Skip to main content

Cynllun gwella llwybr teithio llesol allweddol yn Ynys-y-bwl

Lady Windsor Cycle Route 1 (1) - Copy

Bydd defnyddwyr Llwybr Beicio Lady Windsor rhwng Ynysybwl a Pontypridd yn sylwi ar waith gwella yn cael ei gynnal yr wythnos nesaf.

Mae'r Cyngor wedi sicrhau cyllid o Gronfa Teithio Llesol Llywodraeth Cymru, a bydd yn buddsoddi mewn gwaith uwchraddio pwysig ledled y llwybr a rennir a'i gysylltiadau.

Bydd y gwaith yn dechrau yn ystod yr wythnos sy'n dechrau ar ddydd Llun 18 Mawrth ac yn para tua 10 diwrnod.

Bydd y llwybr yn parhau i fod ar agor yn ystod y gwaith a bydd y llwybr yn cael ei ledu dros dro wrth rai o'r lleoliadau gwaith lle bydd angen, a hynny er mwyn sicrhau diogelwch.

Bydd y gwaith gwella yn amrywio o osod wyneb newydd i wella arwyddion.

Mae'r Cyngor wedi penodi Horan Construction Ltd yn gontractwr i gwblhau'r cynllun yma.

Diolch ymlaen llaw i'r gymuned am eich cydweithrediad.

Wedi ei bostio ar 13/03/2024