Skip to main content

Cyfle i drigolion leisio'u barn ar gynigion teithio llesol pellach ym Maerdy

Northern Section - Copy

Dyma gyfle i drigolion gael gwybod rhagor a lleisio'u barn ar gynigion drafft ar gyfer Cam Tri Llwybr Teithio Llesol Rhondda Fach, fyddai'n creu cyswllt cerdded a beicio ychwanegol ym Maerdy er mwyn gwella cysylltedd ymhellach.

Bydd Llwybr Teithio Llesol Rhondda Fach yn creu llwybr 10 cilomedr o hyd a rennir gan gerddwyr a beicwyr rhwng Maerdy a Thylorstown. Mae'r gwaith wedi'i rannu’n bum prif gam. Ar hyn o bryd mae'r Cyngor wedi sicrhau cyllid gan Lywodraeth Cymru i adeiladu'r ddau gam cyntaf, ac i fwrw ymlaen â'r gwaith o ddylunio a datblygu'r tri cham arall a fydd yn cael eu darparu yn y dyfodol.

Cafodd Cam Un ei gwblhau ym mis Rhagfyr 2023, gan greu llwybr ffurfiol 3 metr o led â wyneb caled o leoliad i'r gogledd o'r ystad ddiwydiannol ger safle'r hen lofa ym Maerdy hyd at leoliad ger Cofeb Porth Maerdy.

Dechreuodd Cam Dau ym mis Rhagfyr 2023, gan barhau â'r llwybr i gyfeiriad y de o Gofeb Porth Maerdy. Bydd y rhan 1.5 cilomedr o hyd yma'n dilyn llwybr yr hen reilffordd. Mae disgwyl i'r gwaith yma gael ei gwblhau yn y Gwanwyn 2024.

Mae ymgynghoriad bellach yn cael ei gynnal ar gynigion Cam Tri.

Mae'r Cyngor wedi dechrau ymgynghoriad cyn ymgeisio ar gyfer Cam Tri a allai, yn amodol ar gyllid, gael ei gyflawni mewn blwyddyn ariannol yn y dyfodol. Byddai'r cyswllt arfaethedig yn 1.26 cilomedr o hyd ac yn cysylltu llwybr newydd Cam Dau (o leoliad ger Stryd yr Orsaf) â Stryd Blake a chefn Stryd Richard.

Mae tudalen ymgynghori benodol wedi cael ei sefydlu ar wefan y Cyngor, sy'n golygu bod modd i drigolion weld gwybodaeth fanwl mewn perthynas â chynigion Cam Tri - gan gynnwys mapiau, cynlluniau dylunio, strategaethau draenio ac adroddiadau technegol atodol. Bydd y broses ymgynghori yn dod i ben ddydd Llun, 19 Chwefror. Dysgwch ragor a chymryd rhan yma.

Mae'r ymgynghoriad wedi cael ei hysbysebu trwy osod hysbysiadau ym Maerdy, a bydd llythyr yn cael ei anfon at drigolion sy'n byw ger lleoliad y cynllun arfaethedig. Mae modd i'r cyhoedd leisio'u barn ar unrhyw agwedd ar y cynigion trwy e-bostio YmgynghoriadTeithioLlesol@rctcbc.gov.uk neu drwy anfon llythyr i gyfeiriad rhadbost y Cyngor sydd wedi'i gynnwys ar dudalen hafan yr ymgynghoriad.

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Isadeiledd a Buddsoddi: “Rydyn ni wedi gweld cynnydd ardderchog yn ddiweddar o ran darparu dau gam cyntaf Llwybr Teithio Llesol Rhondda Fach - gyda gwaith Cam Un yn cael ei gwblhau cyn y Nadolig a gwaith Cam Dau'n mynd rhagddo i'w gwblhau yn y Gwanwyn. Dyma'r camau cyntaf o bum cam i greu llwybr 10 cilomedr o hyd rhwng Maerdy a Thylorstown, sy'n cynrychioli buddsoddiad sylweddol mewn teithio llesol ledled Cwm Rhondda Fach.

“Rydyn ni'n croesawu'r cymorth i'r cynllun yng Nghronfa Teithio Llesol 2023/24 Llywodraeth Cymru, sy'n darparu cyllid i adeiladu'r ddau gam cyntaf ac i ddatblygu'r tri cham sy'n weddill. Mae'r dyraniad ehangach gwerth £3.43 miliwn hefyd yn cynnwys cyllid i ddatblygu cynlluniau allweddol eraill - gan gynnwys ailalinio Llwybr Taith Taf yn ardal Trallwn, sefydlu llwybr Teithio Llesol ffurfiol yng Nghwm-bach, bwrw ymlaen â chynlluniau yng nghanol trefi Aberdâr a Phontypridd a gwella'r cyswllt ym Mhentre'r Eglwys.

"Bwriad y buddsoddiad pwysig yma mewn teithio llesol yw annog rhagor o bobl i gerdded neu feicio eu teithiau dyddiol. Mae cerdded a beicio'n cynnig nifer o fanteision o'u cymharu â gyrru, megis gwella iechyd a lles, diogelu'r amgylchedd, a lleihau amseroedd teithio a thagfeydd ar ein ffyrdd.

"Mae modd i drigolion leisio'u barn nawr ar gynigion Cam Tri Teithio Llesol Rhondda Fach, sy'n gynllun wedi'i gynllunio ar gyfer y dyfodol er mwyn cysylltu'r llwybr newydd sy'n cael ei greu yn rhan o Gam Dau â Stryd Blake a chefn Stryd Richard. Mae mapiau sy'n amlinellu'r cynigion ar gael yn rhan o'r wybodaeth ehangach ar wefan y Cyngor. Byddwn i'n annog pob trigolyn sydd â diddordeb i fwrw golwg ar y cynlluniau a lleisio barn cyn i'r ymgynghoriad ddod i ben ar 19 Chwefror."

Wedi ei bostio ar 31/01/24