Skip to main content

Ceisiadau am Drwydded Gyfredol - Deddf Trwyddedu 2003 - Hysbysiad o Gais/Geisiadau

Mae'r cais/ceisiadau canlynol wedi'u cyflwyno i Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf.  Mae modd eu harchwilio yn y Swyddfa Drwyddedu, Cyngor Rhondda Cynon Taf, Tŷ Elái, Hen Ystad Ddiwydiannol Dinas Isaf, Williamstown, Tonypandy, CF40 1NY.  *Dylai'r sawl sydd am gyflwyno sylwadau mewn perthynas â'r cais/ceisiadau eu cyflwyno ar bapur i'r Swyddfa Drwyddedu erbyn y dyddiad a nodir mewn perthynas â'r cais. Mae'r cyfeiriad wedi'i nodi uchod.

*Dyma'r sawl sydd â'r hawl i gyflwyno sylwadau, yn unol â Deddf Trwyddedu 2003: unrhyw un sy'n byw yn yr ardal awdurdod trwyddedu perthnasol neu sy'n ymwneud â busnes yno ac unrhyw un y mae'n debygol y bydd yn cael ei effeithio gan y cais.

Mae'n drosedd i wneud datganiad ffug mewn perthynas â chais (boed hynny'n bwrpasol neu'n ddifeddwl). Uchafswm yr iawndal y mae rhywun yn gymwys i'w dalu am gollfarn ddiannod yw £5,000.

Enw'r ymgeisydd Math o Gais a Thrwydded**Enw a chyfeiriad yr EiddoGweithgaredd trwyddedu arfaethedig, amrywiad, rhesymau dros adolygu a.y.b.Y dyddiad y dylid cyflwyno sylwadau ysgrifenedig i'r Awdurdod Trwyddedu.

One Stop Stores Ltd

Amrywio Trwydded Safle

One Stop Stores

25 – 28 Stryd Lewis

Aberaman

Aberdâr

CF44 6PY

Ymestyn amseroedd gwerthu alcohol.

Yr amseroedd presennol ar gyfer gwerthu alcohol yw 8:00 – 23:00 o ddydd Llun i ddydd Sadwrn a 10:00 - 23:00 ar ddydd Sul.

Yr amseroedd arfaethedig ar gyfer gwerthu alcohol yw rhwng 06:00 a 23:00 o ddydd Llun i ddydd Sul.

(mae'r rhain yn adlewyrchu oriau agor y siop) 

9 Hydref 2026

Heddlu De Cymru

Adolygu Trwydded Eiddo

 New Market Tavern

Stryd y Farchnad

Aberdâr

CF44 7DY

 Dyma sail yr Adolygiad:
  • Atal Trosedd ac Anrhefn
  • Diogelwch y Cyhoedd 
 9 Hydref 2026

Liam Dwyer

Cyflwyno trwydded eiddo

 Station 44

19 Stryd y Dug

Aberdâr

CF44 7ED

 Cyflwyno trwydded safle gyda'r gweithgareddau trwyddedadwy canlynol:

 

Cerddoriaeth fyw o 16:00 tan 23:00 ar ddydd Gwener, dydd Sadwrn a dydd Sul

Cerddoriaeth wedi'i recordio o 19:00 tan 02:00 ar ddydd Gwener a dydd Sadwrn (tan 23:00 ar bob noson arall)

Gwerthu alcohol o 12:00 tan 02:00 ar ddydd Gwener a dydd Sadwrn (tan 00:00 ar bob noson arall).

Mae'r oriau agor arfaethedig yr un fath â'r rhai ar gyfer gwerthu alcohol.

 12 Hydref 2026

Thanesh Jeyakumar

Cyflwyno trwydded eiddo

Siop gyfleustra (enw i'w gadarnhau)

230 Heol Tyntyla,

Ystrad, Cwm Rhondda

CF41 7SG

Yr amseroedd arfaethedig ar gyfer gwerthu alcohol yw rhwng 6:00 a 23:00 o ddydd Llun i ddydd Sul.

Mae'r oriau agor arfaethedig yr un fath â'r uchod.

 15 Hydref 2026

Heddlu De Cymru

Adolygu Trwydded Mangre

 Premier

26a, Trem Hyfryd

Trehafod

Y Porth

CF37 2NY

 Methu hyrwyddo'r amcanion trwyddedu, sef:

 

Atal Trosedd ac Anhrefn 

 

Amddiffyn Plant Rhag Niwed

 

Torri nifer o amodau'r Drwydded Mangre

 

Nid yw Goruchwyliwr Dynodedig y Fangre'n rheoli'r broses o werthu alcohol o ddydd i ddydd

 22 Hydref 2026
*Er noder, ni ellir cyflwyno sylwadau ar ôl i Ddatganiad Dros Dro gael ei gyflwyno