Skip to main content

Beth yw larwm llinell fywyd?

Mae technoleg Larwm Cymunedol Gwifren Achub Bywyd yn wasanaeth larwm gartref sydd ar gael i bobl sydd angen byw bywyd yn annibynnol, ac yn ddiogel yn eu cartrefi'u hunain.

Mae ar gael i unrhyw un sy'n byw yn Rhondda Cynon Taf am dâl wythnosol bach.

Mae'r larwm yn cynnwys prif ddarn o offer sy'n cysylltu â'n canolfan fonitro bob awr o'r dydd trwy gerdyn SIM, ynghyd â botwm mae modd ei wisgo ar gortyn neu ar yr arddwrn (hyd yn oed yn y gawod). Bydd modd pwyso'r botwm i alw am gymorth unrhyw bryd, o fore gwyn tan nos. Byddwch chi hefyd yn derbyn sêff allweddi yn rhan o'ch gwasanaeth Gwifren Achub Bywyd. 

Mae Gwifren Achub Bywyd hefyd yn cynnig cymorth ychwanegol Gwasanaeth Ymatebwyr Symudol 24/7. Mae Ymatebwyr Symudol yn staff cymwys a phrofiadol sy'n gallu'ch cynorthwyo chi pan fydd sefyllfa frys yn digwydd, fel cwymp, a'ch helpu i wella.

Gwasanaeth Ymatebwyr Symudol - Sut mae'n gweithio?

  • Mae Larwm Personol yn eich cysylltu â Chanolfan Fonitro Gwifren Achub Bywyd sydd ar agor 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos
  • Bydd ymgynghorydd Gwifren Achub Bywyd yn siarad â chi trwy'r uned ymateb ac yn penderfynu pa gymorth sydd ei angen arnoch chi
  • Os yw'n briodol, bydd yr Ymatebwyr Symudol yn dod i'ch cartref chi ac yn asesu'ch sefyllfa
  • Bydd yr Ymatebwyr Symudol yn darparu'r cymorth perthnasol i chi er mwyn sicrhau eich bod chi'n ddiogel ac yn iach

Mae'r holl Ymatebwyr Symudol wedi'u hyfforddi gan Wasanaeth Ambiwlans Cymru i asesu pob sefyllfa a defnyddio offer codi arbenigol, os oes angen. Mae ganddyn nhw'r profiad a'r sgiliau sydd eu hangen i ddarparu gofal a chymorth bersonol ac i sicrhau eich bod chi'n gyfforddus ac yn gysurus.  Eich lles chi yw ein blaenoriaeth.

Os ydych chi'n cofrestru gyda'r gwasanaeth Gwifren Achub Bywyd, byddwch chi'n derbyn y canlynol:

  • Uned ymateb Gwifren Achub Bywyd
  • Larwm personol
  • Strap ar gyfer eich garddwrn
  • Cortyn i rhoi'r larwm o gwmpas eich gwddf
  • Gwasanaeth Monitro 24/7
  • Gwasanaeth Ymatebwyr Symudol 24/7
  • Bocs diogel i gadw'ch allwedd wedi'i osod i chi
  • Gwiriad Blynyddol o'r System
  • Cynnal a Chadw'r Offer
  • Amnewid y Batri pan fo angen

Gwneud cais am Larymau Brys Gwifren Achub Bywyd

Mae modd gwneud cais am larwm Gwifren Achub Bywyd trwy gysylltu â:

Gwasanaethau'r Wifren Achub Bywyd

Ffôn: 01443 425090  

 

Trosglwyddor gwasanaeth llinellfywy diddigidol

Dewch o hyd i ragor o wybodaeth am y trosglwyddiad a sut y bydd yn effeithio ar Gwsmeriaid Gwifren Achub Bywyd?