Skip to main content

Cau Hawliau Tramwy Cyhoeddus - Cwestiynau Cyffredin

Rwy' wedi rhoi gwybod am broblem, beth fydd yn digwydd nesaf?

Wrth roi gwybod am broblem trwy gwblhau ffurflen ar-lein neu gysylltu’n uniongyrchol â Gwasanaethau i Gwsmeriaid, byddwch chi'n derbyn cyfeirnod 16 digid unigryw.

Bydd swyddog yn cael ei benodi a bydd y swyddog hwnnw yn ymchwilio i'r mater o fewn 15 diwrnod gwaith. Ar ôl i chi roi gwybod am y broblem, bydd modd rhoi rhagor o wybodaeth neu wneud cais am ddiweddariad. Mae hefyd modd cysylltu â ni trwy Gwasanaethau i Gwsmeriaid gan nodi eich cyfeirnod unigryw.

Rydw i wedi dod o hyd i rwystr ar hawl tramwy cyhoeddus. Beth ddylwn i ei wneud?

Boed y rhwystr wedi'i achosi gan lystyfiant neu wedi'i achosi gan ddyn, mae modd ein helpu ni drwy roi gwybod gan ddefnyddio ein ffurflen 'Rhoi gwybod'.

Os ydych chi'n dod o hyd i rwystr anghyfreithlon, mae modd i chi wyro oddi ar y llwybr er mwyn mynd o'i amgylch neu symud cymaint ag sydd ei angen er mwyn mynd heibio. Fodd bynnag, yn y ddau achos, rhaid i chi fod yn ofalus i beidio ag achosi unrhyw ddifrod ac ystyried peidio â pharhau ar hyd yn llwybr - mae'n bosibl y byddwch chi'n cael eich dal yn gyfrifol am unrhyw ddifrod.

Beth yw'r gwahaniaeth rhwng Hawl Tramwy Cyhoeddus a Hawl Tramwy Preifat?

Mae Hawl Tramwy Cyhoeddus yn caniatáu i bobl ddefnyddio llwybr yn gyson, yn aml dros dir preifat, ac i wyro o amgylch unrhyw rwystr sydd ar y llwybr. Mae modd i'r cyhoedd ddefnyddio'r llwybr yma i gerdded, marchogaeth, beicio neu ddefnyddio beic modur, gan ddibynnau ar ei statws.

Hawl tramwy preifat yw caniatâd sy'n cael ei roi i unigolyn neu grŵp o bobl i groesi un eiddo er mwyn cyrraedd eiddo arall. Dydy'r Cyngor ddim yn cadw cofnod o hawliau tramwy preifat; mynnwch gyngor cyfreithiol eich hun er mwyn deall a yw'r hawliau yma'n bodoli.

Ydy Hawl Tramwy Cyhoeddus yn dod i ben os nad yw'r llwybr yn cael ei ddefnyddio?

Nac ydy. Ar ôl i lwybr ddod yn Hawl Tramwy Cyhoeddus, bydd hynny'n parhau am gyfnod amhenodol. Dim ond trwy orchymyn cyfreithiol mae modd cau Hawl Tramwy Cyhoeddus yn barhaol.

Sut ydw i'n rhoi gwybod am achosion o ddefnydd anghyfreithlon o lwybrau cerdded a llwybrau ceffylau gan feiciau a cherbydau oddi ar y ffordd?

Os ydych chi'n credu bod cerbyd â modur yn defnyddio llwybr cerdded neu lwybr ceffylau yn anghyfreithlon neu'n achosi niwsans, mae'n bwysig rhoi gwybod yn uniongyrchol i Heddlu De Cymru a darparu cymaint o wybodaeth â phosibl.

Dyma fanylion cyswllt Heddlu De Cymru:

•             Ffonio 101

•             Rhoi gwybod ar-lein Tudalen gartref | Heddlu De Cymru trwy ddefnyddio'r botwm 'report' neu ar  Darparu mwy o wybodaeth i’w hychwanegu at adroddiad trosedd | Heddlu De Cymru

•             E-bostio swp101@south-wales.police.uk

•             Anfon neges breifat i Heddlu De Cymru ar Facebook

•             Anfon neges breifat i Heddlu De Cymru ar Twitter @swpolice

Mae'r Cyngor yn gweithio gyda Heddlu De Cymru i fynd i'r afael â gweithgareddau anghyfreithlon oddi ar y ffyrdd a bydd data achosion yn fuddiol er mwyn sicrhau bod gwaith yn y dyfodol yn targedu mannau poblogaidd o fewn y Fwrdeistref Sirol.

Sut galla i wneud ymholiad masnachol a faint bydd hynny'n ei gostio?  

Mae ffi broffesiynol ynghlwm ag ymateb i ymholiad masnachol am Hawl Tramwy Cyhoeddus. Ar hyn o bryd y gost yw £33.87 (gan gynnwys TAW). Fel arfer, byddwch chi'n derbyn ymateb o fewn 5 dydd ar ôl gwneud taliad.

Er mwyn gwneud ymholiad, anfonwch e-bost i CefnGwlad@rctcbc.gov.uk am ragor o wybodaeth.