Beth yw ardoll Ardal Gwella Busnes?
Mae'r ardoll Ardal Gwella Busnes yn daladwy gan berchnogion eiddo annomestig yn Ardal Gwella Busnes canol tref Pontypridd. Bydd archeb tâl gyntaf yr ardoll ar gyfer y cyfnod bilio o fis Ebrill 2026 hyd at ddiwedd mis Mawrth 2027. Bydd archeb tâl flynyddol yn cael ei chyhoeddi bob mis Mawrth ar gyfer y cyfnod o fis Ebrill tan fis Mawrth, tan fis Mawrth 2031. Bydd yr archeb tâl olaf ar gyfer y cyfnod o fis Ebrill 2030 tan ddiwedd mis Mawrth 2031.
Beth yw cwmni 'Your Pontypridd Ltd'?
Mae 'Your Pontypridd Business Improvement District Ltd' yn gwmni preifat, sy ddim yn rhan o'r awdurdod lleol, sy'n gyfrifol am ddarparu a rheoli'r gwasanaethau Ardal Gwella Busnes ar gyfer canol tref Pontypridd. Cafodd y cwmni ei sefydlu yn sgil canlyniad pleidlais Ardal Gwella Busnes ym mis Chwefror 2016. Yn ddiweddar mae'r cwmni yn ei ôl yn dilyn drydydd ail bleidlais lwyddiannus ym mis Chwefror 2026.
Gyda phwy rydw i'n cysylltu os ydw i am ofyn cwestiwn ynghylch yr Ardal Gwella Busnes?
Os ydy'ch cwestiwn am daliad neu'ch bil, dylech chi gysylltu â Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf. Serch hynny, os ydy'ch cwestiwn yn ymwneud â gwasanaethau'r Ardal Gwella Busnes neu unrhyw beth arall (ar wahân i dalu), cysylltwch â chwmni Your Pontypridd Ltd drwy e-bost: info@yourpontypridd.co.uk neu ffonio: 07771 670212. Mae gwybodaeth hefyd ar gael ar wefan www.yourpontypridd.co.uk
Beth ydy swyddogaeth y Cyngor yn yr Ardal Gwella Busnes?
Yn ôl y gyfraith, y Cyngor ydy'r awdurdod sy'n codi tâl ar ran unrhyw Ardal Gwella Busnes sy'n golygu ei fod yn gyfrifol am gasglu ardollau'r Ardal Gwella Busnes. Dydy'r Cyngor ddim yn gyfrifol am ddarparu gwasanaethau Ardal Gwella Busnes, oherwydd mai swyddogaeth cwmni Your Pontypridd Ltd. yw hynny.
Pwy sy'n talu'r ardoll Ardal Gwella Busnes?
Y person neu'r sefydliad sy'n gyfrifol am dalu ardrethi annomestig yr eiddo sy'n gyfrifol am dalu'r ardoll Ardal Gwella Busnes. Os oes rhywun yn byw yn yr eiddo, yna ef neu hi sy'n gyfrifol am dalu. Pan fydd yr eiddo'n wag, y person neu sefydliad sydd â hawl i ddefnyddio'r eiddo sy'n gyfrifol. Fel arfer, y lesddeiliad neu'r perchennog yw hynny.
Ydy'r Cyngor a chyrff sector cyhoeddus eraill yn talu'r ardoll Ardal Gwella Busnes?
Ydyn. Rhaid i'r Cyngor a chyrff sector cyhoeddus eraill dalu'r ardoll ar eiddo yn yr Ardal Gwella Busnes y maen nhw'n gyfrifol am dalu ardrethi annomestig ar ei gyfer.
Ga i ddewis peidio â bod yn rhan o'r Ardal Gwella Busnes?
Na chewch. Mae'n ddyletswydd gyfreithiol ar y sawl sy'n talu ardrethi annomestig yn yr Ardal Gwella Busnes i fod yn rhan o hyn, yn dilyn canlyniad llwyddiannus y bleidlais.
Faint sy'n cael ei gasglu mewn ardollau Ardal Gwella Busnes?
Tua £80,000 y flwyddyn. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan www.yourpontypridd.co.uk
Beth sy'n digwydd i'r arian ardoll sy'n cael ei gasglu?
Caiff arian o'r ardollau ei ddefnyddio i dalu am wasanaethau Ardal Gwella Busnes yn unig, ynghyd â chanran o gostau'r Cyngor am gasglu'r ardoll. Y Cyngor sy'n cadw'r arian cyn talu Corff yr Ardal Gwella Busnes (cwmni Your Pontypridd Ltd), er mwyn talu am y gwasanaethau sy'n cael eu darparu gan y cwmni.
Beth fydda i'n ei gael am fy arian?
AMCAN UN: CREU A CHYNNAL PONTYPRIDD DIOGEL
-
Gweithio ar ymgyrchoedd a gweithrediadau gyda'r Garfan Plismona Lleol a Wardeiniaid Cymunedol i fynd i'r afael ag unrhyw ymddygiad gwrthgymdeithasol a throseddau manwerthu, gan greu amgylchedd mwy croesawgar i siopwyr.
-
Parhau i gyllido Partneriaeth Lleihau Troseddau Busnes RhCT a Merthyr Tudful a hynny er mwyn parhau â chynlluniau Gwarchod Siopau a Gwarchod Tafarndai, gan sicrhau bod modd i’r rheiny sy’n talu’r ardoll gael mynediad i’r ap Litorallis DISC.
-
Archwilio cyfleoedd posibl i gynnal hyfforddiant ‘Ask for Angela’ rheolaidd ar gyfer busnesau economi’r nos.
-
Cynyddu nifer y busnesau sy'n defnyddio RadioNet yn yr ardal AGB estynedig i wella cyfathrebu rhwng siopau yng nghanol y dref a'r parc manwerthu.
-
Gofyn am ddiweddariadau wythnosol gan Heddlu De Cymru ynghylch pa swyddogion sy'n gweithio yn y dref a'u horiau gwaith.
-
Nodi cyfleoedd i ehangu'r gwasanaeth teledu cylch cyfyng yn yr AGB, gan dargedu mannau dall, fel sydd wedi digwydd yn rhan o brosiect teledu cylch cyfyng yr orsaf fysiau yn ein hail dymor.
-
Parhau i lobïo i adleoli'r gwasanaethau Prawf a'r Hostel sydd ar hyn o bryd yng nghanol y dref.
-
Parhau i lobïo am gyllid ar gyfer amddiffynfeydd llifogydd cryfach i helpu i amddiffyn y strydoedd a'r busnesau mwyaf agored i niwed yr Ardal Gwella Busnes.
AMCAN DAU: Pontypridd Mwy Deniadol
-
Cynorthwyo’r rheiny sy’n talu ardoll gyda cheisiadau am y Grantiau Busnes sydd ar gael gan garfan Adfywio Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf a Llywodraeth Cymru.
-
Parhau i weithio gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf i sicrhau bod y cytundebau sylfaenol yn cael eu bodloni a, lle bo angen, cynorthwyo i godi safonau ymhellach, o ran arwyddion, sbwriel, glanhau strydoedd ar frys, cynnal a chadw priffyrdd a chael gwared ar graffiti ar draws ardal yr AGB.
-
Parhau i ariannu unrhyw ffioedd trwydded sy'n daladwy gan y rheiny sy’n talu ardoll ac sydd am wneud cais i gael celfi caffi stryd y tu allan i'w hadeiladau, gan annog y diwylliant bwyd a diod yn y dref.
-
Lobïo’r awdurdod lleol i ganiatáu lle i ddatblygu seddi parhaol/strwythurau awyr agored, gyda chymorth grant i wella golwg a theimlad y dref a chreu profiad gwell i drigolion ac ymwelwyr.
-
Gweithio'n agos gyda landlordiaid ac asiantau i nodi cyllid i wella ffryntiau siopau a chynorthwyo busnesau sydd â diddordeb mewn gwneud hyn. Mae'r AGB wedi sefydlu ei hun yn brif bwynt cyswllt ar gyfer unrhyw fusnesau/entrepreneuriaid sydd â diddordeb mewn ceisio rhagor o wybodaeth am eiddo a chyfleoedd yn y dref. Mae modd i fusnesau sydd â diddordeb a busnesau sydd wedi'u sefydlu yn y dref ac sydd am ehangu drefnu cyfarfodydd wyneb yn wyneb gyda Rheolwr yr AGB i drafod opsiynau a chymorth. Bydd hyn hefyd yn helpu i leihau nifer yr unedau gwag yn y dref.
-
Gweithio gyda landlordiaid a'r awdurdodau lleol i nodi ardaloedd y mae modd eu 'harddu' trwy gelf gyhoeddus fel y Murlun Stryd y Farchnad a gweithgareddau partneriaeth â chwrs Celfyddydau Creadigol a Therapiwtig Prifysgol De Cymru.
AMCAN TRI: Hyrwyddo Pontypridd
- Dylunio a gosod arwydd newydd Pontypridd ger y cerflun ‘Unity’. Bydd hyn yn cael ei osod mewn ardal sy’n gweld llawer o draffig ar yr A470 ac yn agos at gyfnewidfa Broadway.
- Lobïo’r awdurdod lleol i gael parcio am ddim mewn meysydd parcio ar ddydd Llun a dydd Mawrth a lleihau’r uchafswm arhosiad mewn meysydd parcio arhosiad byr i dair awr er mwyn annog defnydd amlach o leoedd yn y maes parcio mwyaf cyfleus.
- Nodi ffrydiau ariannu i helpu talu am arwyddion newydd yn yr AGB, gan ddiweddaru'r hen arwyddion twristiaeth mewn safleoedd allweddol yn y dref – yr orsaf fysiau, yr orsaf drenau, maes parcio Lôn y Weithfa Nwy, Llys Cadwyn ac adolygu opsiynau digidol.
- Nodi ardaloedd ar gyfer gosod ‘Byrddau Hysbysiadau Pontypridd’ i arddangos gwybodaeth am achlysuron a gweithgareddau rheolaidd yn y dref.
- Ychwanegu achlysuron newydd ar adegau poblogaidd o'r flwyddyn yn ogystal â'r achlysur blynyddol, 'Festive Town Takeover' a gweithio gyda Phartneriaeth Greadigol Pontypridd i gefnogi achlysuron eraill yn y dref.
- Parhau i gynyddu ein cyrhaeddiad ar y cyfryngau cymdeithasol (ar hyn o bryd mae gyda ni ychydig o dan 10,000 o ddilynwyr ar Facebook a 2800 o ddilynwyr ar Instagram) ac archwilio sianeli newydd megis YouTube, TikTok a sefydlu platfform 'Beth sy'n Digwydd ym Mhontypridd' i hyrwyddo holl achlysuron, gweithgareddau, celf a diwylliant y dref.
AMCAN PEDWAR: Cefnogi pobl sy'n talu ardoll
- Parhau i weithio gyda phartneriaid strategol i ganolbwyntio ar adfywio canol y dref nawr ac yn y dyfodol.
- Cynrychioli busnesau ynghylch unrhyw faterion/pryder sy’n codi o ganlyniad i ddatblygiadau parhaus megis Porth y De (cyn-ddatblygiad Marks and Spencer) a chysylltu'n uniongyrchol â charfanau Ffyniant ac Adfywio'r awdurdod lleol i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i fusnesau.
- Parhau i ymgysylltu â busnesau sy'n talu ardoll drwy Reolwr yr AGB a chyfarwyddwyr ac mewn fforymau megis Gwarchod Tafarndai, Gwarchod Siopau, Plismona Bro Pontypridd, a thrwy ymgyrchoedd e-bost rheolaidd a WhatsApp.
- Cynorthwyo busnesau cymwys i wneud cais am gynlluniau arbedion Ardrethi Busnes yn ystod 2026/2027.
- Parhau i fod yn brif bwynt cyswllt ar gyfer busnesau newydd sy'n symud i'r ardal AGB - gan eu gwneud yn effro i gymorth grant, cysylltu ag adran ardrethi'r Cyngor ac unrhyw gymorth arall sydd ei angen arnyn nhw i lansio eu busnes.
Mae rhagor o wybodaeth am y gwasanaethau ar gael ar y wefan: www.yourpontypridd.co.uk. Dylech chi gysylltu â chwmni Your Pontypridd Ltd os oes unrhyw gwestiynau gyda chi am wasanaethau'r Ardal Gwella Busnes.
Ydy'r gwasanaethau yma'n cael eu cynnig gan y Cyngor eisoes?
Nac ydyn. Rhaid i wasanaethau Ardal Gwella Busnes fod yn wasanaethau ychwanegol, sy ddim yn cael eu cynnig gan y Cyngor eisoes nac yn ehangu ar wasanaethau presennol.
Ydy'r ardoll Ardal Gwella Busnes yn cynyddu bob blwyddyn?
Bydd cynydd bob blwyddyn yn unol â chwyddiant costau'r ardoll, drwy gydol cyfnod yr Ardal Gwella Busnes.
Oes rhaid i mi dalu os yw'r eiddo'n wag?
Oes. Mae'r sawl sy'n talu ardrethi ar gyfer eiddo gwag hefyd yn gyfrifol am dalu'r ardoll Ardal Gwella Busnes.
Oes modd talu mewn rhandaliadau?
Nac oes. Rhaid talu'r ardoll Ardal Gwella Busnes mewn un taliad.
Os oes wir anhawster ariannol gyda chi a does dim modd i chi dalu, cysylltwch â'r Cyngor ar unwaith ar 01443 425002. Peidiwch byth ag anwybyddu ceisiadau am daliad gan y bydd hyn dim ond yn gwaethygu'r sefyllfa.
Pleidleisiais yn erbyn yr Ardal Gwella Busnes / doeddwn i ddim yn gymwys i bleidleisio ar y pryd, felly oes rhaid i mi dalu o hyd?
Oes. Mae canlyniad y bleidlais a gafodd ei chynnal ar 27 Chwefror 2026 yn golygu bod rhaid i holl dalwyr ardrethi annomestig yr Ardal Gwella Busnes dalu'r ardoll o 1 Ebrill 2026 hyd at 31 Mawrth 2031. Mae hyn yn cynnwys unigolion neu sefydliadau a fydd yn talu ardrethi ar ôl dyddiad y bleidlais.
Ydw i'n dod yn aelod o gwmni Pontypridd Ltd yn awtomatig?
Nac ydych. Mae Erthyglau Cymdeithasiad Your Pontypridd yn gofyn i fusnesau sy'n talu'r ardoll mewn Ardal Gwella Busnes wneud cais i fod yn aelod o'r cwmni Ardal Gwella Busnes. Mae modd i aelodau'r cwmni bleidleisio yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol, sy wedi'i drefnu ar gyfer misoedd cyntaf y flwyddyn nesaf, a dod yn rhan o Fwrdd y Cyfarwyddwyr neu ymuno â grŵp thema.
I ymaelodi, ewch i www.yourpontypridd.co.uk a llenwi ffurflen aelodaeth y cwmni. Pe hoffech chi ymuno â'r Bwrdd neu'r grwpiau thema, anfonwch e-bost at info@yourpontypridd.co.uk.
Sut i ddod yn rhan o bethau
Mae sawl ffordd o wneud hyn:
-
Ymuno â'r Bwrdd Cyfarwyddwyr a dod yn rhan o waith arwain a goruchwylio cynnydd Ardal Gwella Busnes cwmni Your Pontypridd.
-
Os ydych chi o'r farn bod arbenigedd gyda chi a fyddai'n addas ar gyfer unrhyw un o'r prosiectau, mae croeso i chi gysylltu â ni gan ddefnyddio'r manylion uchod.
-
Mae modd i fanwerthwyr ymuno â'r Bartneriaeth i Leihau Troseddau Busnes am ddim a mynd i gyfarfodydd 'Shopwatch' misol.
-
Mae modd i dafarndai, clybiau nos ac adeiladau â thrwydded ymuno â'r Bartneriaeth i Leihau Troseddau Busnes am ddim a mynd i gyfarfodydd 'Pubwatch' misol.
-
Bydd ymgynghoriad â busnesau'n digwydd trwy gydol tymor yr Ardal Gwella Busnes. Mae modd i chi gysylltu â ni hefyd i gwrdd â staff Ardal Gwella Busnes os oes cwestiynau gyda chi neu os oes angen cymorth arnoch chi.
I gael yr wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau Your Pontypridd, pwyswch 'hoffi' ar ein tudalen Ardal Gwella Busnes Your Pontypridd ar Facebook, neu dilynwch ni ar Twitter @YourPontypridd ac Instagram @yourpontypridd. Rydyn ni hefyd yn anfon e-gylchlythyr rheolaidd, mae croeso i chi gysylltu os hoffech chi gael copi.
Sut galla' i dalu fy mil Ardal Gwella Busnes?
Ar-lein:
Cewch ddefnyddio cerdyn debyd neu gredyd
Sicrhewch fod cyfeirnod eich cyfrif Ardal Gwella Busnes wrth law. Bydd y cyfeirnod yn cynwys 8 digid ac yn dechrau gyda 7.
System bancio ar-lein neu drosglwyddo drwy BACS;
Talwch i mewn i 'Rhondda Cynon Taf CBC
Cod Didoli 20-68-92
Rhif Cyfrif 20639427
Nodwch gyfeirnod eich cyfrif Ardal Gwella Busnes (sy'n dechrau â rhif 7) bob tro wrth dalu.
Post
Anfonwch sieciau, yn daladwy i CBSRhCT, i Swyddfeydd y Cyngor, Cymorth i Fusnesau, Tŷ Elái, Dwyrain Dinas Isaf, Trewiliam, Tonypandy CF40 1NY. Nodwch gyfeirnod eich cyfrif Ardal Gwella Busnes ar y cefn. Mae'r cyfeirnod yn cynnwys 8 digid ac yn dechrau â 7.
Galw heibio
Defnyddiwch y ciosg talu electronig yn un o Ganolfannau IBobUn y Cyngor – mae manylion ar gael yma: www.rctcbc.gov.uk/Cysylltu. Cofiwch fod â'ch cyfeirnod 8 digid, sy'n dechrau â rif 7, wrth law.
Dros y ffôn
I dalu gyda cherdyn debyd neu gredyd, ffoniwch y ganolfan gyswllt i gwsmeriaid, ar 01443 425002.
Cysylltu â ni
Am ymholiadau ynglŷn â'ch bil, edrychwch ar y wefan www.rctcbc.gov.uk – busnesau – ardrethi busnes – Ardal Gwella Busnes
E-bost: refeniw@rctcbc.gov.uk
FFÔN: 01443 425002
Llythyron i Swyddfeydd y Cyngor, Ty Oldway, Stryd Y Porth, Porth CF39 9ST
Ar gyfer ymholiadau am wasanaethau Ardal Gwella Busnes
E-bost: info@yourpontypridd.co.uk
FFÔN: 07771 670212