Skip to main content

Grant Gwella Eiddo ar Raddfa Fawr

Mae'n bosibl i'r Cyngor gynnig grantiau pan fydd arian ar gael, ond penderfyniad y Cyngor yw cynnal y cynlluniau yma ac mae'n bosibl bydd rhaid bodloni meini prawf.

Byddwch yn ymwybodol o ganlyniad i argaeledd ac amserlenni sy'n gysylltiedig â'r ffynonellau cyllid allanol sy'n cael eu defnyddio ar gyfer y grantiau yma, dydyn ni ddim yn prosesu Mynegiannau Diddordeb ar gyfer y Grant Gwella Eiddo Masnachol a'r Grant Gwella Eiddo ar Raddfa Fawr mwyach.

Bydd unrhyw Fynegiannau Diddordeb sy'n cael eu derbyn ar gyfer y grantiau yma yn cael eu cofnodi a byddwn ni'n cysylltu â chi os bydd newidiadau o ran darparu cyllid. Fodd bynnag nodwch nad oes modd cynnig cyllid grant ar gyfer prosiectau wedi iddyn nhw ddechrau, felly os ydych chi'n dechrau ar waith prosiect heb gymeradwyaeth grant, fydd y prosiect ddim yn gymwys.

Os ydych chi wedi derbyn gwahoddiad i ymgeisio am gyllid grant yn barod ond dydych chi ddim wedi bod yn ymgysylltu mewn modd rhagweithiol gyda ni, bydd dyfarniad eich cais yn parhau yn amodol ar argaeledd cyllid ac amserlenni felly bydd modd ei gofnodi er mwyn ei ystyried os bydd newidiadau o ran darparu cyllid.

Diben y grant yma yw cynorthwyo adeiladau ag arwynebedd llawr gwag mewn canol trefi allweddol a lleoliadau strategol eraill sydd a diffyg o ran masnachu.  Mae gwaith cymwys yn cynnwys unrhyw waith i gyflawni amcan y prosiect - rhaid cytuno ar hyn â'r Cyngor cyn gwneud cais

  • Mae modd defnyddio'r grant i ddatblygu eiddo mawr gwag yng nghanol trefi a chanolfannau manwerthu sydd â diffyg difrifol o ran masnachu.
  • Gall y grant gefnogi eiddo gwag i gael eu defnyddio eto a chreu unedau masnachu newydd.
  • Bydd y grant yn gwella effeithlonrwydd ynni busnesau trwy gefnogi datblygiadau i leihau allyriadau carbon, lleihau costau a gwella cynaliadwyedd.

Manylion y grant

  • Eiddo Masnachol Gwag - Mae modd gwneud cais am hyd at £250,000 i ddatblygu eiddo a dechrau eu hail-ddefnyddio.
  • Mae gan y Grant Gwella Eiddo ar Raddfa Fawr gyfradd ymyrraeth o 50% ar gyfer costau prosiectau cymwys (ac eithrio TAW) hyd at £250,000.

Nodwch nad yw unrhyw wariant sydd wedi digwydd cyn cymeradwyo'r grant yn gymwys.

Pwy sy'n gymwys i wneud cais?

  • Perchnogion busnesau bach neu ganolig sy'n cyflogi llai na 250 o weithwyr
  • Busnesau sydd â throsiant blynyddol o lai na €50 miliwn neu fantolen flynyddol sydd â chyfanswm o lai na €43 miliwn
  • Ydy eich busnes yn gweithredu mewn canol tref ym Mwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf?

Cyflwyno cais

Bydd eisiau i chi lenwi'r ffurflen Mynegi Diddordeb, neu gysylltu â'r Garfan Adfywio gan ddefnyddio'r manylion cyswllt isod.

Fydd ffurflen Mynegi Diddordeb sy'n cael ei chyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael ei thrin yn llai ffafriol na ffurflen sy'n cael ei chyflwyno yn Saesneg.

Lawrlwythwch a llenwch y ffurflen o'r ddolen isod. Bydd angen i chi gadw copi ar eich cyfrifiadur a'i anfon yn ôl atom fel atodiad gyda'ch e-bost.