Skip to main content

Cronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU

Meddai'r Cynghorydd Bob Harris, Aelod o Gabinet Cyngor RhCT ar faterion Iechyd y Cyhoedd a Chymunedau:

"Mae'n wych gweld cynifer o grwpiau cymunedol a sefydliadau yn cyflwyno cais am gyllid grant gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU unwaith eto.

Yn dilyn trafodaethau gyda Swyddogion ar ôl i'r cyfnod cyflwyno cais ddod i ben ddydd Gwener diwethaf (8 Mawrth 2024), gallaf gadarnhau bod nifer sylweddol o geisiadau - cyfanswm o 159 - wedi'u derbyn (lefelau Isel a Chanolig).

Cyfanswm gwerth yr holl geisiadau am grant yw £3,250,812.24.

Yn anffodus, yn debyg i flynyddoedd blaenorol, mae cyfanswm gwerth yr holl geisiadau am grant yn llawer mwy na dyraniad y Cyngor ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf, sef £1,425,651. Bydd hyn yn golygu na fydd llawer o ymgeiswyr yn llwyddiannus.

Does dim dwywaith bod y broses cyflwyno cais yn gystadleuol iawn, felly mae'r Swyddogion wrthi'n asesu pob cais yn erbyn meini prawf a mesurau sgorio. Bydd y ceisiadau sydd wedi bodloni nodau ac amcanion y Gronfa yn cael eu cyflwyno i'r panel ar gyfer ystyriaeth bellach cyn dod i benderfyniad.''

Wedi ei bostio ar 14/03/2024