Skip to main content

Amddiffyn eich Eiddo

Mae llifogydd yn risg sylweddol i lawer o gymunedau yn Rhondda Cynon Taf.

Nod Cynlluniau Lliniaru Llifogydd yw rheoli, ac mewn rhai achosion leihau, y perygl o lifogydd, fodd bynnag, does dim modd cael gwared â'r perygl llifogydd yn gyfan gwbl. Mae modd i chi ddysgu rhagor am Gynlluniau Lliniaru Llifogydd Rhondda Cynon Taf ar ein tudalen bwrpasol yma.

Yn ffodus, mae nifer o bethau y mae modd i chi eu gwneud i leihau’r risg y bydd dŵr yn mynd i mewn i’ch cartref neu fusnes a lleihau ei effeithiau os bydd dŵr yn mynd i mewn.

Y technegau a ddefnyddir amlaf yw Gwytnwch eiddo yn erbyn llifogydd a Mesurau Gwrthsefyll Llifogydd ar gyfer Eiddo.

Gwytnwch Eiddo yn Erbyn Llifogydd

Mae Gwytnwch Eiddo yn Erbyn Llifogydd yn ymwneud â lleihau effeithiau llifogydd, pe bai dŵr yn mynd i mewn i'ch eiddo. Y nod yw sicrhau bod y difrod yn cael ei leihau, ac rydych chi'n gallu dychwelyd i'ch cartref neu fusnes cyn gynted â phosibl.

Dylai'r mesurau yma gael eu teilwra i bob eiddo neu fusnes, gan gynnwys codi socedi trydan a gosod lloriau solet neu orchudd llawr teils a chymryd camau syml yn ystod llifogydd megis symud dodrefn ac eiddo gwerthfawr i fyny'r grisiau.

Gwrthsefyll Llifogydd ar gyfer Eiddo

Mae Gwrthsefyll Llifogydd ar gyfer Eiddo yn ymwneud â lleihau'r risg y bydd dŵr yn mynd i mewn i eiddo. Gall y mesurau yma roi amser i chi symud eitemau o lefel y llawr yn ogystal â chael pobl i fan diogel os oes disgwyl llifogydd.

Mae mesurau Gwrthsefyll Llifogydd ar gyfer Eiddo yn cynnwys atal neu arafu llif y dŵr sy'n mynd i mewn i'ch eiddo yn y lle cyntaf. Mae'r mesurau yn defnyddio cyfuniad o gynhyrchion sy'n amrywio o rwystrau llifogydd y mae modd eu hehangu, gorchuddion brics aer, pympiau, topynnau toiled a falfiau unffordd.

Mae modd i chi gael rhagor o wybodaeth am fesurau Gwytnwch Eiddo yn Erbyn Llifogydd a Gwrthsefyll Llifogydd ar gyfer Eiddo trwy'r tudalennau canlynol:

  • Blue Pages yw prif gyfeiriadur llifogydd annibynnol y DU ac mae ganddo ystod o wybodaeth am gynhyrchion a gwasanaethau Gwytnwch Eiddo yn Erbyn Llifogydd a Gwrthsefyll Llifogydd ar gyfer Eiddo yma.
  • Mae Be Flood Ready UK yn cynnig rhagor o wybodaeth am fesurau Gwytnwch Eiddo yn Erbyn Llifogydd a Gwrthsefyll Llifogydd ar gyfer Eiddo yma.
  • Mae'r Fforwm Llifogydd Cenedlaethol yn cynnig rhagor o gyngor a gwybodaeth ar ddiogelu eich eiddo yma. Mae gan y Fforwm Llifogydd Cenedlaethol hefyd ganllaw defnyddiol sy'n cyflwyno chwe cham mae modd i chi eu cymryd i gyflwyno mesurau Gwytnwch Eiddo yn Erbyn Llifogydd a Gwrthsefyll Llifogydd ar gyfer Eiddo. Mae modd gweld y Canllawiau i Berchnogion Eiddo yma.

Camau mae modd i chi eu cymryd nawr i leihau’r perygl o lifogydd i’ch eiddo.

  • Gwiriwch eich polisi yswiriant - Dylech chi ofalu bod gyda chi yswiriant digonol i amddiffyn eich eiddo rhag llifogydd. Mae rhagor o wybodaeth am Yswiriant Llifogydd ar ein tudalen ni yma.
  • Adnodd cyngor ar gyfer diogelu eiddo - Ewch i'r Fforwm Llifogydd Cenedlaethol a defnyddiwch eu hadnodd diogelu eiddo ar-lein i wirio'r opsiynau sydd ar gael. Bydd yr adnodd yma'n rhoi amcangyfrif cychwynnol o gostau mesurau gwrthsefyll llifogydd ar gyfer gwahanol fathau o eiddo.
  • Mae'r Homeowners Alliance hefyd yn cynnig rhai syniadau defnyddiol ar sut i atal llifogydd yn eich cartref ac mae modd eu gweld yma
  • Gwiriwch eich perygl llifogydd – Mae rhagor o wybodaeth am sut i wirio eich perygl llifogydd ar ein tudalen bwrpasol yma.
  • Cofrestrwch ar gyfer rhybuddion tywydd a llifogydd – Mae rhagor o wybodaeth am sut i gofrestru ar gyfer rhybuddion tywydd a llifogydd ar ein tudalen bwrpasol yma.