Skip to main content

Trwydded safle

Daeth Deddf Trwyddedu 2003 â newidiadau sylfaenol i gyfraith trwyddedu. Mae'r ddeddf wedi uno nifer o gyfundrefnau trwyddedu oedd yn rheoleiddio gwerthu a chyflenwi alcohol, darparu adloniant wedi'i reoleiddio, a darparu lluniaeth hwyr y nos.

Daeth  Deddf Trwyddedu 2003 i rym ar 24 Tachwedd 2005. Symudodd y cyfrifoldeb am drwyddedu safleoedd o Lysoedd yr Ynadon i'r Awdurdod Lleol (Awdurdod Trwyddedu). Disodlodd bob Trwydded Ynadon a phob trwydded oedd yn ymwneud ag adloniant cyhoeddus, theatrau, sinemâu a lluniaeth hwyr y nos ag un drwydded safle.

Mae Deddf Trwyddedu 2003 yn ei gwneud hi'n ofynnol i'r Awdurdod Trwyddedu gyflawni'i ddyletswyddau, gyda'r bwriad o hyrwyddo pedwar amcan trwyddedu'r Ddeddf. Byddai'r dyletswyddau hyn yn cynnwys prosesu ceisiadau a gweithredu'r gyfraith.

Dyma'r pedwar amcan trwyddedu:

  • Atal trosedd ac anrhefn
  • Amddiffyn diogelwch y cyhoedd
  • Atal niwsans cyhoeddus
  • Amddiffyn plant rhag niwed

Dan Ddeddf Trwyddedu 2003, mae tair trwydded:

  1. Trwydded Safle
  2. Tystysgrif safle clwb
  3. Trwydded bersonol

Bydd angen trwydded safle (tystysgrif safle clwb ar gyfer clybiau cofrestredig) ar gyfer unrhyw safle fydd yn cynnal un neu ragor o'r gweithgareddau mae angen trwydded ar eu cyfer o dan Ddeddf Trwyddedu 2003.

Dyma'r gweithgareddau mae angen trwydded ar eu cyfer dan Ddeddf Trwyddedu 2003:

  • Perfformio drama
  • Dangos ffilm
  • Digwyddiad chwaraeon dan do
  • Bocsio neu reslo
  • Cerddoriaeth fyw
  • Cerddoriaeth wedi'i recordio
  • Perfformio dawns
  • Unrhyw weithgaredd sy'n debyg i ddisgrifiadau (e), (f) neu (g)
  • Darparu lluniaeth hwyr y nos – darparu diod neu fwyd poeth rhwng 11pm a 5am
  • Gwerthu neu gyflenwi alcohol

Rhaid i ddeiliad trwydded bersonol ddynodedig weithio ym mhob safle trwyddedig sy'n gwerthu neu gyflenwi alcohol. Yr enw arno yw goruchwylydd safle dynodedig (Designated Premises Supervisor). Fydd hyn ddim yn cynnwys clybiau cofrestredig â thystysgrif safle clwb. Bydd y goruchwyliwr safle dynodedig yn gyfrifol am redeg y safle o ddydd i ddydd. Bydd rhaid i ddeiliad trwydded bersonol gyflenwi alcohol, neu awdurdodi cyflenwi alcohol, o dan drwydded safle. Bydd modd cael un neu ragor o ddeiliaid trwydded bersonol mewn un safle, ond fydd modd cael dim ond un goruchwyliwr safle dynodedig.

Mae modd gweld Deddf Trwyddedu 2003 ar wefan   Swyddfa Gwybodaeth y Sector Cyhoeddus.  Serch hynny, efallai y bydd ymgeiswyr posibl yn awyddus i ystyried Canllawiau Diwygiedig y Swyddfa Gartref a gyhoeddwyd o dan Ddeddf Drwyddedu 2003 sydd ar gael yn www.gov.uk/government/publications.

Trwydded Safle

wneud cais am Drwydded Safle  rhaid llenwi ffurflen gais. Mae modd gwneud hyn ar-lein neu drwy anfon cais am gopi at Adran.Trwyddedau@rhondda-cynon-taf.gov.uk. Efallai y bydd ymgeiswyr posibl yn awyddus i ystyried Polisi Drwyddedu'r Cyngor  cyn cyflwyno cais. Mae Polisi Trwyddedu'r Awdurdod yn nodi bod angen i ymgeiswyr gael cyngor cyn gwneud cais.

Mae angen talu'r ffi briodol wrth gyflwyno'r cais. Mae'r ffi yn amodol ar werth ardrethol eich eiddo.

Ar ôl hynny, bydd rhaid i'r ymgeiswyr:

  • anfon copi cyflawn o'r cais, gan gynnwys cynllun o'r safle, at bob Awdurdod Cyfrifol (gweler y cyswllt isod);
  • hysbysebu'r cais yn y wasg leol ar gyfer yr ardal lle mae'r safle, fel a ganlyn:

Rhondda Leader ; Treorci, Y Pentre, Tonypandy, Y Porth, Glynrhedynog

Pontypridd Observer ; Pontypridd, Pont-y-clun, Ffynnon Taf

Cynon Valley Leader  Aberdâr, Aberpennar

  • Dangos hysbysiad glas, sy'n amlinellu'r cais, yn y safle arfaethedig. (Bydd copi o'r hysbysiad yn y pecyn cais).

Bydd cyfnod ymgynghori o 28 diwrnod fel bod modd cyflwyno'r holl sylwadau ar y cais. Bydd modd i unrhyw un o'r awdurdodau cyfrifol ac unrhyw un sydd â diddordeb, fel trigolion lleol, gyflwyno sylwadau ar y cais.

Pan fydd trwydded safle wedi'i rhoi, fydd dim angen ei hadnewyddu. Serch hynny, mae Deddf Trwyddedu 2003 yn nodi bod hawl gan awdurdod cyfrifol neu unrhyw un sydd â diddordeb, ar unrhyw adeg, wneud cais dilys am adolygu'r drwydded safle.

Dylai unrhyw sylwadau ar roi trwydded neu resymau dros adolygu trwydded fod yn berthnasol i'r amcanion trwyddedu.

I gael rhagor o wybodaeth ynglŷn â gwneud cais, amrywio eich amser a gweithgareddau trwyddedig, neu amodau'ch trwydded, cysylltwch â ni ar   Adran.Trwyddedau@rhondda-cynon-taf.gov.uk  neu 01443 425001.

Fel arall, os ydych chi'n aelod o'r cyhoedd neu'n fusnes sy'n wynebu anawsterau neu sydd â phryderon ynglŷn â'r gweithgareddau mewn safleoedd trwyddedig yn y Fwrdeistref Sirol, cysylltwch â'r Swyddogion Trwyddedu gyda'r manylion cyswllt uchod.

Deddf Trwyddedu 2003 – ffioedd a chostau

Caiff y ffioedd o dan y Ddeddf Drwyddedu eu pennu'n ganolog, nid yn lleol. 
Mae modd anfon siec am y taliadau ar gyfer ceisiadau a ffioedd blynyddol at "Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf", neu gallwch dalu wyneb yn wyneb gydag arian parod neu gerdyn credyd/debyd.