Skip to main content

Wythnos Dathlu Niwroamrywiaeth 2024: Herio ystrydebau

WELSH Logo

Yr wythnos yma mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn dathlu Wythnos Dathlu Niwroamrywiaeth drwy dynnu sylw at y ffyrdd y mae gweithwyr niwrowahanol yn cael eu cefnogi yn y gweithle. Drwy gydol yr wythnos, byddwn ni'n darparu gwybodaeth am niwroamrywiaeth ar draws ein sianeli cyfryngau cymdeithasol.

Mae Wythnos Dathlu Niwroamrywiaeth yn ddathliad byd-eang o unigolion niwroamrywiol sy'n ceisio codi ymwybyddiaeth o ystod o anableddau niwroddatblygiad ac anableddau dysgu, a herio ystrydebau yn eu cylch. Cefnogir y dathliadau gan Lexxic, prif arbenigwyr niwroamrywiaeth y DU, sy’n cefnogi sefydliadau i ddod yn weithleoedd sy'n gynhwysol o ran niwrowahaniaeth. Cenhadaeth Lexxic yw 'ysbrydoli byd sy'n deall ac yn gwerthfawrogi dawn meddyliau niwrowahanol.'

Sefydlwyd yr ymgyrch yn 2018 gan Siena Castellon, unigolyn niwrowahanol sy'n ceisio newid y canfyddiadau negyddol am wahaniaethau dysgu. Sefydlodd hefyd ei gwefan ei hun sy'n darparu gwybodaeth i blant â niwrowahaniaethau - Quantum Leap Mentoring.

Dywedodd Siena Castellon, Sylfaenydd yr Ymgyrch Dathlu Niwroamrywiaeth:

“Sefydlais Wythnos Dathlu Niwroamrywiaeth yn 2018 oherwydd roeddwn i eisiau newid y canfyddiad am wahaniaethau dysgu. Fel person ifanc yn ei arddegau sy’n awtistig ac sydd ag ADHD, dyslecsia, a dyspracsia, fy mhrofiad i yw bod pobl yn aml yn canolbwyntio ar heriau mae'r cyflyrau yma'n eu hachosi.

“Roeddwn i eisiau newid y naratif a chreu safbwynt cytbwys sy’n canolbwyntio’n gyfartal ar ein talentau a’n cryfderau.

“Crëais y wefan yma pan oeddwn i'n 13 oherwydd fy mod i eisiau mentora a chefnogi plant disglair gyda gwahaniaethau dysgu. Rwy’n gwybod pa mor heriol yw hi i fyw â gwahaniaeth dysgu.”

Thema Wythnos Dathlu Niwroamrywiaeth eleni yw Herio Ystrydebau. Mae hyn yn golygu mynd ati'n weithredol i godi ymwybyddiaeth am niwroamrywiaeth a sut y gall niwrowahaniaethau ddod i’r amlwg, yn ogystal â chwalu’r mythau sy’n gysylltiedig ag unigolion niwrowahanol.

Mae tua 1 o bob 7 o bobl (mwy na 15% o bobl y DU) yn niwrowahanol.

Mae niwroamrywiaeth yn ymwneud â gwahaniaethau yn swyddogaeth ymennydd pobl o'r hyn a ystyrir yn niwronodweddiadol. Mae hyn yn golygu y gall unigolion niwroamrywiol brosesu gwybodaeth yn wahanol.

Gall niwroamrywiaeth ddod mewn sawl ffurf, gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i):

  • Awtistiaeth
  • ADCG / ADHD - Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd
  • Dyslecsia
  • Dyspracsia
  • Syndrom Tourette
  • Epilepsi

Meddai'r Cynghorydd Maureen Webber, Hyrwyddwr Cydraddoldeb a Dirprwy Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf: “Mae mor bwysig ein bod ni fel sefydliad yn gweithio tuag at greu amgylchedd gwaith cynhwysol ar gyfer ein cydweithwyr niwrowahanol.

“Fel Hyrwyddwr Cydraddoldeb y Cyngor, rydw i am bwysleisio ymrwymiad y Cyngor i ddod yn weithle amrywiol a chynhwysol ar gyfer ein staff, cwsmeriaid, a rhanddeiliaid.

“Rhaid i ni ddathlu gwahaniaethau ein haelodau staff, cofleidio’r hyn sy’n eu gwneud yn unigryw, ac edrych tuag at ffyrdd newydd o weithio sy’n meithrin galluoedd a thalentau pobl niwroamrywiol. Y cam cyntaf yw codi ymwybyddiaeth.

“Drwy godi ymwybyddiaeth ymhlith ein gweithwyr, byddwn ni'n gallu adnabod a chefnogi’n well y rhai sydd ag anghenion penodol, gan wneud ein gweithle yn amgylchedd cefnogol a chynhwysol lle gall unigolion niwrowahanol ffynnu.”

Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i hyrwyddo gwerth amrywiaeth a chynhwysiant trwy addysg ac ymwybyddiaeth i gyflawni diwylliant cynhwysol lle mae staff a phreswylwyr yn cael eu gwerthfawrogi am bwy ydyn nhw. Ar hyn o bryd, mae'r Cyngor yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd Lefel 2 cofrestredig yn rhan o gynllun Llywodraeth y DU. Yn rhan o hyn, mae'r Cyngor yn cynnig cyfweliad i bob ymgeisydd anabl (mae hyn yn cynnwys anableddau datgeledig a ddiffinnir o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010) sy'n bodloni'r meini prawf sylfaenol ar gyfer rôl swydd.

Mae'r Cyngor hefyd yn cefnogi niwroamrywiaeth trwy gyflwyno hyfforddiant Ymwybyddiaeth Awtistiaeth i holl staff y Cyngor. Mae nifer o feysydd gwasanaeth y Cyngor eisoes wedi derbyn eu hardystiad gan gynnwys yr Uwch Garfan Rheoli, Adnoddau Dynol, y Swyddfa Gwella Digidol ac Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd. Mae'r hyfforddiant yma'n parhau i gael ei ddarparu i'r holl staff. Dyfarnwyd ardystiad hefyd i Gabinet y Cyngor ym mis Chwefror 2023, sy'n golygu mai ein Cabinet ni yw'r cyntaf yng Nghymru i gyflawni hyn.

Meddai Louise Davies, Hyrwyddwr Niwroamrywiaeth yr Uwch Garfan Rheoli a Chyfarwyddwr Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymuned: “Yn fy rôl fel Hyrwyddwr Niwroamrywiaeth yr Uwch Garfan Rheoli mae’n bwysig i mi ein bod ni'n meithrin amgylchedd cynhwysol a chefnogol ar gyfer staff niwroamrywiol.

“Mae fy rôl i'n cynnwys eirioli dros unigolion niwrowahanol, hybu ymwybyddiaeth, a sicrhau bod ein polisïau a’n harferion yn gynhwysol ar gyfer unigolion niwrowahanol.

“Mae’r Cyngor ar hyn o bryd yn gweithio tuag at gynyddu’r hyfforddiant i staff ar niwroamrywiaeth yn y gweithle a gweithredu polisïau newydd sy’n gwneud gweithio’n fwy hygyrch i’n gweithwyr niwroamrywiol.”

Sefydlodd Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid (YEPS) y Cyngor ei Fforwm Ieuenctid Niwroamrywiaeth ym mis Medi 2023 hefyd. Mae'r Fforwm yn cynnwys deuddeg o bobl ifainc anhygoel ac unigryw rhwng 12 a 24 oed sy'n barod i ymgymryd â'r her o hyrwyddo newid cadarnhaol. 

Trwy waith prosiect a chynnal achlysuron, nod y fforwm yw:

  • Grymuso pobl ifainc niwroamrywiol i ddathlu eu niwrowahaniaethau.
  • Cefnogi aelodau'r Fforwm i archwilio eu dealltwriaeth eu hunain o sut mae niwroamrywiaeth yn effeithio ar eu bywydau a nodi'r cymorth sydd ei angen arnyn nhw.
  • Herio'r ystrydebau a'r rhagfarnau sy'n ymwneud â niwroamrywiaeth i'r gymuned ehangach.
  • Addysgu pobl ifainc am niwroamrywiaeth.
  • Hyrwyddo ymwybyddiaeth o niwroamrywiaeth ar draws nifer o lwyfannau.

Bydd y Fforwm yn cael ei lansio'n swyddogol yn ystod Wythnos Dathlu Niwroamrywiaeth gyda phrosiect cyffrous sy'n cefnogi anghenion synhwyraidd pobl ifainc. Mae aelodau'r Fforwm wedi dylunio a chynhyrchu blychau synhwyraidd ac wedi'u llenwi ag amrywiaeth eang o deganau 'fidget' i'r holl bobl ifainc sy'n mynychu unrhyw un o'n clybiau ieuenctid ar draws RhCT eu defnyddio. Mae teganau 'fidget' yn ffordd wych o leihau pryder a straen a chynyddu lefelau canolbwyntio.

Bydd aelodau'r Fforwm yn mynd gyda staff i glybiau ieuenctid i ddosbarthu'r blychau, esbonio'r adnoddau a hyrwyddo pwysigrwydd cydnabod eich anghenion synhwyraidd unigol.

Dywedodd aelodau'r Fforwm Ieuenctid Niwroamrywiaeth:

“Does dim ots pwy ydych chi, rydych chi'n cael eich derbyn yma.”

“Mae’n hwyl ac yn hapus, dyma’r lle gorau i fod.”

I weld rhagor o wybodaeth am Wythnos Dathlu Niwroamrywiaeth, ewch i: https://www.neurodiversityweek.com/

-----------------------------------

Mae Cynllun Hyderus o ran Anabledd Llywodraeth y DU yn anelu at ysgogi newid drwy annog cyflogwyr a sefydliadau i ymdrin ag anabledd yn wahanol ac i fynd ati i wella arferion recriwtio, cadw a datblygu gweithwyr anabl. Mae'r Cynllun yn cefnogi cyflogwyr i wneud y gorau o'r doniau y gall pobl anabl eu cynnig i'r gweithle. Mae sefydliadau sy'n Hyderus o ran Anabledd yn arwain y ffordd o ran newid agweddau pobl er gwell, gan newid yr ymddygiad a'r diwylliant yn eu sefydliadau ac elwa ar arferion recriwtio cynhwysol.

I weld rhagor o wybodaeth, ewch i'w gwefan: https://www.gov.uk/government/collections/disability-confident-campaign

Mae Lexxic yn gweithio gyda sefydliadau i rymuso unigolion niwroamrywiol i gael mynediad i amgylchedd gwaith cefnogol a chynhwysol. Mae Lexxic hefyd yn darparu gwasanaethau gweithle trwy bartneriaeth â sefydliadau i'w helpu i greu diwylliant cadarnhaol yn y gweithle ar gyfer unigolion niwroamrywiol. Maen nhw'n helpu i rymuso unigolion a charfanau trwy ddarparu hyfforddiant, technoleg gynorthwyol, asesiadau, ac atebion e-ddysgu.

I weld rhagor o wybodaeth, ewch i'w gwefan: https://lexxic.com/

Mae Awtistiaeth Cymru yn fenter gan Lywodraeth Cymru a sefydlwyd i roi gwybodaeth i bobl am awtistiaeth, cyfeirio unigolion a sefydliadau at wasanaethau a chyfleoedd hyfforddi, a darparu adnoddau am awtistiaeth ledled Cymru.

Maen nhw'n amcangyfrif bod awtistiaeth yn effeithio ar hyd at 1 o bob 100 o bobl, a thrwy ddarparu gwybodaeth ac ymwybyddiaeth maen nhw'n helpu i wireddu eu gweledigaeth, sef sicrhau bod Cymru yn genedl sy’n deall awtistiaeth.

I weld rhagor o wybodaeth, ewch i'w gwefan: https://autismwales.org/cy/

*Sylwer bod y datganiad i'r wasg a'r ymgyrch cyfryngau cymdeithasol yma wedi'u creu gan weithwyr niwroamrywiol*

Wedi ei bostio ar 18/03/2024