Skip to main content

Prydau Ysgol am Ddim - Cyflwyno cais am brydau ysgol am ddim

Mae rhaid i chi wneud cais am Brydau Ysgol Am Ddim hyd yn oed os ydych chi'n derbyn Prydau Ysgol Am Ddim Cyffredinol ar gyfer eich plentyn gan y bydd hyn yn effeithio ar eich hawl bosibl i Grant Hanfodion Ysgol.

Bwriwch olwg ar y meini prawf cymhwysedd cyn cyflwyno'ch cais isod:

Mae prydau ysgol am ddim ar gael i blant y mae eu rhieni neu warcheidwaid yn derbyn un o'r budd-daliadau canlynol ar hyn o bryd:

  • Credyd Treth Plant – lle mae'r incwm blynyddol hefyd yn llai na £16,190
  • Cymhorthdal Incwm (gyda chyfrifoldeb am blant)
  • Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm (gyda chyfrifoldeb am blant)
  • Cymorth o dan Ran VI o Ddeddf Mewnfudo a Lloches 1999
  • Elfen Gwarant Credyd Pensiwn y Wladwriaeth
  • Mae disgyblion sy'n derbyn Cymhorthdal Incwm neu Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm hefyd yn gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim.
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth ((yn seiliedig ar incwm) ESA(IR)) 
  • Credyd Cynhwysol (os yn gweithio, dylai'r enillion net blynyddol fod yn £7,400 neu lai)
  • Taliadau Credyd Treth Gwaith ychwanegol – y taliadau ychwanegol y gall unigolyn eu derbyn am bedair wythnos yn ychwanegol ar ôl i’w hawl i dderbyn Credyd Treth Gwaith ddod i ben

Mae pobl ifainc sy'n derbyn Cymhorthdal Incwm neu Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm hefyd yn gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim.

Ydw i’n gymwys os ydw i’n hawlio Credydau Treth Gwaith (gydag incwm heb fod dros £16,190)?

Nac ydych, ond os ydy'ch amgylchiadau'n newid a dydych chi ddim yn gymwys i hawlio Credydau Treth Gwaith bellach, mae gofyn eich bod chi’n rhoi gwybod i Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi, a chan ddibynnu ar eich amgylchiadau, efallai bydd modd dechrau prydau ysgol am ddim.

Cyflwyno cais am brydau ysgol am ddim

Os ydych chi'n meddwl bod gyda chi hawl i brydau ysgol am ddim i'ch plentyn, llenwch ffurflen gais ar-lein isod. Mae fersiwn papur ar gael ond mae'n llawer haws ar-lein gan nad oes angen i chi ddarparu llawer o dystiolaeth.

Cyflwyno cais am brydau ysgol am ddim

Unwaith eich bod chi'n gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim, mae’n bosibl y byddwch chi'n gymwys i dderbyn Grant Hanfodion Ysgol  ffa /neu lwfans a gaiff ei weinyddu gan ysgolion uwchradd.

Os na fydd teuluoedd cymwys yn gwneud cais am brydau ysgol am ddim trwy’r Cyngor, bydd yn effeithio ar faint o gyllid y mae ysgolion unigol yn ei dderbyn gan Lywodraeth Cymru. Bydd hyn yn golygu bod gan yr ysgol lai o arian nag y mae ganddi hawl iddo er mwyn darparu addysg a chymorth i'ch plant.

Mae modd i chi gyflwyno'ch cais ar-lein am Grant Hanfodion Ysgol neu ofyn am ffurflen gais yn uniongyrchol gan eich ysgol. Mae manylion cyswllt ein hysgolion i gyd ar gael trwy ddefnyddio dolen chwilio Dod o Hyd i Ysgol.

Newid mewn amgylchiadau

Os ydych chi'n hawlio prydau ysgol am ddim ac mae newid yn eich amgylchiadau a allai effeithio ar eich hawl, rhowch wybod i ni am y newid trwy e-bostio  prydauysgolamddim@rctcbc.gov.uk.