Skip to main content

Gwastraff Gwyrdd – Cwestiynau Cyffredin

C. Pam mae angen i drigolion gofrestru?

Rydyn ni bellach yn ei gwneud yn ofynnol i drigolion gofrestru er mwyn ein galluogi ni i reoli'r casgliadau'n fwy effeithlon, gwella ein cyfathrebu â thrigolion ac osgoi colli unrhyw gasgliadau.

C. A yw'r Gwasanaeth Casglu Gwastraff Gwyrdd yn newid yn ystod misoedd y gaeaf a'r haf?

Ydy, mae casgliadau yn ystod yr haf yn cael eu casglu'n awtomatig bob wythnos o gartrefi sydd wedi'u cofrestru yn ystod misoedd yr haf (mis Mawrth – mis Tachwedd). Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma.

Mae casgliadau yn ystod y gaeaf yn gweithredu fel gwasanaeth y mae modd ei drefnu o fis Tachwedd i fis Mawrth.

C. Oes modd i fi fynd â'm Gwastraff Gwyrdd i Ganolfan Ailgylchu yn y Gymuned?

Oes. Mae POB Canolfan Ailgylchu yn y Gymuned yn derbyn gwastraff gwyrdd i’w ailgylchu, ni waeth pa mor fach neu fawr ydyw, ond RHAID iddo BEIDIO â bod mewn bag ailgylchu clir a rhaid ei ollwng yn rhydd i'r cynhwysydd sydd ar gael. Mae Canolfannau Ailgylchu yn y Gymuned yn gweithredu yn unol ag agor y gaeaf (8am-5.30pm) o ddydd Llun 30 Hydref.

C. Dydw i ddim yn defnyddio'r gwasanaeth yn ystod y gaeaf, ond bydd ei angen arna i yn y gwanwyn/yr haf.

Mae casgliadau yn ystod yr haf yn cael eu casglu'n awtomatig o gartrefi sydd wedi'u cofrestru.

Os nad ydych chi wedi cofrestru eisoes, ond yr hoffech chi ddefnyddio'r gwasanaeth yma, cofrestru am gasgliadau gwastraff gwyrdd.

C. Pam fod y Cyngor yn newid o gasgliadau wythnosol yn ystod y gaeaf a bod angen trefnu casgliadau?

Yn ystod y gaeaf, mae’r Cyngor yn casglu gwastraff gwyrdd gan tua 12% o aelwydydd sydd wedi'u cofrestru yn unig. Bydd y system drefnu’n sicrhau bod carfanau casglu dim ond yn mynd i aelwydydd sydd wedi trefnu casgliad, gan leihau nifer y teithiau diangen, costau tanwydd ac allyriadau carbon.

Nodwch:

  • Bydd casgliadau yn gweithredu o dan wasanaeth trefnu am ddim yn ystod misoedd y gaeaf
  • Yna, fel arfer bydd gwastraff gwyrdd yn cael ei gasglu ar y diwrnod casglu deunyddiau i’w hailgylchu presennol

C. Fydd unrhyw newidiadau i'r diwrnod caiff fy ngwastraff gwyrdd ei gasglu?

  • Bydd casgliadau yn gweithredu o dan wasanaeth trefnu am ddim yn ystod misoedd y gaeaf, mae rhagor o wybodaeth ar y tudalennau yma. Unwaith y bydd archeb wedi'i gwneud, fel arfer bydd casgliadau yn digwydd ar eich diwrnod casglu ailgylchu presennol.
  • casgliadau'r haf eu casglu'n awtomatig gan aelwydydd cofrestredig ar eich diwrnod casglu ailgylchu a gwastraff– does dim angen trefnu. Mae'n rhaid i chi gofrestru ar gyfer casgliadau gwastraff gwyrdd
  • Gwirio eich diwrnod casglu

Nodwch: Mae'n bosibl i gasgliadau gwastraff gwyrdd newid a byddan nhw'n cael eu hatal dros gyfnod y Nadolig. Fydd gwasanaeth gasglu Gwastraff Gwyrdd yn ystod y gaeaf ddim ar gael rhwng dydd Llun 25 Rhagfyr a dydd Llun 15 Ionawr 2024. 

C. A oes modd i goed Nadolig gael eu hailgylchu trwy ddefnyddio'r sachau?

Nac oes. Bydd coed Nadolig yn cael eu casglu trwy system drefnu ar wahân sydd fel arfer ar gael drwy gydol mis Ionawr. Fel arall, mae modd i chi fynd â choed Nadolig go iawn i'ch Canolfan Ailgylchu yn y gymuned leol.

C. Sut mae'r sachau'n edrych? / Faint o wastraff y mae modd i mi ei roi yn y sachau?

Sach werdd sy'n dal 90 litr (45cm x 45cm x 45cm) – Mae'r sachau yn cyfateb i ddau fag ailgylchu clir a hanner.

Mae gyda'r sachau ddolen/strap ar y top yn ogystal â strap ar yr ochr ac oddi tanyn nhw.

Mae plastig wedi'i drymhau ar waelod y sach.

CYNGOR CRAFF: Mae modd plygu ochrau'r sach a rhoi un handlen y tu mewn i'r llall (fel cris-croes) i wneud i'r sachau dynnu'n agosach at ei gilydd. 

C. Sut rydw i'n cael fy nwy sach am ddim neu sachau ychwanegol?

Mae modd i chi gofrestru ac archebu eich dwy sach gwastraff gwyrdd am ddim ar-lein neu drwy ffonio Gwasanaethau i Gwsmeriaid ar 01443 425001. 

Yn yr un modd, mae modd archebu sachau ychwanegol ar-lein neu drwy ffonio Gwasanaethau i Gwsmeriaid ar y rhif uchod. Mae sachau ychwanegol yn costio £3 y sach. Mae'r gost yn cynnwys pris y sach yn unig. Mae'r sach yn parhau i fod yn eiddo i Gyngor Rhondda Cynon Taf. Does dim modd ad-dalu’r gost yma.

C. Beth fydd yn digwydd os dydw i ddim yn cofrestru?

Os dydych chi ddim wedi cofrestru'ch eiddo ar gyfer casgliadau gwastraff gwyrdd, fyddwn ni ddim yn casglu'ch gwastraff gwyrdd.

C. Oes terfyn ar faint o sachau gwastraff gwyrdd mae modd i mi eu rhoi allan?

Does dim terfyn ar nifer y sachau gwastraff gwyrdd sydd wedi'u cofrestru i eiddo unigol y byddwn ni'n eu casglu. RHAID i chi roi'r sachau yma y tu allan i'r eiddo sydd wedi'u cofrestru neu fyddwn ni ddim yn eu casglu nhw. Serch hynny, rydyn ni'n gofyn yn gwrtais am 24 awr o rybudd os ydych chi'n rhoi dros 10 o sachau allan, er mwyn sicrhau bod digon o adnoddau'n cael eu dyrannu. Mae modd gwneud hyn trwy e-bostio Ailgylchu@rctcbc.gov.uk.

C. Oes modd i mi ddefnyddio un o sachau fy nghymydog?

Gofynnwch i'ch cymydog am ganiatâd a sicrhau bod y sach wedi'i rhoi y tu allan i'w heiddo nhw i gael ei chasglu. Dim ond nifer y sachau sydd wedi'u cofrestru i eiddo unigol y byddwn ni'n eu casglu. Mae criwiau wedi cael gwybod hyn gan fod rhai trigolion wedi dwyn sachau er mwyn osgoi prynu rhai ychwanegol. Mae gan y criwiau casglu ddyfais yn y cerbyd sy'n dangos faint o sachau sydd wedi'u cofrestru i eiddo.

C. Oes modd i mi barhau i ddefnyddio bagiau ailgylchu clir?

Nac oes, a fyddan nhw ddim yn cael eu casglu a dylen nhw ddim cael eu rhoi y tu mewn i'r sachau gwyrdd.

C. Oes modd i mi gael gwared ar fy ngwastraff gwyrdd yn y Canolfannau Ailgylchu yn y Gymuned?

Mae modd cael gwared ar wastraff gwyrdd yn eich Canolfan Ailgylchu yn y Gymuned, ond rhaid iddyn nhw gael eu gollwng yn rhydd (bydd angen cael gwared ar fagiau plastig, blychau ac ati ar wahân).

C. Beth fydd yn digwydd os caiff y sachau eu difrodi ar ddamwain gan y criwiau casglu?

Mae modd i drigolion roi gwybod am sachau sydd ar goll, neu sachau wedi'u difrodi neu wedi'u dwyn trwy ddefnyddio'n ffurflen ar-lein.

C. Fydd sachau sydd ar goll yn cael eu hamnewid?

Green Sack

Does dim modd i'r Cyngor dderbyn cyfrifoldeb am sachau sydd ar goll. Mae croeso i drig

 olion nodi rhifau tai ac ati ar eu sachau a byddwn ni'n dychwelyd y sachau i'r man casglu biniau pan fyddan nhw'n wag. 

C. Fydd sachau sydd ag ôl traul a gwisgo yn cael eu hamnewid?

Does dim modd i'r Cyngor dderbyn cyfrifoldeb am sachau gwastraff gwyrdd sydd wedi'u treulio.

C. Beth mae'r £3 ar gyfer sachau ychwanegol/newydd yn ei gynnwys?

Mae'r £3 yn talu am gost y sach yn unig. Mae'r sach yn parhau i fod yn eiddo i Gyngor Rhondda Cynon Taf. Does dim modd ad-dalu’r gost yma.

C. Beth fydd yn digwydd os bydd rhywun yn mynd â'm sachau?

Mae'r holl sachau wedi'u cofrestru i eiddo unigol. Fyddwn ni ddim yn casglu unrhyw sachau ychwanegol sydd heb eu cofrestru gyda ni. Fyddwn ni ddim yn casglu o eiddo sydd heb gofrestru ar gyfer y cynllun.

Ein cyngor i'n holl drigolion yw nodi rhif/enw eu heiddo ar y sachau. 

C. Fydd fy sachau yn cael eu dychwelyd? 

Bydd pob criw casglu, lle bydd modd, yn dychwelyd y sachau mor agos a diogel â phosibl er mwyn lleihau nifer y sachau sy'n mynd ar goll/sy'n cael eu dwyn.

C. Beth fydd yn digwydd os bydda i'n newid cyfeiriad?

Gadewch eich sachau yn eich hen gyfeiriad gan eu bod nhw wedi'u cofrestru ar gyfer yr eiddo. Os yw eich cyfeiriad newydd wedi'i gofrestru o'r blaen, dylai'r sachau fod wedi'u gadael yn eich cyfeiriad newydd yn barod i chi eu defnyddio. Os nad oes sachau wedi eu gadael, rhowch wybod am y sachau coll gan ddefnyddio ein ffurflen ar-lein.

Os dydy'r eiddo newydd ddim wedi'i gofrestru ar gyfer casgliadau gwastraff gwyrdd, a fyddech cystal ag ailgofrestru'r eiddo ar gyfer casgliadau.

C. Sut mae rhoi gwybod i'r Cyngor nad oes angen gwasanaeth gwastraff gwyrdd arna i mwyach?

Llenwch y ffurflen Canslo Gwastraff Gwyrdd ar-lein os nad oes angen casgliadau gwastraff gwyrdd arnoch mwyach.

C. Ga i orlenwi'r sachau?

Na chewch. Dylai cynnwys y sach, gan gynnwys unrhyw ganghennau, gael eu dal yng nghorff y sach.

CYNGOR CRAFF: Mae modd plygu ochrau'r sach a rhoi un handlen y tu mewn i'r llall (fel cris-croes) i wneud i'r sachau dynnu'n agosach at ei gilydd. 

C. Fyddwch chi'n casglu gwastraff cytiau anifeiliaid?

Byddwn, cyn belled nad yw'r gwastraff wedi'i halogi ag eitemau sydd ddim yn cael eu derbyn.

C. Fyddwch chi'n casglu blodau a brynwyd mewn siop?

Byddwn, cyhyd â bod yr holl blastig, rhubanau ac ati yn cael eu tynnu.

C. Fyddwch chi'n derbyn blociau mwd ('clodges')?

Na fyddwn, bydd angen i chi gael gwared ar y rhain yn y Canolfannau Ailgylchu yn y Gymuned. Fydd sachau gwastraff gwyrdd ddim yn cael eu casglu os ydyn nhw'n cynnwys blociau mwd.

C. Pa ddeunyddiau fyddwch chi ddim yn eu casglu?

Fydd y gwasanaeth gwastraff gwyrdd ddim yn derbyn eitemau fel gwastraff cegin, gwastraff cyffredinol, pridd, blociau mwd, rwbel, rhywogaethau ymledol e.e. canclwm, pren, boncyffion (6" a mwy mewn diamedr) neu addurniadau/teganau'r ardd ac ati.

C. Fyddwch chi'n casglu gan fusnesau?

Byddwn – Cofrestrwch ar gyfer Casgliadau Gwastraff Masnachol

C. Fyddwch chi'n casglu sachau gwastraff gwyrdd a brynwyd o siop / siop ar-lein?

Na fyddwn. Byddwn ni ond yn casglu sachau gwastraff gwyrdd sydd wedi'u dosbarthu gan y Cyngor.

C. A fyddwch chi'n casglu gwastraff o eiddo masnachol yn ystod misoedd y Gaeaf.   

Cysylltwch â'r garfan ailgylchu - ailgylchu@rctcbc.gov.uk i gael rhagor o wybodaeth.

C. Beth os ydw i'n cael anawsterau wrth ddefnyddio'r gwasanaeth?

Os ydych chi'n cael anawsterau wrth ddefnyddio neu gael mynediad at y gwasanaeth, e-bostiwch Ailgylchu@rctcbc.gov.uk neu ffoniwch ni ar 01443 425001.