Skip to main content

Adroddiad Adolygu Cynllun Datblygu Lleol Rhondda Cynon Taf 2006-2021

Mae'n ofynnol i Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, yn ôl y gyfraith, baratoi a chynnal Cynllun Datblygu Lleol. Cafodd y Cynllun Datblygu Lleol presennol (2006-2021) ei fabwysiadu yn 2011. Cafodd Adolygiad ffurfiol o'r Cynllun Datblygu Lleol (2006-2021) ei ystyried yn hanfodol ym misoedd cynnar 2019 a chafodd ei gynnal o fis Mehefin ar ôl cymeradwyaeth Cabinet RhCT. Ar 17 Hydref 2019, cymeradwyodd y Cabinet Adroddiad Adolygu (Drafft) cynhwysfawr dilynol. Ar ôl hyn, roedd cyfnod o ymgynghori wedi'i dargedu â rhanddeiliaid statudol ar y ddogfen yma; a hynny cyn i'r Cyngor gytuno ar Adroddiad Adolygu terfynol y Cynllun Datblygu Lleol (2006-2021) ar 27 Tachwedd 2019. Y prif gasgliad oedd I baratoi Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig. Cafodd ei gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru ar 14ed Medi 2020. Gellir gweld yr Adroddiad Adolygu yma.

Os hoffech weld copi caled o'r ddogfen, mae hwn ar gael i'w weld yn ein llyfrgelloedd a chanolfannau Un Bob Un.  Mae copi o'r ddogfen hefyd ar gael i'w harchwilio yn ein prif swyddfa yn Ty Sardis, Pontypridd yn ystod oriau swyddfa arferol, yn amodol ar apwyntiad ymlaen llaw. 

Dyma ganlyniadau ehangach yr Adroddiad Adolygu;

EErs llunio'r Cynllun Datblygu Lleol presennol, mae nifer o newidiadau cyd-destunol wedi bod o ran nifer o agweddau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol ar gymdeithas, a hynny mewn cysylltiad â'r Cynllun Datblygu Lleol a'r  modd y mae'n cael ei gyflawni. Ar y cyd â hyn y mae'r prif newidiadau sydd wedi'u gwneud i ddeddfwriaeth genedlaethol a pholisi cynllunio cenedlaethol ers paratoi'r Cynllun Datblygu Lleol presennol. Canlyniad hyn oll yw bod angen diweddaru ac ehangu sail dystiolaeth bresennol y Cynllun Datblygu Lleol lle bo'n addas. Yn y pen draw, byddai angen casglu hyn a thystiolaeth bellach i ddiwygio Strategaeth y Cynllun, yn ogystal â'r holl bolisïau a dyraniadau cysylltiedig, yn ôl yr angen.

Mae canlyniadau 10 Adroddiad Monitro Blynyddol y Cynllun Datblygu Lleol sydd wedi'u cyhoeddi hyd yn hyn yn dangos bod holl feysydd pwnc y Cynllun Datblygu Lleol wedi datblygu'n sylweddol dros gyfnod y cynllun. Serch hynny, dydy hyn ddim ar y raddfa wedi'i nodi yn y Cynllun, nac ar bob dyraniad safle. Yn ogystal â hyn, mae'r adran gynllunio wedi derbyn nifer o geisiadau cynllunio y tu allan i ffiniau anheddiad y Cynllun Datblygu Lleol. Mae'n anoddach penderfynu ar y rhain mewn modd cyson. Mae'r Cynllun presennol yn dod i ben yn 2021.

Roedd hefyd angen ystyried cyfnod y cynllun yn y dyfodol a'i gysylltiad â'r Cynllun Datblygu Strategol ar gyfer y deg Awdurdod Lleol yn Ne-ddwyrain Cymru. Mae Rhondda Cynon Taf wedi cytuno i fod yn rhan o'r Cynllun Datblygu Strategol a chyfrannu ato. Ystyriwyd y byddai Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig yn dod i rym cyn y Cynllun Datblygu Strategol, a byddai'n dod oddi tano yn nhermau hierarchiaeth y cynlluniau. Byddai'r Cymru’r Dyfodol ; y Cynllun Genedlaethol 2040 ac ystyriaethau rhanbarthol yn rhan ohono, yn golygu bod modd gwneud penderfyniadau pwyllog i geisio alinio'r Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig â'r Cynllun Datblygu Strategol diweddar.

Am ragor o wybodaeth am y Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig, cysylltwch â'r Garfan Polisi Cynllunio trwy ddefnyddio'r manylion isod. Byddai'n well pe bai modd i chi gysylltu trwy e-bost:

Mae'r garfan yn gweithio o'r cyfeiriad canlynol er bod aelodau'r garfan yn gweithio gartref ar adegau. Mae'n bosibl y bydd peth oedi wrth gyfathrebu trwy'r post. 

Carfan Polisi Cynllunio

2 Llys Cadwyn

Stryd y Taf
Pontypridd
CF37 4TH
Ffon:  01443 281129