Skip to main content

Gwaith y strydoedd

Nod Carfan Gwaith y Strydoedd yw cydlynu gwaith ar y briffordd yn effeithlon, yn fewnol a chan ymgymerwyr statudol.

Mae Deddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991, sy'n cael ei chefnogi gan y Rheoliadau a'r Codau Ymarfer perthnasol, yn darparu fframwaith deddfwriaethol sy'n cwmpasu'r holl waith cloddio ar y briffordd.  Mae'r Rheoliad yn ei gwneud hi'n ofynnol i Awdurdodau Stryd ymdrechu i'r eithaf i gydlynu gwaith cloddio o bob math (gan gynnwys gwaith at ddibenion y ffyrdd a chyflawni gweithgareddau perthnasol) ar y strydoedd y maen nhw'n gyfrifol amdanyn nhw:

(a) er mwyn diogelwch;

(b) er mwyn lleihau anghyfleustra i bobl sy'n defnyddio'r stryd (gan ystyried, yn benodol, anghenion pobl anabl);

(c) er mwyn amddiffyn strwythur y stryd ac uniondeb y cyfarpar arni.

Mae cydweithredu a chyfathrebu rheolaidd yn hanfodol i adran effeithlon.  Os ydych chi eisiau codi unrhyw fater ynglŷn ag Ymgymerwyr Statudol ar y Briffordd, er enghraifft, ynglŷn â hyd cyfnod y gwaith neu gyflwr y briffordd ar ôl i'r gwaith gael ei gwblhau, ffoniwch y Gwasanaethau i Gwsmeriaid ar 01443 425001 neu anfon neges e-bost i GwaithStryd@rhondda-cynon-taf.gov.uk.

Adran 50 (trwydded breifat)

Mae gan Awdurdod Strydoedd yr hawl i ganiatáu Trwydded Gwaith Stryd.  Mae hyn yn rhoi caniatâd i berson sydd heb Hawl Statudol i osod, cadw a symud offer ar y stryd i wneud gwaith angenrheidiol at y diben hwnnw.  Rhaid i ddeiliad y drwydded roi o leiaf 3 wythnos o rybudd cyn y dyddiad dechrau arfaethedig.  Caiff Awdurdod roi caniatâd i ddechrau'r gwaith yn gynnar yn ôl ei ddoethineb ei hunan.

Gweld copi o ffurflen gais Adran 50. Mae'r cais yn gofyn am yr wybodaeth ganlynol:

  • (a) Map
  • (b) Cymwysterau'r gweithredwr a'r goruchwyliwr ac ati
  • (c) Siec

Mae angen cyflwyno'r cais i GwaithStryd@rctcbc.gov.uk.

Os ydych chi am ofyn am becyn cais trwydded breifat Adran 50 yn Gymraeg, ffoniwch adran Gwaith y Strydoedd ar 01443 494886 neu e-bostiwch GwaithStryd@rctcbc.gov.uk

Nodwch: Does dim hawl ymgymryd ag unrhyw waith hyd nes i chi gael cymeradwyaeth gan Rondda Cynon Taf.

Adran 50 – Gwaith brys (trwydded breifat)

Er mwyn cael trwydded ar gyfer gwaith brys, mae'n ofynnol i chi ffonio'r Adran Gwaith Stryd ar 01443 494886/425001, a llenwi ffurflen gais ar ôl hynny. Gweld copi o ffurflen gais Adran 50 ar gyfer gwaith brys. Nodwch: Ystyr gwaith brys yw gwaith sy'n cael ei gynnal lle mae perygl uniongyrchol i bobl neu eiddo.