Mae angen gwneud ceisiadau am le mewn ysgol ar gyfer cyfnodau gwahanol yn addysg plentyn. Dyma nhw – Cyn-feithrin; Dosbarth Meithrin; Dosbarth Derbyn; Trosglwyddo o'r ysgol babanod i’r ysgol iau ac Ysgol Uwchradd.
Cyflwyno cais am le mewn Ysgol Ffydd (dosbarth derbyn ac ysgolion uwchradd)
- O fis Medi 2026, bydd modd i chi gyflwyno cais am le mewn dosbarth derbyn neu flwyddyn 7 mewn ysgol wirfoddol a gynorthwyir (ysgol ffydd) ar gyfer mis Medi 2027 drwy'r Porth Dinasyddion. Bydd modd i rieni a gwarcheidwaid gyflwyno un cais ar-lein gan ddewis hyd at dair ysgol ffydd neu gymunedol. Bydd hyn yn symleiddio'r broses a bydd rhieni sy'n gwneud cais erbyn y dyddiad cau sydd wedi'i nodi yn cael gwybod am y canlyniad yn ysgrifenedig. Darllenwch ragor
Er mwyn cysylltu â'r Garfan Derbyn Disgyblion ffon 01443 281111 tan ebostiwch schooladmissions@rctcbc.gov.uk
Ar gyfer pob math o ohebiaeth ysgrifenedig, byddwch cystal â defnyddio:- Rhadbost Derbyn Disgyblion CBSRhCT
Dewch o hyd i ysgol gan ddefnyddio ein cyfleusterau chwilio ar-lein.
Dewch o hyd i ragor o wybodaeth am y daith i addysg Gymraeg.
Mae hawl gan bob plentyn
i fanteisio ar ddarpariaeth addysg Feithrin ran-amser o ddechrau'r tymor ar ôl ei ben-blwydd yn dair oed
Mae gan bob plentyn hawl i le addysg feithrin o'r mis Medi yn dilyn ei ben-blwydd yn dair oed.
Bydd plant yn dechrau yn y dosbarth derbyn mewn ysgolion babanod neu ysgolion cynradd yn y mis Medi ar ôl iddyn nhw droi'n 4 oed.
Pan fydd plant ym Mlwyddyn 2 yn yr ysgol fabanod, bydd angen gwneud cais am le mewn ysgol gynradd neu ysgol iau.
Bydd plant yn dechrau Ysgol Uwchradd yn y mis Medi yn dilyn eu pen-blwydd yn 11 oed.
Dod o hyd i ddarpariaeth sydd ar gael ar gyfer y blynyddoedd cynnar
Ydych chi’n ystyried addysg cyfrwng Cymraeg i’ch plentyn? Mae ein llyfryn yn cynnwys manteision o ddewis addysg cyfrwng Cymraeg ac yn trafod rhai pryderon cyffredin sydd gan rieni. - Llyfryn Bod yn Ddwyieithog
Mae Fforwm Derbyn Rhondda Cynon Taf yn chwarae rhan allweddol o ran sicrhau system dderbyn deg sy'n hawdd ac yn syml i rieni ei deall.