Skip to main content

Gwybodaeth a Chyngor i Landlordiaid Preifat

Mae Rhondda Cynon Taf wedi ymrwymo i gefnogi'r sector rhentu preifat trwy ddarparu ystod o wasanaethau arbenigol i landlordiaid.

Mae'r Cylchlythyr i Landlordiaid yn wasanaeth am ddim ac yn darparu'r newyddion diweddaraf mewn perthynas â gwasanaethau, mentrau, cyfleoedd ac arferion da i landlordiaid sy'n gweithredu yn Rhondda Cynon Taf.

Mae'r cylchlythyr hefyd yn rhoi cyfle i fusnesau hysbysebu a chodi'u proffiliau.

E-bostiwch RCTlandlord@rctcbc.gov.uk os ydych chi eisiau cael eich cynnwys yn y rhestr bostio neu i gael rhagor o wybodaeth ynghylch hysbysebu.

Fforwm Landlordiaid RhCT

Mae'r Cylch Trafod hefyd wedi cael ei sefydlu i ddarparu cyfle i landlordiaid rwydweithio a datblygu arferion proffesiynol ym mhob rhan o'r sector rhentu preifat. Mae aelodaeth am ddim ac mae'r cyfarfodydd ar agor i bawb.

Am ragor o wybodaeth, e-bostiwch: FforwnlanlordiaidRhCT@rctcbc.gov.uk

Cynllun Denu landlordiaid

Mae amrywiaeth o wasanaethau wedi cael eu datblygu i gefnogi landlordiaid ym mhob rhan o'r gwaith datblygu, gosod eiddo i'w rentu a rheoli'r broses.

Rhentu Doeth Cymru

Mae gofyn i landlordiaid sy'n gweithredu yng Nghymru gofrestru'u heiddo o dan Ddeddf Tai (Cymru) 2014 a chael trwydded os ydyn nhw'n gyfrifol am reoli'r denantiaeth. I gael rhagor o wybodaeth ac i gofrestru ewch i dudalen Rhentu Doeth Cymru.

Safonau Tai Amlfeddiannaeth

Mae’r Cyngor yn gyfrifol am weinyddu’r Cynllun Trwyddedu ar gyfer mathau arbennig o Dai Amlfeddiannaeth.  Eto mae’r pwyslais ar reolaeth dda gan landlordiaid da.  I gael rhagor o wybodaeth ewch i Safonau Tai Amlfeddiannaeth. 

Cynllun Achredu Eiddo Trefforest

Codi safonau ac ansawdd llety i'w rhentu yn ardal Ward Trefforest, RhCT. Mae modd i landlordiaid sydd ag eiddo yn ardal Trefforest wneud cais i ymuno â'r cynllun am ddim ac mae'n rhoi cyfle i asesu ansawdd a mwynder llety i'w rhentu. Caiff y cynllun ei gefnogi gan Gyngor RhCT a Phrifysgol De Cymru ac mae'n hyrwyddo llety o ansawdd da trwy ddarparu peiriant chwilio wedi'i neilltuo.

I gael rhagor o wybodaeth neu i wneud cais, ewch i dudalen we Achredu Eiddo Trefforest

Cynllun Ynni ac Arbed

Mae'r cynllun yn darparu cyngor cynhwysfawr a chymorth ymarferol ym mhob rhan o'r farchnad ynni domestig, effeithlonrwydd, grantiau ac arfer gorau. Mae modd dod o hyd i ragor o wybodaeth ar wefan Yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni

 

Ffôn: 01443 281136
Ffacs: 01443 425301
Neges destun: 07781 489133