Skip to main content

Gwaith o greu Coridor Trafnidiaeth Cynaliadwy Llanharan i fynd yn ei flaen

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn falch o gadarnhau bod y Cyngor, dros y flwyddyn ddiwethaf, wedi bod yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru a Thrafnidiaeth Cymru (TrC) i adolygu Ffordd Gyswllt Llanharan, a gafodd ei gohirio o ganlyniad i Adolygiad Ffyrdd Llywodraeth Cymru.

Mae ailystyried y cynllun arfaethedig wedi galluogi'r Cyngor i weithio'n agos gyda Thrafnidiaeth Cymru i ail-ddylunio'r cynllun a bodloni gofynion newydd Llywodraeth Cymru o ran cynaliadwyedd.

Bydd y cynllun ar ei newydd wedd yn creu ffordd gyswllt newydd i helpu i gael gwared ar gerbydau nwyddau trwm (HGVs) a thraffig trwm o bentref Llanharan. Fodd bynnag, bydd trafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol yn rhan annatod o'r cynllun newydd. Bydd dros 4km o lwybrau teithio llesol.

Bydd y cynllun newydd hefyd yn gweld gostyngiad o 30% - 35% mewn carbon wedi'i fewnosod. Yn hollbwysig, bydd ôl troed y cynllun yn lleihau 45% ac ni fydd unrhyw golled i goetir hynafol lleol. Bydd y cynllun cyffredinol hefyd yn gweld gwelliant mewn bioamrywiaeth yn unol â chanllawiau Polisi Cynllunio Cymru.

Bydd gan oleuadau traffig a chyffyrdd fesurau i flaenoriaethu bysiau, tra bydd y cymunedau lleol yn cael eu gwasanaethu gan 4 bws yr awr.

MeddaiArweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Andrew Morgan OBE: "Yn dilyn misoedd o gydweithio agos rhwng Cyngor Rhondda Cynon Taf, Llywodraeth Cymru a Thrafnidiaeth Cymru, rydyn ni'n credu fod cynllun llawer gwell gyda ni erbyn hyn. Un sy'n diwallu anghenion y gymuned leol ac sy'n cyd-fynd â strategaeth drafnidiaeth Llywodraeth Cymru yn well.

"Mae trafnidiaeth gynaliadwy wrth wraidd y cynllun, gyda thrafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol yn flaenoriaethau craidd.

"Mae rhagor o waith i'w wneud eto i gwblhau'r cynllun cyn i ni symud ymlaen at geisio caniatâd cynllunio. Yn ystod y cam nesaf yma bydd y cynllun yn cael ei graffu a'i fireinio rhagor er mwyn sicrhau bod Llanharan yn cael coridor trafnidiaeth gwirioneddol gynaliadwy."

Meddai'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd sydd â chyfrifoldeb am Drafnidiaeth, Lee Waters: "Mae'n galonogol iawn i mi fod Rhondda Cynon Taf wedi ymateb i'r her a gafodd ei gosod gan ein panel Adolygu Ffyrdd i gyrraedd safon uwch o ran adeiladu ffyrdd yn y dyfodol.

"Maen nhw wedi ail-ddechrau o'r dechrau a dylunio cynllun sy'n cynnig y cyswllt roedd eisiau yn wreiddiol ond mewn ffordd sy'n lleihau'r effaith amgylcheddol yn sylweddol ac yn ymgorffori manteision o ran trafnidiaeth gyhoeddus, cerdded a beicio.

"Mae rhagor o waith i'w wneud ar y manylion terfynol ond mae'r gwaith yma'n dangos bod modd i ni wneud pethau'n wahanol yng Nghymru i helpu i fynd i'r afael â newid hinsawdd a'r argyfwng natur."

Wedi ei bostio ar 19/03/24