Skip to main content

Y diweddaraf: Trawsffurfio safle'r hen neuadd bingo yng nghalon Pontypridd

Redevelopment Proposals - Bingo Hall

Bydd gwaith pwysig iawn i ddatblygu safle'r hen neuadd bingo ym Mhontypridd a'i droi'n fan cyhoeddus bywiog a chreu cilfachau bysiau ar gyfer ochr ddeheuol canol y dref yn dechrau yr wythnos nesaf. Mae'r manylion llawn yma:

Bydd y gwaith adeiladu'n dechrau ddydd Llun, 5 Chwefror, ac mae disgwyl iddo ddod i ben dros yr haf yn dilyn gwaith blaenorol i ddymchwel y safle a'i baratoi ar gyfer y gwaith datblygu. Bydd y prosiect yn darparu man o ansawdd i'r cyhoedd a fydd yn bwynt cyrraedd clir ym mhen deheuol y dref. Bydd arwyddion clir, gwybodaeth i ymwelwyr, mannau eistedd a mannau o wyrddni a phlanhigion yno. Bydd man gwerthu bwyd/diod yn cael ei ychwanegu yno yn y dyfodol.

Bydd y safle yma'n darparu llwybr diogel i gerddwyr o Heol Sardis i ganol y dref - mae'r lleoliad yn ddelfrydol ar gyfer pobl sy'n teithio i Bontypridd ar drên. Bydd y gilfach fysiau newydd wedi'i lleoli ar ffin y safle a Heol Sardis fel bod modd i fysiau deithio i'r rhan honno. Bydd man eistedd ar wahân hefyd ar gael i bobl sy'n defnyddio bysiau.

Rydyn ni'n blaenoriaethu darparu'r gilfach fysiau yma mewn pryd ar gyfer Eisteddfod Rhondda Cynon Taf ym Mhontypridd ym mis Awst 2024.

Mae'r Cyngor wedi sicrhau cyllid gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y gwaith adeiladu trwy'r fenter Trawsffurfio Trefi, yn ogystal â'r cyllid a gyhoeddwyd gynt ar gyfer dymchwel y safle. Bydd y cilfachau newydd yn cael eu cyllido gan Gyllid Trafnidiaeth Ranbarthol Llywodraeth Cymru.

Trefniadau i draffig a cherddwyr o ddechrau'r cynllun

Mae Knights Brown wedi'i benodi i gynnal y gwaith, a rhaid i’r cwmni osod cyfres o fesurau rheoli traffig dros dro er mwyn bwrw ymlaen â'r gwaith a sicrhau diogelwch y cyhoedd a'r gweithwyr. Bydd y cam adeiladu yn dechrau ar 5 Chwefror, a bydd y mesurau canlynol yn cael eu rhoi ar waith ar wahanol adegau yn ystod yr wythnosau a’r misoedd nesaf, lle bo angen:

  • Cau'r ynys i gerddwyr ar Heol Sardis, sydd ar yr A4058 rhwng yr orsaf drenau a safle'r neuadd bingo. Llwybr arall i gerddwyr yw defnyddio’r groesfan ffurfiol ger Tŷ Sardis, gan ddefnyddio’r droedffordd o boptu Heol Sardis. Bydd arwyddion clir yn nodi'r llwybr yma.
  • Cau lôn a llwybr i gerddwyr ar Heol Sardis ar bwys safle'r hen neuadd bingo - yn debyg i drefniadau a ddefnyddiwyd ar ddiwedd 2023 er mwyn paratoi ar gyfer y gwaith. Rhaid cau'r ffyrdd yma er mwyn sicrhau diogelwch a galluogi gweithiwr unigol i reoli mynediad i'r safle. Bydd gwaith hefyd yn cael ei gynnal ar lôn allanol y briffordd neu'n gyfagos, er mwyn addasu ochr y pafin ar gyfer defnydd bysiau yn y dyfodol. Gwaith perthnasol i'r signalau a'r pibellau.
  • Cau'r Stryd Fawr i gerbydau ddydd Sul, 18 Chwefror. Bydd y gwaith yn cynnwys cysylltiadau gwasanaeth a gwaith ail-wynebu. Bydd manylion pellach am y cau yma'n cael eu cyhoeddi maes o law.

Bydd y Cyngor yn rhoi'r diweddaraf ar gyfryngau cymdeithasol i roi'r wybodaeth i breswylwyr am y trefniadau wrth iddyn nhw newid. Nodwch y bydd mynediad i gerddwyr i'r Stryd Fawr o gyfeiriad y de yn parhau drwy gydol y gwaith.

Rhaid rhoi'r trefniadau yma ar waith er mwyn adeiladu'r gilfach fysiau newydd yn ddiogel a'i gwblhau mewn da bryd ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Cymru.

Meddai'r Cynghorydd Mark Norris, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Ffyniant a Datblygu: "Mae dechrau'r gwaith adeiladu'n cynrychioli cynnydd mawr yn y cynllun strategol yma i ddechrau ailddefnyddio safle'r hen neuadd bingo ac Angharad's Nightclub. Mae gwaith paratoi'r safle a gwblhawyd cyn y Nadolig wedi sicrhau bod yr ardal yn barod i'w hailddatblygu, a bydd y gwaith i ddarparu man cyhoeddus a chilfach fysiau newydd yn dechrau ar 5 Chwefror.

"Mae'r man cyhoeddus yma'n brosiect cyffrous ac roedd yn un o'r syniadau mwyaf poblogaidd pan aeth y Cyngor ati i ymgynghori â phreswylwyr ynglŷn â sut i ailddatblygu'r safle. Bydd y prosiect yn darparu porth newydd i ganol y dref sydd ddim yno ar hyn o bryd, ac yn cynnal golau naturiol a golygfeydd canol y dref a ddaeth i'r amlwg pan gafodd yr adeiladau eu dymchwel. Mae disgwyl y bydd yn fan prysur gyda man gwerthu bwyd a mannau eistedd, yn ogystal â bod yn gysylltiad allweddol â thrafnidiaeth gyhoeddus gan fod yr orsaf drenau a chilfachau bysiau yn gyfagos.

"Dyma gyfnod cyffrous iawn i Bontypridd - mae bellach llai na 200 o ddiwrnodau nes Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2024, ac rydyn ni'n parhau i fuddsoddi mewn adnewyddu’r dref yn rhan o Gynllun Creu Lleoedd Pontypridd. Mae hyn yn cynnwys prosiectau allweddol megis ailddatblygu Canolfan Gelfyddydau'r Miwni, buddsoddi parhaus ym Mharc Ynysangharad a phlasa glan yr afon ar safle hen siopau M&S a Dorothy Perkins - mae'r rhan fwyaf o waith dymchwel y safle yma wedi'i gwblhau. Rydyn ni hefyd wedi cwblhau prosiectau Llys Cadwyn, Cwrt yr Orsaf ac YMa sydd eisoes wedi'u cwblhau.

"Er bod gwaith adeiladu'r man cyhoeddus yma wedi'i gyfyngu i safle'r hen neuadd bingo, bydd y contractwr yn manteisio ar fesurau dros dro i sicrhau diogelwch. Mae hyn yn bwysig i osod cilfach fysiau newydd, sy'n cynnwys gweithio ar lôn allanol Heol Sardis a fydd yn cael ei chau.

"Bydd hefyd rhaid gosod llwybrau amgen i gerddwyr mewn mannau amrywiol a bydd arwyddion clir yn eu dangos nhw. Fodd bynnag, mae'n bwysig nodi y bydd mynediad i gerddwyr i ben deheuol canol y dref drwy gydol y gwaith. Hoffwn i ddiolch i breswylwyr, busnesau a phobl sy'n ymweld â Phontypridd am eu cydweithrediad wrth i'r gwaith pwysig yma gael ei gyflawni."

Wedi ei bostio ar 31/01/24