Skip to main content

Adroddiad cynnydd ar ddatblygiad ysgol cyffrous yn ardal Pont-y-clun

Pontyclun grid - Copy

Mae Staff a disgyblion yn ardal Pont-y-clun wedi croesawu Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg y Cyngor ar ymweliad - i ddathlu'r cynnydd sydd wedi'i wneud tuag at adeiladu eu hadeilad ysgol gynradd newydd sbon erbyn 2025.

Ymwelodd Y Cynghorydd Rhys Lewis ag Ysgol Gynradd Pont-y-clun ddydd Gwener, 1 Mawrth, lle mae'r cyfleusterau newydd sbon yn cael eu hadeiladu ar safle'r ysgol bresennol. Mae'r buddsoddiad yn cael ei ariannu ar y cyd gan y Cyngor a Llywodraeth Cymru drwy'r Model Buddsoddi Cydfuddiannol, sef ffrwd arian refeniw'r Rhaglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu.

Bydd Ysgol Gynradd Pont-y-clun yn derbyn adeilad newydd dwy lawr gyda chapasiti ar gyfer hyd at 480 o ddisgyblion (yn ogystal â meithrinfa). Bydd yr adeilad yn gweithredu ar sail Carbon Sero-Net gan ddarparu dosbarthiadau o Flwyddyn Derbyn hyd at Flwyddyn 6. Bydd ardal ganolog yn 'galon i'r adeilad' yn ogystal â neuadd fawr ac ystafelloedd ategol. Bydd meysydd chwarae ag arwyneb caled, dwy Ardal Gemau Aml-ddefnydd, ardal chwarae anffurfiol, cilfachau parcio, man gwefru ceir trydan a man storio beiciau yn cael eu hadeiladu hefyd.

Mae cynnydd da wedi'i wneud ers dechrau ar y gwaith y llynedd, gyda sylfeini'r adeilad newydd wedi'u cwblhau ym mis Rhagfyr 2023. Mae hyn wedi cynnwys adeiladu'r simneiau awyru dur ar lawr, yn barod i'w gosod yn ddiweddarach. Mae'r gwaith bellach wedi symud ymlaen at adeiladu ffrâm ddur yr adeilad - mae'r dasg yma wedi'i chwblhau yn ddiweddar gan gontractwr y Cyngor gan nodi carreg filltir bwysig yn y gwaith adeiladu.

O ganlyniad, mae slab cyfansawdd y llawr cyntaf wedi'i gwblhau, gyda slab y llawr gwaelod a gwaith ar y to yn cael eu cwblhau ar hyn o bryd.

Yn ystod ei ymweliad, gwnaeth Y Cynghorydd Lewis gwrdd â grŵp o ddisgyblion o'r ysgol gan fynd ar daith o amgylch safle'r datblygiad gan ymuno â staff a disgyblion wrth lofnodi ffrâm ddur yr adeilad newydd er mwyn dathlu'r cynnydd sydd wedi'i wneud hyd yn hyn. Cafodd y grŵp eu tywys gan y contractwr adeiladu Morgan Sindall gyda'r partner darparu WEPco a chynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru a Banc Datblygu Cymru.

Meddai'r Cynghorydd Rhys Lewis, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Addysg, Cyfranogiad Pobl Ifainc a'r Gymraeg: "Roedd yn bleser ymuno â staff a disgyblion o Ysgol Gynradd Pont-y-clun ar daith o amgylch safle gwaith eu hysgol newydd sbon. Mae'r buddsoddiad yma wedi bod yn bosibl o ganlyniad i gymorth sylweddol gan Lywodraeth Cymru, wrth i ni fuddsoddi ar y cyd i ddarparu cyfleusterau Addysg o'r radd flaenaf sy'n addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain - fydd yn gwneud gwahaniaeth mawr yn ein hysgolion a chymunedau ledled y Fwrdeistref Sirol. 

"Rydyn ni ar drothwy cyfnod cyffrous iawn gyda nifer o'n prosiectau parhaus am gael eu cwblhau yn y ddwy flynedd nesaf. Mae prosiect Ysgol Gynradd Pont-y-clun yn cael ei ddarparu ar y cyd ag adeiladau newydd ar gyfer Ysgol Gynradd Llanilltud Faerdref ac Ysgol Gynradd Pen-y-gawsi, yn unol â'r Model Buddsoddi Cydfuddiannol. Mae'r buddsoddiad Band B yn unol â'r Rhaglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu hefyd yn darparu buddsoddiad gwerth £75.6 miliwn ledled ardal ehangach Pontypridd yn 2024, gyda buddsoddiadau sylweddol yn ysgolion Cilfynydd, Beddau, Y Ddraenen-wen a Rhydfelen.

"Yn ogystal â hyn, mae'r Cyngor a Llywodraeth Cymru yn buddsoddi mewn ysgol newydd ar gyfer Ysgol Gynradd Gymraeg Llyn y Forwyn yn ardal Glynrhedynog eleni, gydag Arweinydd Dylunio wedi'u penodi i ddatblygu cynlluniau ymhellach ar gyfer ysgol newydd sbon yn ardal Glyn-coch, yn unol â'r Her Ysgolion Cynaliadwy.

"Roedd yn wych cael cwrdd â staff a disgyblion yn ardal Pont-y-clun, cefais groeso cynnes iawn ac roedden nhw'n gyffrous iawn i ddangos cynnydd gwaith adeiladu eu hysgol newydd. Fe wnes i fwynhau cymryd rhan wrth lofnodi ffrâm ddur yr adeilad, i ddathlu fod camau cyntaf y gwaith adeiladu wedi'u cwblhau. Rwy'n edrych ymlaen at weld y safle yn cael ei ddatblygu dros y misoedd nesaf, i ddatblygu cyfleusterau addysg ardderchog a hwb cymunedol ar gyfer cenedlaethau sydd i ddod."

Dechreuodd y gwaith ar y safle yn 2023, i osod cabanau addysgu dros dro, a chwblhau'r gwaith dymchwel angenrheidiol oedd ei hangen er mwyn dechrau ar y prif waith adeiladu. Bydd adeilad newydd yr ysgol wedi'i gwblhau erbyn gwanwyn 2025 pan fydd yn agor i ddisgyblion a staff. Bydd y cynllun ehangach yn parhau wedi hyn, gyda disgwyl i'r gwaith allanol gael ei gwblhau yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

Wedi ei bostio ar 13/03/2024