Skip to main content

Rhwng y Llinellau - Trafodaeth, Diwylliant a Choffáu

BAGSY LOGO 2023

Oes diddordeb gyda chi yn hanes a threftadaeth Rhondda Cynon Taf? Mae'r Garfan Dreftadaeth yn cynnal tri achlysur cyffrous mewn partneriaeth â BAGSY, yr arlunydd o Rondda Cynon Taf, yn rhad ac am ddim. Bydd cyfle i chi weld lluniau a gwrthrychau o archifau treftadaeth Rhondda Cynon Taf, a rhoi gwybod i ni beth mae'r arteffactau yma'n eu golygu i chi drwy ysgrifennu, tynnu llun neu recordio’ch llais.  

Bydd eich ymatebion chi'n cael eu defnyddio i greu cyflwyniad aml-gyfrwng sy'n llywio Strategaeth Dreftadaeth newydd Rhondda Cynon Taf. 

Bydd yr achlysuron yma'n cael eu cynnal yn:

Amgueddfa Cwm Cynon, Aberdâr
3 Chwefror, 10am – 2pm,

Amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda
10 Chwefror, 10am – 2pm

Canolfan Calon Taf, Parc Coffa Ynysangharad
24 Chwefror, 10.30am – 1.30pm

Pe hoffech chi wirfoddoli â'r Gwasanaeth Treftadaeth a rhoi cymorth o ran archwilio a gofalu am y casgliad, e-bostiwch GwasanaethTreftadaeth@rctcbc.gov.uk neu ffonio 01443 680931

Wedi ei bostio ar 23/01/24