Skip to main content
Corona-Welsh-content (1)

Gofal ac adferiad tymor byr

Mae'r Gwasanaeth Gofal ac Adferiad Tymor Byr yn cefnogi unrhyw un sydd dros 18 oed ac sydd yn breswylydd parhaol yn Rhondda Cynon Taf, ac sy'n gymwys ar gyfer derbyn ein cymorth.

Gall ein Gwasanaeth Gofal ac Adferiad Tymor Byr eich helpu chi os ydych chi:

  • yn gwella o salwch diweddar neu ddamwain ddiweddar
  • yn pryderu am fynd adref ar ôl bod yn yr ysbyty
  • yn ddigon iach i fynd adref ond yn poeni ynglŷn â'ch gallu i ymdopi
  • eisiau gwneud rhagor drosoch chi eich hun

Rydyn ni'n gweithio i hyrwyddo'ch annibyniaeth drwy eich annog chi i ddysgu neu ailgydio mewn sgiliau byw sylfaenol. Mae'r gwasanaeth yn cael ei ddarparu dros gyfnod byr. Does dim modd i ni weithio gyda chi am gyfnod amhenodol. Felly os oes angen cefnogaeth barhaus arnoch chi, byddwn ni'n ystyried opsiynau tymor hwy i'ch cefnogi chi.

Mae'r gwasanaeth yn darparu cymorth gyda byw o ddydd i ddydd, gan roi cymorth, anogaeth a goruchwyliaeth gyda thasgau megis:

  • gofal personol
  • paratoi bwyd
  • rhaglenni ymarfer corff
  • trefnu diogelwch yn y cartref ac yn yr awyr agored
  • sicrhau bod yr offer cywir gyda chi
  • gweithgareddau therapiwtig
  • eich cyfeirio chi at wasanaethau cymunedol eraill, er enghraifft, y prosiect Safe@Home a Theleofal (Telecare)

Byddwn ni'n asesu'ch anghenion a thrafod cynllun cymorth gyda chi. Gyda'n gilydd, byddwn ni'n nodi ac yn cytuno ar eich nodau a thargedau personol. Bydd y nodau yn amrywio gan ddibynnu ar eich amgylchiadau unigol, ac â'r bwriad o'ch helpu chi i aros mor annibynnol â phosibl yn eich cartref eich hun.

Efallai, yn rhan o'ch cynllun cymorth, y byddwch chi'n cael offer arbenigol yn ddefnyddiol i'ch helpu chi i fod yn annibynnol. Os yw hyn yn wir, byddai ein Therapyddion Galwedigaethol Cymunedol yn gallu rhoi cyngor ar sut y caiff cymhorthion ac addasiadau eu darparu.  

Mae ein Gwasanaeth Gofal ac Adferiad Tymor Byr yn cael ei ddarparu am ddim am gyfnod o 6 wythnos ar y mwyaf, ond dim ond tra byddwch chi angen ein help. Os byddwch chi'n parhau i gael cymorth ar ôl y cyfnod cychwynnol o 6 wythnos, bydd rhaid i chi dalu am y gwasanaeth yn unol â'n Polisi Codi Tâl Teg. Gallwn ni roi rhagor o fanylion i chi bryd hynny, fel na fyddwch chi'n derbyn bil annisgwyl.

Cysylltu â ni

Os ydych chi'n meddwl bod angen help arnoch chi, neu rywun rydych chi'n gofalu amdano, cysylltwch â'n:
Carfan Ymateb ar Unwaith
Ffôn: 01443 425003
E-bost: GwasanaethauCymdeithasol@rhondda-cynon-taf.gov.uk

Mae’r Gwasanaeth Argyfwng Tu allan i oriau arferol yn ymateb ar frys i argyfwng gofal cymdeithasol y tu allan i oriau swyddfa arferol, ar ŵyl y banc ac ar y penwythnos.

Ffôn: 01443 743665 / 01443 657225