Skip to main content

Lido Ponty: Sesiynau nofio mewn dŵr oer yn dychwelyd ar benwythnosau ym 2024

Square-Cold-Water-Swim

O deuwch ffyddloniaid Lido Ponty - bydd sesiynau nofio mewn dŵr oer yn dychwelyd ar benwythnosau ym mis Chwefror a mis Mawrth 2024! 

Yn dilyn sesiynau nofio llwyddiannus iawn ar Ŵyl San Steffan a Dydd Calan, bydd tymheredd y dŵr yn Lido Cenedlaethol Cymru, Lido Ponty yn cael ei ostwng i 15 gradd unwaith yn rhagor ar gyfer y sesiynau nofio mewn dŵr oer poblogaidd. 

Bydd y sesiynau'n cael eu cynnal bob dydd Sadwrn a dydd Sul rhwng 3 Chwefror a 10 Mawrth. 

Yn ystod y tymor chwe wythnos o hyd, bydd y sesiynau'n cael eu cynnal am: 

  • 8am – 8.45am
  • 9am – 9.45am
  • 10am – 10.45am
  • 11am - 11.45am

Mae'r sesiynau ar agor i bawb sy'n 16 oed ac yn hŷn ac maen nhw’n ffordd wych o ddechrau nofio yn yr awyr agored mewn amgylchedd diogel. Mae'r sesiynau hefyd yn boblogaidd gyda'r rheiny sy'n hyfforddi ar gyfer achlysuron megis Iron Man.

 Mae Lido Ponty wedi croesawu nofwyr o bob cwr o Dde Cymru i'r sesiynau nofio mewn dŵr oer ac yn falch iawn o allu cynnig rhagor o gyfleoedd nofio mewn dŵr oer o ganlyniad i'r galw.

 Bydd tocynnau ar gyfer pob sesiwn nofio mewn dŵr oer yn mynd ar werth am 9am ddydd Llun 15 Ionawr.

 Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden: "Mae Lido Cenedlaethol Cymru, Lido Ponty yn parhau i fynd o nerth i nerth, gan ehangu ei gynnig ar gyfer sesiynau nofio mewn dŵr oer oedd yn llwyddiannus dros ben y llynedd ac sy’n dychwelyd yn 2024. 

"Dyma ffordd wych i'r rheiny sydd wrth eu boddau yn nofio yn yr awyr agored fwynhau Lido Ponty a'i gyffiniau trawiadol, ynghyd ag elwa ar ddiogelwch goruchwyliaeth achubwr bywyd a chysur ystafelloedd newid a chawodydd cynnes. 

"Mae hefyd nifer o leoedd gwych i fwyta tamaid blasus ac yfed diod gynnes ym Mhontypridd yn dilyn eich ymweliad – ydych chi am alw heibio?"

 

Bydd tocynnau ar werth ar www.lidoponty.co.uk

Wedi ei bostio ar 10/01/2024