Skip to main content

Lwfans Bagiau Du Ychwanegol - Telerau ac Amodau

Telerau ac Amodau

  • Mae'n bosibl y bydd swyddog yn cysylltu/ymweld â chi i gael rhagor o wybodaeth
  • Bydd gwiriad gweledol yn cael ei gynnal i wirio eich bod chi'n ailgylchu cyn dyfarnu lwfans
  • Byddwn ni'n derbyn un cais ar gyfer pob cartref
  • Mae'r gwasanaeth yma ar gyfer gwastraff 'pob dydd' does dim modd ei ailgylchu yn unig
  • Byddwch chi'n defnyddio Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref ar gyfer eitemau does dim modd eu casglu o ymyl y ffordd, e.e. pren, teganau plant, deunyddiau ar gyfer mân waith trwsio (DIY) ac ati
  • Mae'r gwasanaeth yn ddibynnol ar ganiatâd a gwiriad cyfnodol gan y Cyngor
  • Dydych chi ddim yn cael rhoi eitemau y mae modd eu hailgylchu mewn unrhyw fag du, oni bai bod eithriad wedi cael ei awdurdodi
  • Bydd raid i chi wneud cais arall er mwyn gallu parhau gydag eithriad eich cartref ar ôl 12 mis
  • Byddwch chi dim ond yn derbyn yr union nifer o sticeri sydd eu hangen arnoch chi ar gyfer nifer y bagiau du ychwanegol y byddwch chi'n eu rhoi allan i'w casglu. Rhaid i'r sticeri rydych chi'n eu derbyn bara am y cyfnod llawn o 12 mis ac ni ddylid eu trosglwyddo i eiddo neu bobl eraill.
  • Defnyddiwch un sticer y Cyngor ar gyfer pob bag du maint safonol (e.e. 70 litr)
  • Os ydych chi'n colli sticer/sticeri, fyddwn ni ddim yn rhoi rhagor i chi. Fyddwch chi ddim yn cael gwneud cais am ragor nes bydd 12 mis wedi mynd heibio ers i chi wneud eich cais diwethaf
  • Os ydych chi'n newid eich cyfeiriad, rhaid i chi gysylltu â ni i roi gwybod er mwyn i ni ddiweddaru ein cofnodion. Ewch â'ch sticeri gyda chi i'ch cyfeiriad newydd
  • Mae'n bosibl y bydd bagiau yn cael eu harchwilio cyn eu casglu i sicrhau eu bod nhw'n cydymffurfio â'r cynllun
  • Mae gan y Cyngor yr hawl i ddiwygio neu wrthod eich darpariaeth ar unrhyw adeg. Bydd newidiadau o'r fath yn cael eu nodi'n ysgrifenedig cyn dod i rym.