Skip to main content

Meini Prawf ar gyfer Derbyn Disgyblion i'r Ysgol pan fydd nifer y ceisiadau sy'n dod i law uwchlaw'r Nifer Derbyn

Os ydy nifer y ceisiadau am le islaw nifer derbyn yr ysgol honno, caiff y ceisiadau i gyd eu caniatáu. Does dim hawl cadw lleoedd ar gyfer plant 'o fewn y dalgylch' oni bai’u bod nhw’n blant o oed y dosbarth derbyn a bod eu rhieni wedi cyflwyno cais am ohirio mynediad i’w plant tan yn nes ymlaen yn yr un flwyddyn ysgol.

Os ydy nifer y ceisiadau sy'n dod i law uwchlaw'r Nifer Derbyn ar gyfer yr ysgol honno, byddwn ni'n cymhwyso'r meini prawf canlynol ar gyfer ysgolion lle bo gormod o alw. Yn nhrefn blaenoriaeth, dyma'r meini prawf ar gyfer dyrannu'r lleoedd sydd ar gael:

  • Categori Blaenoriaeth 1: Plant dan adain gofal y Cyngor (plant sy'n derbyn gofal cyhoeddus) a phlant sydd wedi bod dan adain gofal y Cyngor.
  • Categori Blaenoriaeth 2: Plant sy'n byw yn nalgylch yr ysgol, sydd â brawd neu chwaer hŷn sy'n ddisgybl yn yr ysgol honno ac sy'n byw yn yr un cartref â nhw pan fydd y cais yn cael ei gyflwyno ac a fydd yn parhau i fynychu'r ysgol ym Medi 2024.
  • Categori Blaenoriaeth 3: Plant sy’n byw yn nalgylch yr ysgol ond does dim brawd neu chwaer hŷn gyda nhw yn yr ysgol honno.
  • Categori Blaenoriaeth 4: Plant sy'n byw y tu allan i ddalgylch yr ysgol, sydd â brawd neu chwaer hŷn sy'n mynychu'r ysgol honno'n barod ac sy'n byw yn yr un cartref â nhw pan fydd y cais yn cael ei gyflwyno ac a fydd yn parhau i fynychu'r ysgol ym Medi 2024.
  • Categori Blaenoriaeth 5: Plant sy'n byw y tu allan i ddalgylch yr ysgol ac sydd heb frawd neu chwaer hŷn sy'n ddisgybl yn yr ysgol honno.

Er mwyn osgoi dryswch, mae'r cyfeiriad at "byw/cartref" yn y meini prawf uchod a'r camau penderfynu dros y ddalen, yn golygu at leoliad y breswylfa mae'r plant yn byw ynddi.

Fyddwn ni ddim yn ystyried trefniadau gofal plant/carco na chyfeiriad gweithle'r rhiant wrth gymhwyso'r meini prawf ar gyfer derbyn disgyblion.

Dydy'r dyddiad y mae rhiant/cynhaliwr (gofalwr) yn gofyn i'r ysgol i roi enw eu plentyn ar restr gychwynnol yr ysgol ddim yn faen prawf ar gyfer mynediad a dydy e ddim yn sicrhau lle; yn hytrach, dim ond sicrhau bod y ffurflen gais yn cael ei hanfon ar yr adeg gywir y mae hyn.

Camau penderfynu/torri dadl

Bydd y plant yn cael eu derbyn i’r ysgol hyd at y Nifer Derbyn, yn nhrefn y blaenoriaethau uchod. Os nad oes modd bodloni pob cais am le o fewn unrhyw un o'r categorïau uchod, byddwn ni'n rhoi blaenoriaeth i blant sy'n byw agosaf at yr ysgol. Bydd yr Awdurdod yn mesur y pellter yn ôl y daith gerdded fwyaf diogel a byr rhwng drws blaen y cartref a’r giât agosaf sydd ar agor yn yr ysgol. Er mwyn bod yn gwbl sicr, mewn ardaloedd lle nad oes taith cerdded ddiogel yn ôl yr Awdurdod, bydd yr Awdurdod yn mesur y pellter yn ôl y daith gyrru fwyaf byr rhwng drws blaen y cartref a’r giât agosaf sydd ar agor yn yr ysgol. Byddwn ni’n defnyddio meddalwedd Mapinfo yn unig i fesur y pellter, er tegwch i bawb.

Fyddwn ni ddim yn rhoi ystyriaeth i unrhyw system arall. Yn achos rhieni sy’n rhannu cyfrifoldebau gofal am blentyn, y cyfeiriad ar gyfer talu Budd-dal Plant fydd y cyfeiriad i’w gymryd i ystyriaeth.

Nodyn:

Brodyr a chwiorydd

Bydd plant yn cael eu cyfrif yn frodyr neu'n chwiorydd os ydyn nhw:

  • (a) hanner brodyr neu chwiorydd neu frodyr neu chwiorydd llawn
  • (b) brodyr neu chwiorydd wedi’u mabwysiadu
  • (c) plant sy’n byw yn rhan o’r un aelwyd/teulu yn barhaol

Fydd cefndryd, neiaint na nithoedd ddim yn cael eu hystyried yn frodyr/chwiorydd.

Mewn perthynas â'r ysgol uwchradd, rhaid i frodyr/chwiorydd fod ym mlynyddoedd 7 i 11 yn yr ysgol berthnasol ym mis Medi 2024. Fyddwn ni ddim yn cyfrif brodyr/chwiorydd sy'n mynychu'r chweched dosbarth mewn ysgol uwchradd ym mis Medi 2024 yn faen prawf ar gyfer derbyn plant iau.