr cymdeithasol ei hanghenion o ran cymorth a’r risgiau posibl sy’n gysylltiedig â dychwelyd adref. Roedd yr wybodaeth yma'n sail i gynllun gofal a chymorth manwl a oedd yn ystyried ei hanghenion ac yn rhoi cynlluniau ar waith i liniaru risgiau. Yn ogystal â hynny, trefnodd y gweithiwr cymdeithasol y byddai'r unigolyn yn cael cymorth gan y gwasanaeth prydau yn y gymuned i'w helpu i ddychwelyd adref.

Ar ôl i'r cynllun gofal gael ei roi ar waith, symudodd yr unigolyn yn ôl i'w chartref yn llwyddiannus. Cafodd hi therapi galwedigaethol i'w helpu i ddatblygu ei sgiliau o ran byw'n annibynnol, gan ganolbwyntio'n benodol ar adferiad ar ôl cwympo. O ganlyniad i'r dull gweithredu rhagweithiol yma sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, llwyddodd yr unigolyn yma i wneud cynnydd rhyfeddol wrth adennill ei annibyniaeth. Mae hi bellach yn gallu defnyddio'r meicrodon, rheoli ei gofal personol a chael cawod gyda chymorth. Mae hi hyd yn oed yn rhagori ar yr hyn yr oedd modd iddi hi ei wneud yn annibynnol cyn ei damwain.

Mae effaith gadarnhaol y cymorth yn golygu bod yr unigolyn wedi gweld gwelliannau sylweddol o ran ei hiechyd, ei hyder a'i symudedd. O ganlyniad i hyn, mae’r pecyn gofal a chymorth gwreiddiol bellach wedi'i leihau. Ar hyn o bryd mae hi'n dal i fyw yn ei chartref ei hun, wedi dechrau mynychu gwasanaethau yn ei heglwys leol eto, ac oherwydd ei sefydlogrwydd, nid oes angen i'r gweithiwr cymdeithasol ymweld â hi mwyach.

Mae'r achos llwyddiannus yma'n dangos effaith gadarnhaol dull gweithredu penodol sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn. Trwy flaenoriaethu anghenion yr unigolyn a'i chynnwys yn y gwaith o lunio'i phecyn gofal, mae ei hannibyniaeth a'i lles cyffredinol wedi gwella, gan ddangos ei bod hi wedi derbyn gofal gydag urddas.

I gael rhagor o wybodaeth am Ddiwrnod Gweithredu gydag Urddas, ewch i: https://www.dignityincare.org.uk/

Wedi ei bostio ar 01/02/24