Skip to main content

Cynllun Llifogydd

Os ydych chi'n byw mewn ardal sydd mewn perygl o lifogydd, gwnewch yr hyn rydych chi'n gallu nawr i baratoi ar gyfer llifogydd.

Mae modd i lifogydd ddigwydd yn gyflym, gan roi ychydig o amser i chi weithredu. Gall bod yn barod gyda Chynllun Llifogydd ysgrifenedig cynhwysfawr ar gyfer eich cartref a/neu fusnes helpu i sicrhau eich bod chi, eich teulu a’ch gweithlu yn ddiogel a bod difrod i eiddo’n cael ei leihau pe bai llifogydd yn digwydd.

Beth yw cynllun llifogydd? 

Mae Cynllun Llifogydd yn ddogfen ysgrifenedig sy'n gallu eich cyfarwyddo pe bai llifogydd yn eich effeithio. Mae’n cynnwys paratoi rhestr o bethau y dylech eu gwneud (fel symud eitemau sentimental i le diogel) ac mae’n rhoi lle i chi nodi manylion cyswllt pwysig fel eich cysylltiadau brys, cwmnïau cyfleustodau a darparwyr yswiriant, fel eu bod nhw wrth law pe bai llifogydd.

Cynllun Llifogydd Personol 

Er mwyn helpu i wella parodrwydd unigolion a chymunedau a'u gallu i wrthsefyll llifogydd, mae'r Cyngor wedi llunio templed Cynllun Llifogydd Personol. Lawrlwythwch, argraffwch a llenwch y Cynllun Llifogydd Personol yma. Meddyliwch am bwy mae modd i chi ofyn am help ganddyn nhw, neu i bwy y gallech chi gynnig cymorth fel ffrindiau, teulu neu gymdogion bregus.

Bydd angen i chi hefyd feddwl am leoliad diogel ar gyfer unrhyw anifeiliaid anwes. Dysgwch sut i gadw'ch anifeiliaid anwes yn ddiogel trwy'r RSPCA a Blue Cross.

Cynllun Llifogydd Busnes

Bydd sicrhau bod gan eich busnes gynllun llifogydd effeithiol ar waith yn eich galluogi chi i ymateb i lifogydd yn fwy effeithlon. Mae modd i chi wneud hyn trwy greu cynllun gweithredu sylfaenol, cofrestru nifer o aelodau staff i dderbyn rhybuddion llifogydd, ac ystyried eich opsiynau ar gyfer yswiriant busnes.

Mae modd i chi lawrlwytho Cynllun Busnes Llifogydd o wefan Cyfoeth Naturiol Cymru yma.

Cynllun Llifogydd Cymunedol 

Os ydych chi'n byw mewn ardal lle mae perygl llifogydd, mae'n syniad da cael cynllun llifogydd ar gyfer y gymuned. Mae modd i hyn helpu'r gymuned gyfan i ymateb yn gyflym, amddiffyn cymdogion bregus, a darparu gwybodaeth bwysig i'r gwasanaethau brys.

Am ragor o wybodaeth am greu cynlluniau llifogydd cymunedol, ewch i dudalen we CNC - Cyfoeth Naturiol Cymru / Cynllun llifogydd cymunedol

Unwaith y bydd wedi'i gwblhau, dylech chi:

- Cadw eich Cynllun Llifogydd yn rhywle diogel a hawdd ei gyrraedd mewn ffolder gwrth-ddŵr.

- Ystyriwch baratoi pecyn llifogydd brys. Lawrlwythwch ein rhestr wirio pecyn llifogydd yma.

- Gofalwch fod pawb yn eich cartref a/neu fusnes yn gyfarwydd â'r Cynllun Llifogydd ac yn ei ddeall.

- Gwiriwch eich Cynllun Llifogydd yn rheolaidd i sicrhau ei fod yn gyfredol.

Mae modd i chi wirio eich perygl llifogydd drwy ymweld â gwefan CNC i weld eich perygl llifogydd yn ôl eich cod post yma neu wirio eich risg llifogydd ar fap (Map Asesiad Perygl Llifogydd Cymru) yma.