Skip to main content

Sut mae'ch Cyfraddau Busnes yn cael eu cyfrifo?

Mae’r fformiwla ar gyfer cyfrifo’ch bil yn cael ei gosod gan y Llywodraeth.

Mae’r Cyngor yn defnyddio’r fformiwla i gyfrifo’ch bil trwy luosi gwerth ardrethol eich eiddo â’r lluosydd priodol ar gyfer y flwyddyn ariannol.

Y lluosydd annomestig yng Nghymru ar gyfer 2023/24 yw 0.535 o geiniogau yn y bunt

Enghraifft o Gyfrifiad:

Byddai eiddo busnes â Gwerth Ardrethol o 15,000 yn cael bil o £8,025 ar gyfer y flwyddyn ariannol lawn h.y. 15,000 lluosi 0.535.

Mae nifer o gynlluniau cymorth ar gael a allai leihau’ch cyfraddau busnes. Gweld y cynlluniau yma