Yn rhan o strategaeth cyllideb y Cyngor ar gyfer 2025/26 a’i ymrwymiad i gefnogi busnesau yn RhCT, mae’r Cabinet wedi cytuno i ddarparu cyllid ychwanegol i’r busnesau yn y sectorau uchod sy'n gorfod talu ardrethi o ganlyniad i’r newidiadau sydd wedi'u nodi uchod.
Mae'r cynllun yn darparu dyfarniad gwerth uchafswm £500 fesul safle busnes cymwys. Bydd y swm yma'n cael ei gredydu'n awtomatig i gyfrif ardrethi busnes unrhyw fusnes sy'n gwneud cais llwyddiannus am Ryddhad MHLl.
Dolen i adroddiad y Cyngor: https://rctcbc.moderngov.co.uk/documents/s52485/Adroddiad.pdf?LLL=1