Skip to main content

Ydych hi'n barod, gefnogwyr Lido Ponty?

Lido Pontypridd - Swim - Children - Summer - June 22 - GDPR Approved-53

Ydych hi'n barod, gefnogwyr Lido Ponty? Mae prif dymor yr haf yn dechrau ar ddiwedd y mis, yn barod ar gyfer gwyliau'r Pasg! 

Bydd tri phwll Lido Cenedlaethol Cymru, Lido Ponty, ar agor bob dydd yn ystod pythefnos y gwyliau. 

Bydd tymheredd y dŵr yn cael ei droi i 28 gradd eto a bydd y pyllau ar agor i chi gael mwynhau nofio mewn lonydd, nofio achlysurol, y pwll sblasio â ffynnon, cwrs rhwystrau teganau gwynt, zorb dŵr a'r cychod padlo. 

Wrth i’r sesiynau nofio mewn dŵr oer, sy’n parhau i fod yn eithriadol o lwyddiannus, ddirwyn i ben, mae prif dymor Lido Ponty yn dechrau ar ddydd Sadwrn 23 Mawrth – diwrnod cyntaf gwyliau'r Pasg. 

Bydd dwy sesiwn nofio ben bore bob dydd o’r wythnos yn ogystal â chwe sesiwn hwyl i’r teulu, lle bydd modd defnyddio'r tri phwll, y cwrs rhwystrau teganau gwynt, zorb dŵr a'r cychod padlo. 

O ddydd Llun, 8 Ebrill, bydd yr amserlen yn dychwelyd i ddau sesiwn nofio ben bore bob dydd o'r wythnos a chwe sesiwn hwyl i'r teulu ar benwythnosau yn unig. 

Mae’r amserlen yma'n parhau tan hanner tymor y Sulgwyn, pan fydd dwy sesiwn nofio ben bore a chwe sesiwn hwyl i’r teulu ar gael bob dydd eto. 

O ddydd Llun, 3 Mehefin, bydd dwy sesiwn hwyl a sbri ar ôl ysgol yn cael eu hychwanegu, wrth i'r tywydd gynhesu a'r nosweithiau fynd yn oleuach. 

Dyma atgoffa cwsmeriaid bod yr Eisteddfod Genedlaethol yn cael ei chynnal ym Mharc Coffa Ynysangharad o 3 i 10 Awst, 2024. O ganlyniad i hyn, bydd Lido Ponty, ynghyd â gweddill y parc, ar gau rhwng 30 Gorffennaf ac 14 Awst, er mwyn caniatáu ar gyfer gosod yr achlysur a'i dynnu i lawr. 

Bwriwch olwg ar yr amserlen: 

Bydd cam cyntaf y tocynnau yn mynd ar werth am 9am ddydd Mercher, 13 Mawrth. Prynwch docyn yma: www.lidoponty.co.uk 

Bydd cwsmeriaid hefyd yn sylwi bod ffi archebu o 25c wedi’i hychwanegu at brisiau tocynnau ar gyfer pob nofiwr, gan gynnwys plant, o ganlyniad i gostau bancio ac archebu trydydd parti. 

Rydyn ni hefyd yn gobeithio y bydd y ffi archebu, sy'n cael ei thalu wrth i chi brynu tocynnau, yn annog nofwyr sydd wedi cadw lle ar sesiynau – yn enwedig i’r rhai 16 oed ac iau sydd ar hyn o bryd ddim yn talu o gwbl – gyrraedd ar gyfer eu sesiwn neu ganslo mewn da bryd i ganiatáu i rywun arall gymryd y lle gwag. 

Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden: “Mae'n arwydd bod dyddiau braf yr haf ar eu ffordd pan fydd prif dymor Lido Ponty yn dechrau. 

“Mae'r hydref a'r gaeaf yn Lido Cenedlaethol Cymru wedi bod yn wych, wrth i filoedd o bobl ymuno â ni ar gyfer y sesiynau nofio mewn dŵr oer. 

“Mae’r sesiynau wedi bod yn boblogaidd iawn, gyda nofwyr yn dod o bob rhan o dde Cymru i fwynhau'r cyfle i nofio mewn dŵr oer a thiroedd hardd Parc Coffa Ynysangharad. 

“Mae’r prif dymor yn dechrau a bydd yr amserlen yma'n parhau tan ganol mis Medi. 

“Yn amlwg mae’r parc yn cynnal yr Eisteddfod o 3 i 10 Awst, felly bydd Lido Ponty ar gau rhwng 30  Gorffennaf ac 14 Awst, ond bydd digon o amser i bobl fwynhau’r atyniad arobryn ac unigryw yma dros y misoedd nesaf. ”



Wedi ei bostio ar 12/03/2024