Skip to main content

Digwyddiadau Treftadaeth am ddim!

Craft of hearts image re-sized2

Mae Canolfan Grefftau'r Gymuned, Craft of Hearts, sydd wedi’i lleoli yn Amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda, yn falch iawn o weithio ochr yn ochr â’r Garfan Dreftadaeth i gyflwyno tri Phrosiect sy’n seiliedig ar Dreftadaeth, sy’n rhad ac am ddim i gymryd rhan ynddyn nhw! 

Bydd Gwasanaeth Treftadaeth y Cyngor yn bresennol er mwyn i chi ddweud eich dweud ar sut rydyn ni'n diogelu a hyrwyddo ein treftadaeth gyfoethog. 

Rydyn ni'n edrych ymlaen at glywed eich syniadau a'ch teimladau tuag at eich Hanes a Threftadaeth Gymreig. 

Caiff yr holl ddeunyddiau eu darparu, ond mae croeso i chi ddod ag eitemau bach y gallech chi eu cynnwys yn eich darn o waith. Bydd te, coffi a bisgedi ar gael am ddim.

Mae croeso i bob oedran a gallu i fwynhau'r gweithgareddau cyfeillgar a hwyl yma! 

Am ragor o wybodaeth, ffoniwch Jo ar 07917467103 neu'r e-bostio’r Garfan Dreftadaeth ar GwasanaethTreftadaeth@rctcbc.gov.uk  

Dydd Iau, 25 Ionawr, 5pm-7pm
Yn y sesiwn yma, byddwn ni'n creu dyddlyfr gyda deunyddiau yn seiliedig ar Santes Dwynwen a Merched Cryf Cymru! Bydden ni wrth ein boddau yn gwybod sut mae’r rhan yma o’n treftadaeth wedi helpu i greu ein cymunedau heddiw!

Dydd Sadwrn, 3 Chwefror, 11am-3pm
Rydyn ni'n eich gwahodd chi i ddod ynghyd i lunio cywaith sy'n portreadu ein treftadaeth, ein hamgylchedd a’n cymunedau Cymreig.

Dydd Gwener, 23 Chwefror, 1pm-3pm

Ar y diwrnod yma, rydyn ni'n gobeithio y byddwch chi'n galw heibio ac yn creu llyfr nodiadau bach yn benodol ar gyfer atgofion o'n treftadaeth lofaol!

Wedi ei bostio ar 22/01/24