Gallwch dalu eich trethi busnes yn y ffyrdd canlynol:
Debyd uniongyrchol
Talu eich trethi busnes trwy ddebyd uniongyrchol
Oeddech chi’n gwybod bod ffordd lawer haws a didrafferth o dalu’ch Trethi Busnes erbyn hyn?
- Chi sydd ddweud wrthym pa dyddiad addas i chi ar gyfer talu
-
Rydych chi’n gwybod eich costau misol ymlaen llaw, felly does dim angen gwastraffu amser yn rhoi gwybod i’ch banc am newid y swm mae eisiau i chi ei dalu!
-
Pe bai’r Cyngor, y Banc neu’r Gymdeithas Adeiladu yn cymryd gormod o arian, bydd y banc yn talu’ch arian yn ôl i chi ar unwaith;
-
Mae hawl gennych chi i ganslo unrhyw bryd drwy ysgrifennu at eich Banc / Cymdeithas Adeiladu;
-
Does dim tâl ychwanegol ac mae’n digwydd yn awtomatig.
Mae mwy o drigolion nag erioed yn manteisio ar Ddebyd Uniongyrchol, sef y ffordd hawdd o dalu’u trethi busnes. Chi sydd wrth y llyw gyda Debyd Uniongyrchol! Er enghraifft:
Os ydych chi eisiau talu trwy Ddebyd Uniongyrchol, ffoniwch y Cyngor ar 01443 425 002 – mae cofrestru dros y ffôn yn ddiogel. Erbyn hyn, does dim eisiau i chi lenwi dalen (cyfarwyddyd) ar gyfer eich banc.
Ar-lein
Talwch eich Trethi ar-lein
I gwblhau eich taliad ar-lein bydd angen eich rhif cyfeirnod Trethi Busnes (o'ch bil Trethi Busnes) yn ogystal â'ch cerdyn debyd neu gredyd.
Dros y Ffon
Croeso i chi dalu a cherddyn debyd/credyd 24 awe y dydd bob dydd. I ddefnyddio ein gwifren taliadau awtomatig ffoniwch 01443 425000.
Galw heibio
Gallwch chi dalu ag arian parod, siec, cerdyn debyd neu gerdyn credyd yn eich canolfan IbobUn agosaf.
System bancio ar-lein neu drosglwyddo drwu BACS:
Talu: Cyfrif Cyffredinol CBS Rhondda Cynon Taf
Cod Didoli: 20-68-92 Rhif Cyfrif: 20639427
Nodwch eich cyfeirnod cyfrif Trethi Busnes, sy'n dechrau â rhif 5, bob tro wrth dalu neu anfon hysbysiad at cysoniabanc@rhondda-cynon-taf.gov.uk