Skip to main content

Swyddogaeth a Chyfrifoldebau - Hawliau Tramwy Cyhoeddus

Pa gyfrifoldebau sydd gan y Cyngor?

Mae'r Cyngor yn gweithio i gynnal y rhwydwaith hawliau tramwy cyhoeddus mewn partneriaeth â chynghorau cymuned ac Awdurdod Parc Cenedlaethol y Bannau Brycheiniog.

Er mwyn cynnal rhwydwaith hawliau tramwy cyhoeddus, rydyn ni'n cyflawni'r tasgau isod:

  • gosod arwyddion ble mae llwybrau yn gadael ffordd fetel a'u cynnal a chadw
  • gosod arwyddion ar lwybrau sydd ddim yn glir
  • cynnal arwyneb y llwybr ar gyfer cerddwyr a cheffylau (ble y bo'n addas)
  • torri a chlirio llystyfiant
  • gosod pontydd a'u cynnal a chadw (ble y bo’n addas)
  • cyflawni gwaith draenio

Beth yw eich cyfrifoldebau chi wrth ddefnyddio'r llwybr?

  • Mynd â’ch sbwriel adref
  • Cadw cŵn dan reolaeth a chodi eu baw
  • Cadw'n ddiogel - cynllunio ymlaen llaw, paratoi ar gyfer tywydd garw, a mynd â map diweddar
  • Dilyn y Cod Cefn Gwlad - dangos parch i bawb, diogelu'r amgylchedd, mwynhau'r awyr agored, bod yn effro i arwyddion a symbolau cefn gwlad

·         Canllawiau ar gyfer y rheiny sy'n defnyddio llwybrau cyhoeddus yn ystod tywydd garw neu ar ôl hynny

Mae'r rhwydwaith llwybrau cyhoeddus yn cynnwys llwybrau, llwybrau ceffylau a chilffyrdd. Mae ansawdd wynebau'r llwybrau yma yn amrywio yn ôl eu defnydd. Er enghraifft, dylai wyneb llwybr cerdded fod yn addas ar gyfer ei ddefnyddio fel llwybr cyhoeddus ar droed. Bydd wyneb naturiol ar rai o'r llwybrau, a bydd eu hansawdd yn amrywio yn ôl lleoliad, cyflwr y tywydd a'r tymhorau. Bydd yr un peth yn wir am lwybrau lled-drefol, a allai fod â wyneb tarmac neu garreg.

Mae pawb sy'n defnyddio llwybr cyhoeddus yn gyfrifol am gymryd y camau gofal angenrheidiol ymlaen llaw cyn eu defnyddio. O ganlyniad i hynny, dylai'r defnyddiwr asesu cyflwr cyffredinol y llwybr, cymryd gofal priodol a bod yn barod i ddefnyddio llwybr arall yn ôl yr angen. Yn ogystal â hynny, dylai'r defnyddiwr wisgo dillad ac esgidiau addas, gan ddibynnu ar y tywydd. Efallai y bydd dillad sy'n gwrthsefyll dŵr, esgidiau glaw (wellingtons) a/neu ddillad cynnes ychwanegol yn briodol.   

Dylai'r defnyddiwr gymryd gofal arbennig yn ystod tywydd garw neu ar ôl tywydd garw, e.e. cyfnodau o law anarferol o drwm sy'n peri i rai wynebu fynd yn llithrig a/neu'n wlyb gan ddibynnu ar y tir.

Beth yw fy nghyfrifoldebau i fel rheolwr neu berchennog tir?

Mae'r Cyngor yn gweithio gyda pherchnogion tir lleol sydd â chyfrifoldeb i wneud y canlynol:

  • Bod yn effro i ble mae hawliau tramwy cyhoeddus yn croesi eu tir a sicrhau bod contractwyr a staff eraill yn effro i leoliad hawliau tramwy cyhoeddus wrth gynnal gwaith ar y tir.
  • Cadw llwybrau'n rhydd o rwystrau a llystyfiant sy'n hongian.
  • Cynnal a chadw camfâu a giatiau a sicrhau eu bod nhw’n ddiogel i'r cyhoedd.
  • Peidio ag atal neu rwystro'r cyhoedd rhag defnyddio hawl tramwy cyhoeddus (gan gynnwys gosod arwyddion camarweiniol) a pheidio â pheri niwed i'r cyhoedd.
  • Peidio â chadw anifeiliaid peryglus neu anifeiliaid sy'n ymddwyn mewn ffordd nad oes modd ei rhagweld mewn cae sy'n rhan o rwydwaith hawl tramwy cyhoeddus.
  • Sicrhau bod teirw bîff sy'n hŷn na 10 mis yn cael eu cadw gyda gwartheg neu heffrod, a pheidio â rhoi buchod godro sy'n hŷn na 10 mis mewn cae sy'n rhan o rwydwaith hawl tramwy cyhoeddus (Cyngor yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch)
  • Peidio ag achosi niwsans i ddefnyddwyr y llwybr wrth ganiatâu saethu. Os oes gyda chi unrhyw bryderon ynglŷn â drylliau sy’n cael e defnyddio mewn modd peryglus neu anghyfrifol, cysylltwch â'r heddlu - Cod Arferion Saethu Da.
  • Peidio â throi'r pridd ar hyd hawl tramwy cyhoeddus ar ymyl cae, neu unrhyw gilffordd sydd wedi'i rhwystro.
  • Ailagor llwybrau cerdded a llwybrau ceffylau sy’n mynd ar draws caeau ar ôl troi neu drin y pridd, a pheidio â phlanu cnydau yno.