Mae'n bosibl i'r Cyngor gynnig grantiau pan fydd arian ar gael, ond penderfyniad y Cyngor yw cynnal y cynlluniau yma ac mae'n bosibl bydd rhaid bodloni meini prawf.
Diben y Grant Gwella Masnachol yw cefnogi gwelliannau ar raddfa fawr (gwaith allanol yn bennaf) ar adeiladau masnachol sydd ag effeithlonrwydd ynni yn rhan gynhenid ohonyn nhw. Mae'r grant yma'n darparu cymorth ariannol i rydd-ddeiliaid/perchnogion a rhai phrydleswyr eiddo sydd yng nghanol trefi a nodwyd.
- Gall hefyd gefnogi gwaith gwella i flaen adeiladau masnachol a gwaith cysylltiedig
- Bydd y grant yn cefnogi canol trefi/canolfannau masnachu trwy wella blaen siopau i ddenu cwsmeriaid a busnesau i'r dref gan wella nifer yr ymwelwyr a'r arlwy i gwsmeriaid
- Bydd y grant yn gwella effeithlonrwydd ynni busnesau trwy eu cefnogi i leihau costau a gwella cynaliadwyedd
Manylion y grant
- Eiddo masnachol - mae modd i ymgeiswyr wneud cais am hyd at 50% o gostau prosiect cymwys (ac eithrio TAW) hyd at uchafswm o £50,000
Nodwch fydd unrhyw wariant cyn cymeradwyo'r grant ddim yn gymwys ar gyfer cyllid.
Pwy sy'n gymwys i wneud cais?
- Perchnogion busnesau bach neu ganolig sy'n cyflogi llai na 250 o weithwyr
- Busnesau â throsiant blynyddol o lai na €50 miliwn neu fantolen flynyddol sydd â chyfanswm o lai na €43 miliwn
- Ydy eich eiddo chi yng nghanol trefn neu mewn canolfan fasnachol o fewn Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf?
Cyflwyno cais
Llenwch ffurflen Mynegi Diddordeb a'i hanfon i Adfywioeiddo@rctcbc.gov.uk.
Fydd ffurflen Mynegi Diddordeb sy'n cael ei chyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael ei thrin yn llai ffafriol na ffurflen gais sy'n cael ei chyflwyno yn Saesneg.
Lawrlwythwch a llenwch y ffurflen o'r ddolen isod. Bydd angen i chi gadw copi ar eich cyfrifiadur a'i anfon yn ôl atom fel atodiad gyda'ch e-bost.