Skip to main content

Gwifren Achub Bywyd a Mwy

Mae Gwifren Achub Bywyd a Mwy yn wasanaeth newydd sy'n cynnig sicrwydd a chymorth i chi a'ch anwyliaid, 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn.

Nod y gwasanaeth yw eich cynorthwyo chi i fyw'n ddiogel ac yn annibynnol, yn eich cartref eich hun, gyda'r sicrwydd bod help ar gael unwaith i chi wasgu botwm.

Mae Gwifren Achub Bywyd a Mwy yn adeiladu ar ddarpariaeth bresennol larymau personol y mae modd eu defnyddio i gysylltu â ni os ydych chi'n cael anhawster, gan gynnig cymorth ychwanegol gan y Gwasanaeth Ymatebwyr Symudol 24 awr y dydd, 7 awr yr wythnos.

Mae Ymatebwyr Symudol yn staff cymwys a phrofiadol sy’n gallu’ch cynorthwyo chi pan fydd sefyllfa frys yn digwydd, fel cwymp, a'ch helpu i wella.

Gwasanaeth Ymatebwyr Symudol - Sut mae'n gweithio?

  • Mae Larwm Personol yn eich cysylltu â Chanolfan Fonitro Gwifren Achub Bywyd sydd ar agor 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos
  • Bydd ymgynghorydd Gwifren Achub Bywyd yn siarad â chi trwy'r uned ymateb ac yn penderfynu pa gymorth sydd ei angen arnoch chi
  • Os yw'n briodol, bydd yr Ymatebwyr Symudol yn dod i'ch cartref chi ac yn asesu'ch sefyllfa
  • Bydd yr Ymatebwyr Symudol yn darparu'r cymorth perthnasol i chi er mwyn sicrhau eich bod chi'n ddiogel ac yn iach      

Mae'r holl Ymatebwyr Symudol wedi'u hyfforddi gan Wasanaeth Ambiwlans Cymru i asesu pob sefyllfa a defnyddio offer codi arbenigol, os oes angen. Mae ganddyn nhw'r profiad a'r sgiliau sydd eu hangen i ddarparu gofal a chymorth personol ac i sicrhau eich bod chi'n gyfforddus ac yn gysurus. Eich lles chi yw ein blaenoriaeth.

Os ydych chi'n cofrestru gyda'r gwasanaeth Gwifren Achub Bywyd a Mwy, byddwch chi'n derbyn y canlynol:

  • Uned ymateb Gwifren Achub Bywyd
  • Larwm personol
  • Strap ar gyfer eich garddwrn
  • Cortyn i rhoi'r larwm o gwmpas eich gwddf
  • Gwasanaeth Monitro 24/7
  • Gwasanaeth Ymatebwyr Symudol 24/7
  • Bocs diogel i gadw'ch allwedd wedi'i osod i chi
  • Gwiriad Blynyddol o'r System
  • Cynnal a Chadw'r Offer
  • Amnewid y Batri pan fo angen 

Pris
Dim ond £2.90 yr wythnos - ar gyfer y Gwasanaeth Gwifren Achub Bywyd arferol

Mae Gwasanaeth yr Ymatebwyr Symudol yn cael ei ariannu gan Gronfa Trawsnewid Llywodraeth Cymru ac mae'r gwasanaeth yma am ddim tan fis Tachwedd 2021. Mae’n debyg y bydd raid i chi dalu am y gwasanaeth yma ar ôl y cyfnod hwnnw os ydych chi’n parhau i dderbyn y gwasanaeth.

Rydyn ni ar gael 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos, gan gynnwys penwythnosau a Gwyliau Banc. Os hoffech chi siarad ag un o'n ymgynghorwyr cyfeillgar, ffoniwch ni ar: 01443 425090 (Bydd galwadau'n cael eu recordio yn rhan o'n hymrwymiad at hyfforddiant, archwilio a sicrhau ansawdd)

Trosglwyddor gwasanaeth llinellfywy diddigidol

Dewch o hyd i ragor o wybodaeth am y trosglwyddiad a sut y bydd yn effeithio ar Gwsmeriaid Gwifren Achub Bywyd?