Skip to main content

Mae Bwni'r Pasg yn neidio'n ôl i Amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda

Easter Eggstravaganza Contensis Pic Welsh 2024 - 465px x 465px

Bydd llawer o Ŵy-a-sbri yn Amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda dros wyliau'r Pasg! Dewch draw ddydd Mercher 27 a dydd Iau 28 Mawrth i gymryd rhan ym miri’r Pasg, gan gynnwys:

  • Helfa Wyau - archwiliwch safle'r amgueddfa a dod o hyd i wyau mawr Bwni'r Pasg. Ar ôl i chi ddod o hyd iddyn nhw, ewch i orsaf y Bwni i gasglu eich siocled.
  • Cartref tanddaearol y Bwni - ewch dan ddaear gynifer o weithiau ag y dymunwch a cherdded trwy gartref tanddaearol Bwni'r Pasg i weld beth allwch chi ddod o hyd iddo.
  • Mae cost reidiau ffair i blant bach wedi'i chynnwys yn y tocyn.
  • Crefftau'r Pasg - ewch i'r gornel celf a chrefft a bod yn greadigol!
  • Fferm Anwesu Anifeiliaid - eleni, mae Bwni'r Pasg wedi dod â rhai o'i ffrindiau i gymryd rhan yn yr hwyl! Ewch ati i anwesu anifeiliaid ciwt a fflwfflyd.
  • Diddanwr Plant

 Mae tocynnau Ŵy-a-sbri y Pasg yn costio £10 fesul plentyn a £3.50 fesul oedolyn.  Bydd tri slot amser ar gael bob dydd, sef 10am-12pm, 12.30pm-2.30pm a 3pm-5pm. Tocynnau ar werth yma nawr

Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden:

Mae achlysur Ŵy-a-sbri yn ffordd wych o ddechrau calendr achlysuron 2024 yn Amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda. Mae cartref tanddaearol Bwni'r Pasg yn golygu bod yr achlysur yma'n un unigryw, ac mae'r adloniant a'r gornel celf a chrefft yn ffordd wych o fwynhau hwyl y Pasg!

 Cadwch lygad ar yr wybodaeth ddiweddaraf ar Facebook ac X trwy ddilyn @rhonddaheritagepark/@rhonddaheritage

Wedi ei bostio ar 06/02/2024