Skip to main content

A oes angen cymeradwyaeth arnaf

Daeth Atodlen 3 Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr i rym ar 7 Ionawr 2019. Yn hynny o beth, rhaid i unrhyw ddatblygiad sydd â mwy nag un annedd  neu lle mae'r darn o dir sydd dan waith adeiladu ac yn 100 metr sgwâr neu fwy,  gael cymeradwyaeth Gorff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy (SuDS), yr SAB cyn bydd modd i unrhyw waith adeiladu ddechrau. 

O'r dyddiad yma, rhaid dylunio ac adeiladu datblygiadau yn unol â'r Safonau Statudol ar gyfer Systemau Draenio Cynaliadwy (SuDS)

Please Note

Nodwch:

  • Dydy Datblygiad sydd wedi derbyn Caniatâd eisioes ddim wedi'i      eithrio o'r uchod.
  • Rhaid      rhoi cymeradwyaeth cyn gwneud unrhyw waith adeiladu er mwyn dechrau ar y      broses ddraenio cynaliadwy.
  • Mae'r Broses yma'n ychwanegol at ac yn unol â gofynion Deddf Cynllunio Gwlad a Thref

Mae gwaith adeiladu'n cael ei ddiffinio yn rhan o'r Rheoliad yn:

  • Unrhyw beth sy'n cael ei wneud, mewn cysylltiad ag neu wrth baratoi ar gyfer creu adeilad neu strwythur arall.
  • Mae goblygiadau draenio ar unrhyw waith adeiladu os bydd yr adeilad neu'r strwythur yn effeithio ar allu tir i amsugno dŵr glaw.

Eithriadau i Gymeradwyaeth

  • Mae'r rheoliadau yn nodi bod y gwaith datblygu / adeiladu isod wedi'i eithrio o'r gofynion ar gyfer cymeradwyaeth gan SAB:
  • Gwaith adeiladu sy'n cael ei wneud gan fwrdd draenio mewnol yn arfer ei swyddogaethau o dan Deddf Draenio Tir 1991
  • Gwaith adeiladu sy'n cael ei wneud at ddiben neu mewn cysylltiad â ffordd y mae Gweinidogion Cymru yn awdurdod priffyrdd ar ei chyfer.
  • Gwaith adeiladu sy'n cael ei wneud at ddiben diben neu mewn cysylltiad â rheilffyrdd gan Network Rail.
  • Lle rhoddwyd caniatâd cynllunio neu y barnwyd ei fod wedi'i roi cyn 7 Ionawr 2019
  • Lle derbyniodd yr awdurdod cynllunio lleol gais dilys am ganiatâd cynllunio cyn 7 Ionawr 2019

Eithriadau o Gymeradwyo Dros Dro

Mae'r gofyniad am gymeradwyaeth a chytundebau derbyn yr SAB ar gyfer draenio dŵr wyneb yn berthnasol i ddatblygiadau newydd yn unig a dydy hynny ddim yn  ôl-weithredol. Fydd hi ddim yn ofynnol i safleoedd a datblygiadau presennol sydd wedi eu barnu eu bod gyda nhw ganiatâd cynllunio, (oni bai bod unrhyw fater wedi ei gadw yn ôl am unrhyw rheswm - gweler isod) neu bod cais dilys wedi ei dderbyn, ond heb ei benderfynu arno erbyn 7 Ionawr 2019, fydd dim rhaid gwneud cais ychwanegol am gymeradwyaeth yr SAB.

Rhaid cael cymeradwyaeth yr SAB ar gyfer datblygiadau sydd wedi derbyn caniatâd ond sydd yn 100 metr sgwâr neu fwy a sydd wedi eu hysbysu ar ôl 7 Ionawr 2019.

Rhaid cael cymeradwyaeth SAB os rhoddwyd y caniatâd cynllunio yn amodol i fater a gadwyd yn ôl a dydy'r cais i gymeradwyo'r mater yma ddim wedi ei wneud cyn 7 Ionawr 2020.

Ydy hyn yn Berthnasol i Mi?

Os ydych chi'n ansicr a oes angen cymeradwyaeth arnoch chi, e-bostiwch SAB ar Ceisiadau.SAB@rctcbc.gov.uk neu os hoffech gael cymorth gyda'ch cais, ewch i'n tudalen we Cyngor Cyn Ymgeisio.

Sut i wneud cais

I wneud cais draenio cynaliadwy, ewch i Dudalen cais draenio cynaliadwy.

I wneud Cais Ymlaen Llaw i Gorff Cymeradwyo Draenio Cynaliadwy, ewch i Dudalen Cais Ymlaen Llaw.