Y Gronfa
Ym mis Tachwedd 2024, dygodd Storm Bert dywydd garw gyda gwerth dros fis o law yn disgyn mewn cyfnod byr iawn. O ganlyniad, cafodd nifer sylweddol o fusnesau eu heffeithio’n ddifrifol gan y llifogydd a ddilynodd.
Bydd y Grant Gwrthsefyll Llifogydd i Fusnesau yn rhoi cefnogaeth i fusnesau i weithredu mesurau yn eu heiddo a fydd yn gwella gwytnwch y busnes er mwyn ymdopi ag unrhyw ddigwyddiadau posibl o ganlyniad i dywydd garw yn y dyfodol.
Pwy sy'n gymwys i wneud cais?
Bydd blaenoriaeth i'r busnesau bach a chanolig hynny sy'n gallu darparu tystiolaeth eu bod nhw wedi'u heffeithio gan y llifogydd yn ystod Storm Bert.
Rhagor o Wybodaeth
Am ragor o wybodaeth am y costau cymwys a faint o arian rydych chi'n cael gwneud cais amdano, darllenwch y Nodyn Canllaw.
Sut i gyflwyno cais
Os ydych chi'n meddwl bod eich prosiect yn gymwys, cwblhewch y ffurflen ‘Mynegiant o Ddiddordeb’ a’i dychwelyd at adfywio@rctcbc.gov.uk