Skip to main content

Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion - Gofal a Chymorth

Mae Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol i Oedolion yn Rhondda Cynon Taf yn gweithio gydag oedolion sydd angen gofal, cymorth neu ryddid oddi wrth berygl er mwyn iddyn nhw gael byw yn ddiogel ac annibynnol yn eu cartrefi eu hunain, yn eu cymunedau eu hunain, gan fwynhau bywyd llawn.

Pa fath o wasanaethau rydyn ni'n eu darparu?

Dyma rai enghreifftiau o'n gwasanaethau:

Sut mae’r System Gofal a Chymorth yn gweithredu yn Rhondda Cynon Taf

Gofyn am ein cefnogaeth

Os ydych chi, neu rywun rydych chi'n gofalu amdano, angen help oddi wrthon ni, gallwch chi gysylltu â ni eich hun, neu roi caniatâd i'ch meddyg neu weithiwr iechyd proffesiynol arall i wneud hynny ar eich rhan. Wrth wneud hyn, byddwch chi, neu'r person proffesiynol, yn 'gwneud atgyfeiriad'.

Rydyn ni'n gweithio ar y cyd â'r gwasanaeth iechyd, sefydliadau preifat a grwpiau gwirfoddol, gwasanaethau tai ac eraill, i helpu pobl i oresgyn anawsterau drwy ddarparu cymorth i ddiwallu anghenion unigol.

Os ydych chi'n ei chael hi'n anodd ymdopi, gallwch chi ofyn i ni am gymorth drwy gysylltu â'n Carfan Ymateb ar Unwaith. Bydd aelod o'n carfan yn hapus i glywed rhagor am eich amgylchiadau ac i ddarparu gwybodaeth a chyngor a allai helpu neu drefnu asesiad o'ch anghenion gofal cymdeithasol, os yw'ch sefyllfa chi yn cyfiawnhau hynny.

Os oes angen cymorth hanfodol yn ymwneud â Gofal Cymdeithasol i Oedolion arnoch, ffoniwch 01443 425003 (Llun-Gwener 8.30am-5pm) neu'r Garfan ar Ddyletswydd ar gyfer Argyfyngau ar 01443 743665 / 01443 657225 (y tu allan i'r oriau yma).

Os ydych chi ar hyn o bryd yn hunan-ynysu oherwydd y Coronafeirws a does neb i'ch helpu a'ch cefnogi chi, mae modd ichi ofyn am gymorth nad yw'n frys yma.

Yn dilyn eich cyswllt cychwynnol drwy ein Carfan Ymateb ar Unwaith, efallai bydd angen ymchwilio ymhellach i'ch anghenion cymorth. Yn yr achosion yma, bydd ein Carfan Un pwynt Cyswllt yn asesu'r defnyddwyr gwasanaeth newydd i gael gwell dealltwriaeth o'r anawsterau rydych chi'n eu hwynebu ac a ydych chi'n gymwys i gael cymorth gennyn ni. 

Drwy drafod eich sefyllfa gyda chi a gwneud asesiad o'ch anghenion, byddwn ni'n gallu penderfynu a ydych chi'n gymwys i gael cymorth gennyn ni, a hyd tebygol y cymorth hwnnw wrth helpu i oresgyn eich anawsterau.

Os ydych chi angen cymorth dros dro i'ch helpu chi dros anffawd tymor byr, er enghraifft, cyfnod o salwch, cyfnod byr mewn ysbyty neu adeg o ansefydlogrwydd neu wendid yn eich bywyd, bydd ein Gwasanaeth Gofal ac Adferiad Tymor Byr yno i helpu. 

Os ydyn ni o'r farn bod eich anghenion yn fwy cymhleth neu fod angen cymorth parhaus dros gyfnod hwy o amser (dros 3 mis), gallwn ni gynnwys gwasanaeth gofal a chymorth tymor hwy. Bwriad y cymorth yma yw galluogi pobl i barhau i fyw'n annibynnol ac mae'n cael ei ddarparu gan ein Carfanau Ardal. Bydd y dull gweithredu yma yn ein galluogi ni (a sefydliadau partner mewn llawer o achosion) i weithio gyda chi i gynllunio'ch gofal a darparu'ch cymorth mewn ffordd briodol. 

Mae cynhalwyr yn gofalu am deulu, partneriaid, ffrindiau neu gymdogion sydd angen cymorth oherwydd eu bod nhw'n sâl, bregus neu sydd ag anabledd. Dydyn nhw ddim yn cael eu talu am y gwaith yma. Os oes rhywun yn gofalu amdanoch chi, efallai bydd ganddo'r hawl i gael asesiad o'i anghenion ei hun.

Oherwydd gofynion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, mae rhai o’n cyhoeddiadau yn cael eu diweddaru ar hyn o bryd. Os ydych chi’n methu â dod o hyd i’r wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi, anfonwch      neges e-bost at y garfan Ymchwil a Gwybodaeth: GwybodaethGofalCymdeithasol@rctcbc.gov.uk neu ffonio 01443 425003.

Cynllun Heneiddio'n Dda yng Nghymru Cwm Taf

Mae Heneiddio'n Dda yng Nghymru yn rhaglen genedlaethol sy’n cael ei chynnal gan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru. Mae'n dwyn ynghyd unigolion a chymunedau gyda sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol i ddatblygu a hyrwyddo ffyrdd arloesol ac ymarferol i wneud Cymru yn le da i bawb heneiddio.

Dyma gynllun gweithredu rhaglen Heneiddio'n Dda yng Nghymru ar gyfer Cwm Taf.


Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Cwm Taf Morgannwg

Nododd Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yr angen statudol i ranbarthau greu Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol er mwyn goruchwylio dulliau strategol integredig o ddarparu gwasanaethau integredig iechyd a gofal cymdeithasol.  Ers hynny, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi “Cymru Iachach: ein cynllun iechyd a gofal cymdeithasol” sy’n pwysleisio’r angen i atal salwch drwy helpu pobl i reoli eu hiechyd a’u lles eu hunain a galluogi pobl i fyw’n annibynnol cyhyd ag sy’n bosib.

Mae Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Cwm Taf Morgannwg yn dod â’r sector iechyd, gwasanaethau cymdeithasol, y sector tai, y trydydd sector a phartneriaid eraill ynghyd er mwyn datblygu gwasanaethau integredig yn effeithiol yng Nghymru.  Mae Uned Comisiynu Ranbarthol Cwm Taf Morgannwg yn gweithio ar ran y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol.

Darganfyddwch fwy am Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol Cwm Taf Morgannwg

 

Cronfa Gofal Integredig (ICF)

Roedd Canllawiau Refeniw, Cyfalaf a Dementia Cronfa Gofal Integredig Llywodraeth Cymru yn effeithiol o 1 Ebrill 2019 sy’n cefnogi Llywodraethau Cymru ’Cefnogi Cymru Iachach: Ein Cynllun ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Fel yr amlinellwyd yn y canllawiau nod y Gronfa Gofal Integredig yw gyrru a galluogi gweithio integredig a chydweithredol rhwng gwasanaethau cymdeithasol, iechyd, tai, y trydydd sector ac annibynnol. Y bwriad yw helpu Byrddau Partneriaethau Rhanbarthol i ddatblygu a phrofi dulliau a modelau darparu gwasanaeth newydd a fydd yn cefnogi egwyddorion sylfaenol integreiddio ac atal. Mae gwerthuso a dysgu wrth wraidd ICF ac mae'n hanfodol bod unrhyw Raglenni neu brosiectau ICF yn cael eu cynllunio gyda hyn mewn golwg.

Mae'r Canllawiau Statudol yn nodi'r grwpiau canlynol fel meysydd blaenoriaeth integreiddio a rhaid i bob Rhaglen ICF fynd i'r afael â hwy yn gymesur, yn unol â'u hasesiadau poblogaeth rhanbarthol a'u cynlluniau ardal:

  • pobl hŷn sydd ag anghenion cymhleth a chyflyrau hirdymor gan gynnwys dementia
  • pobl sydd ag anableddau dysgu,
  • plant sydd ag anghenion cymhleth oherwydd anabledd neu salwch
  • gofalwyr, gan gynnwys gofalwyr ifanc
  • plant y mae risg iddynt ddod yn rhai sy’n derbyn gofal, neu blant sydd mewn gofal neu sydd wedi’u mabwysiadu

Cyfalaf a Dementia y Gronfa Gofal Integredig 2021-22