Skip to main content

Lwfans Bagiau Du Ychwanegol

Mae modd i aelwydydd wneud cais am fagiau ychwanegol ar gyfer rhagor o wastraff cyffredinol.

Er bod modd i 80% o wastraff gael ei ailgylchu, mae'r Cyngor yn effro i'r ffaith y bydd gan rai aelwydydd eitemau gwastraff dyddiol nad oes modd eu hailgylchu. O dan yr amgylchiadau yma, mae modd i’r Cyngor roi lwfans bagiau du ychwanegol ar gyfer yr eitemau dyddiol yma nad oes modd eu hailgylchu.

Bydd trigolion sydd angen lwfans bagiau du ychwanegol yn derbyn sticeri i'w gosod ar y bag/bagiau du ychwanegol. Bydd modd i'r garfan gasglu weld bod y bag du ychwanegol wedi cael ei awdurdodi. 

Bydd raid i drigolion wneud cais am lwfans bagiau du ychwanegol. 

Nodwch fod telerau ac amodau yn gysylltiedig â'r lwfans ychwanegol. Wrth wneud cais, mae gwiriadau ar waith i sicrhau bod yr holl eitemau y mae modd eu hailgylchu yn cael eu hailgylchu a'u rhoi yn y bag cywir.

Felly, cyn i gais gael ei gyflwyno, rydyn ni'n annog trigolion i wirio eu bod nhw'n ailgylchu cymaint o eitemau â phosibl, gan fod hyn yn helpu i leihau faint o wastraff cyffredinol sy'n cael ei gynhyrchu. 

Beth mae modd imi ei ailgylchu a ble?

Nodwch eich cyfeiriad isod a byddwn ni'n esbonio sut mae modd cael gwared ar yr eitemau yma.

Gwneud cais am lwfans bagiau du ychwanegol.

Gwnewch gais am lwfans bagiau du ychwanegol ar-lein