Skip to main content

Newidiadau i'r Gyfundrefn Cofrestri Presenol ar Gyfer Tatwio, Tyllu'r Croen ac Electrolysis

Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 - Triniaethau Arbennig

Crynodeb o brif ofynion y system drwyddedu ar gyfer ymarferwyr

Cafodd Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 Gydsyniad Brenhinol ym mis Gorffennaf 2017. Mae Rhan 4 o'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i ymarferwyr a busnesau sy'n cynnal 'Triniaethau Arbennig' yng Nghymru fod yn destun cynllun trwyddedu gorfodol. Mae 'Triniaethau Arbennig' yn cynnwys yr arferion hynny sy’n destun cofrestru o dan Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982 ar hyn o bryd, sef tatŵio gan gynnwys lliwio'r croen yn lled-barhaol, tyllu'r corff am resymau cosmetig, aciwbigo ac electrolysis

Y nod yw cyflwyno'r cynllun drwyddedu erbyn mis Ebrill 2020. Mae'r prif ofynion yn cynnwys:

  • Rhaid i ymarferwyr gael trwydded er mwyn cynnal triniaethau arbennig (bydd yn drosedd i gynnal triniaethau arbennig heb drwydded);
  • Rhaid i eiddo neu gerbydau busnes gael eu cymeradwyo (bydd yn drosedd i ymarferydd ymgymryd â thriniaethau o eiddo neu gerbydau nad ydynt wedi eu cymeradwyo);
  • Bydd trwydded lawn yn para am 3 blynedd, a bydd trwydded dros dro yn para am 7 diwrnod (mae hyn er mwyn gallu cymryd rhan mewn digwyddiadau a chynadleddau) Bydd yn ofynnol arddangos y drwydded yn yr eiddo lle yr ymgymerir â'r driniaeth arbennig;
  • Bydd amodau'r drwydded yn gysylltiedig â chymhwysedd ymarferwyr, yr eiddo lle mae ymarferwyr yn gweithio, yr offer a'r arferion a ddefnyddir, cyngor a roddir cyn ac ar ôl y driniaeth arbennig a'r cofnodion a gedwir gan ymarferwyr;
  • Bydd cymhwysedd yn ymwneud â rheoli heintiau a chymorth cyntaf yng nghyd-destun y driniaeth arbennig a roddir. Bydd y lefel gymhwysedd yn gysylltiedig â lefel y risg sy'n gysylltiedig â'r driniaeth arbennig, er enghraifft ni fyddai'n ofynnol cael yr un lefel o gymhwysedd i roi twll yn llabed y glust ag i dyllu'r corff. Bydd hefyd yn ofynnol meddu ar wybodaeth o ofynion y Ddeddf;
  • Bydd rhaid i ymarferwyr cofrestredig presennol bontio i'r system orfodol newydd a bydd amser yn cael ei neilltuo i'r ymarferwyr hynny (a'u heiddo) gael eu hasesu gan gynghorau lleol a’u symud i'r system drwyddedu newydd;
  • Bydd cynghorau lleol yn gyfrifol am orfodi'r gofynion trwyddedu ac am gadw cofrestr gyhoeddus gyfredol. Bydd mwy o bwerau i orfodi'r ddeddfwriaeth hon na'r rheiny sydd ar waith eisoes, yn ogystal â'r gallu i ddirymu trwydded a rhoi terfyn ar arferion anniogel ar unwaith. Ni fydd terfyn ar y dirwyon y gellir eu rhoi pan erlynir yn llwyddiannus;
  • Er mwyn sicrhau bod y ddeddfwriaeth yn parhau'n gyfredol wrth i driniaethau arbennig esblygu yn y dyfodol, mae'r Ddeddf hefyd yn cynnwys darpariaeth i wneud deddfwriaeth bellach i ddiwygio'r rhestr o driniaethau arbennig neu ychwanegu ati.

Mae Llywodraeth Cymru yn cadw mewn cysylltiad ag ymarferwyr, cymdeithasau proffesiynol a rhanddeiliaid sydd â buddiant i ddatblygu cyrsiau rheoli heintiau achrededig, sydd wedi'u teilwra'n benodol, yn ogystal â chanllawiau penodedig i'r diwydiant, ac maent yn ystyried datblygu llwybrau gyrfa strwythuredig, mwy pwrpasol, ar gyfer ymarferwyr sy'n cynnal triniaethau arbennig yng Nghymru.

Os hoffech gymryd rhan yn y broses hon neu os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â Dr Sarah Jones, Sarah.Jones058@gov.wales