Mae modd i aelwydydd wneud cais am fagiau ychwanegol ar gyfer rhagor o wastraff cyffredinol.
Er bod modd i 80% o wastraff gael ei ailgylchu, mae'r Cyngor yn effro i'r ffaith y bydd gan rai aelwydydd eitemau gwastraff dyddiol nad oes modd eu hailgylchu. O dan yr amgylchiadau yma, mae modd i’r Cyngor roi lwfans bagiau du ychwanegol ar gyfer yr eitemau dyddiol yma nad oes modd eu hailgylchu.
Bydd trigolion sydd angen lwfans bagiau du ychwanegol yn derbyn sticeri i'w gosod ar y bag/bagiau du ychwanegol. Bydd modd i'r garfan gasglu weld bod y bag du ychwanegol wedi cael ei awdurdodi. Dydy’r Cyngor ddim yn darparu bagiau du.
Bydd raid i drigolion wneud cais am lwfans bagiau du ychwanegol.
Nodwch fod telerau ac amodau yn gysylltiedig â'r lwfans ychwanegol. Wrth wneud cais, mae gwiriadau ar waith i sicrhau bod yr holl eitemau y mae modd eu hailgylchu yn cael eu hailgylchu a'u rhoi yn y bag cywir.
Felly, cyn i gais gael ei gyflwyno, rydyn ni'n annog trigolion i wirio eu bod nhw'n ailgylchu cymaint o eitemau â phosibl, gan fod hyn yn helpu i leihau faint o wastraff cyffredinol sy'n cael ei gynhyrchu.
Nodwch eich cyfeiriad isod a byddwn ni'n esbonio sut mae modd cael gwared ar yr eitemau yma.
Mae'r garfan wrthi'n asesu pob cais yn ofalus a mor gyflym â phosibl, gan flaenoriaethu'r trigolion hynny sydd â gwastraff meddygol.
Os ydych chi wedi cyflwyno cais yn ddiweddar, does dim angen i chi gyflwyno cais arall. Os ydych chi'n poeni nad ydyn ni wedi derbyn eich cais, e-bostiwch ailgylchu@rctcbc.gov.uk gyda'ch enw llawn, cyfeiriad e-bost a rhif ffôn fel bod modd i ni wirio hyn ar eich cyfer.
Bydd angen i chi roi uchafswm o 3 bag du maint safonol (70 litr ar y mwyaf) allan hyd nes bydd eich cais yn cael ei gymeradwyo.
Sylwch: Mae'r gwasanaeth yma ar gyfer eitemau o'r cartref nad oes modd eu hailgylchu megis gwastraff cathod, lludw glo, baw cŵn. Os ydy'ch cais yn cynnwys eitemau y mae modd eu hailgylchu megis ffoil, defnydd pacio clir, dillad, ac ati, mae'n debygol y bydd eich cais yn cael ei wrthod. Mae modd ailgylchu'r eitemau yma yn ein Canolfannau Ailgylchu yn y Gymuned neu yn y rhan fwyaf o archfarchnadoedd.