Skip to main content

Blaendaliadau / Rhent ymlaen llaw

Mae modd i Wasanaeth Materion Tai Rhondda Cynon Taf gynnig blaendaliadau a rhent ymlaen llaw i unigolion sy'n ddigartref neu'n wynebu digartrefedd, i sicrhau llety yn y sector rhentu preifat.       
 

Mae Taliadau Tai yn ôl Disgresiwn (TTD) yn swm atodol ar ben budd-daliadau i dalu’r gwahaniaeth rhwng Budd-dal Tai / Credyd Cynhwysol a rhent ac fe’u hystyrir os oes angen cymorth ychwanegol ar berson gyda’i gostau tai. Mae unrhyw daliad yn ychwanegol at y Budd-dal Tai/Credyd Cynhwysol sydd wedi'i roi.

Sut y mae modd i landlordiaid gael mynediad at y gwasanaeth yma?

Mae'r Garfan Materion Tai yn mynd i'r afael â cheisiadau am gymorth gyda bondiau/rhent ymlaen llaw ac yn cynnig hyn ar sail pob achos yn unigol.

Bwriwch olwg ar wybodaeth bellach am Daliadau Tai yn ôl Disgresiwn a sut i ymgeisio