Skip to main content

Dosbarth Hwyl, Ffitrwydd a'r Teulu

Untitled design - 2024-01-24T135604.692

Mae cyfle gwych i deuluoedd fwynhau a chadw'n heini gyda'i gilydd mewn cyfres o ddosbarthiadau newydd sbon y byddwn ni'n eu cynnal yng Nghanolfan Hamdden Abercynon bob penwythnos. 

Mae Chwaraeon RhCT a'r Gwasanaeth Hamdden am Oes wedi gweithio gyda'i gilydd er mwyn llunio'r sesiynau newydd yma a gaiff eu cynnal rhwng 11am a 12pm ar ddydd Sadwrn. 

Mae modd ymuno â'r dosbarthiadau ymarfer cylch yma am bris gostyngol, ac mae modd i bob oedolyn sy'n talu am le ddod â hyd at ddau blentyn rhwng 6 ac 18 oed, ac oedolyn arall, gyda nhw am ddim! 

Mae'r dosbarthiadau yn addas i bawb, a byddan nhw'n gyfle i deuluoedd dreulio amser llawn hwyl gyda'i gilydd yn ein canolfan hamdden fodern, braf. 

Yn aml, mae modd i broblemau gofal plant rwystro pobl rhag manteisio ar ein darpariaeth Hamdden am Oes, felly mae'r dosbarthiadau yma'n gyfle gwych i bawb gymryd rhan gyda'i gilydd!

 Bydd hyfforddwr cymwys yn gyfrifol am arwain y dosbarthiadau, a bydd y gweithgareddau ar ffurf ymarfer cylch. Serch hynny, bydd amrywiaeth o offer ar gael er mwyn diwallu anghenion pawb. 

Bydd cymysgedd dda o ran oedran a gallu'r unigolion sy'n cymryd rhan, felly bydd modd i bawb gefnogi a rhoi hwb i'w gilydd - mae'n gyfle perffaith i ddechreuwyr a'r rheiny sydd ddim fel arfer yn teimlo'n hyderus o ran ymarfer corff. 

Mae’r dosbarthiadau wythnosol yn cychwyn ddydd Sadwrn, 3 Chwefror, yng Nghanolfan Hamdden Abercynon, ac mae modd cadw lle gyda'r APP Hamdden am Oes nawr. 

Pris mynediad yw £3.80 ar gyfer un oedolyn, a gallwch chi ddod â hyd at ddau o blant (6-18 oed) ac un oedolyn arall gyda chi, ar yr amod nad yw'r oedolyn hwnnw wedi bod yn aelod Hamdden am Oes yn ystod y 18 mis diwethaf. 

Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden: “Mae’r dosbarthiadau yma'n ffordd wych i’r teulu cyfan fwynhau gyda'i gilydd, ac maen nhw'n cael eu cynnig am bris fforddiadwy i apelio at gynifer o drigolion â phosibl. 

“Does dim angen i chi fod yn aelod o Hamdden am Oes a does dim angen cit nac offer chwaraeon ffansi – dewch draw, ymunwch â'r dosbarth a mwynhewch! 

“Yn aml, mae hi'n anodd i rieni gymryd rhan mewn dosbarthiadau ffitrwydd fel hyn oherwydd gofal plant. Diolch i Chwaraeon RhCT a Hamdden am Oes, mae modd i'r plant ddod gyda chi a chymryd rhan yn y sesiwn. 

“Am ffordd wych o dreulio amser gyda’ch gilydd ar y penwythnos, mwynhau a chadw'n heini. Mae Abercynon yn un o blith ystod o ganolfannau Hamdden am Oes sydd â rhywbeth i bawb o bob oed, o sesiynau pwll sblasio i fabanod i gannoedd o ddosbarthiadau ffitrwydd sy’n cael eu cynnal bob wythnos. 

“Oherwydd bod Hamdden am Oes yn cynnig cyfradd aelodaeth rhatach hael i’r rhai sydd o dan 18 oed, dros 60 oed neu'n derbyn budd-daliadau penodol, mae’n gyfle fforddiadwy i bawb fanteisio ar sesiynau di-ddiwedd yn y gampfa neu'r pwll nofio, dosbarthiadau ffitrwydd a llawer yn rhagor.”

 

Wedi ei bostio ar 31/01/2024