Cofrestru ar gyfer tatŵio, tyllu'r croen ac electorlysis
Mae Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982, Rhan VIII yn ei gwneud yn ofynnol i gofrestru'r mathau canlynol o dyllu'r croen gyda'r Cyngor:
- Aciwbigo
- Tatŵio
- Lliwio Croen yn Lled Barhaol
- Tyllu cosmetig
- Electrolysis
Newidiadau i’r Gyfundrefn Cofrestri Presenol ar Gyfer Tatwio, Tyllu’r Croen ac Electrolysis
Crynodeb o'r rheoliadau
Mae'r Ddeddf yn gwneud cofrestru yn ofynnol ar gyfer y person sy'n cyflawni'r gwaith, yn ogystal â'r safle sy'n cael ei ddefnyddio i'r diben hwnnw. Mae Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf wedi mabwysiadu is-ddeddfau sydd wedi sefydlu'r safonnau gofynnol er mwyn rheoli heintiau. Darllenwch gopi o is-ddeddfau ar Aciwbigo, Tatŵio, Lliwio Croen yn Lled Barhaol, Tyllu Cosmetig ac Electrolysis Mae rhaid i'r ymgeisydd sicrhau bod y gweithdrefnau, yr offer a'r cyfleusterau sy'n cael eu defnyddio yn ddiogel, yn hylan, yn atal clefydau rhag lledaenu, ac yn cydymffurfio'n llwyr â'r ddyletswydd gofal cyffredinol sy'n ofynnol o dan Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith etc 1974.
Mae cynnal y gweithgareddau uchod yn erbyn y gyfraith oni bai bod y cofrestriad wedi'i gymeradwyo yn ffurfiol.
Sut mae gwneud cais
Mae modd gwneud ymholiad neu gael ffurflenni cais trwy gysylltu â ni:
Carfan Materion Bwyd ac Iechyd a Diogelwch
Tŷ Elái
Dwyrain Dinas Isaf
Trewiliam
Tonypandy
CF40 1NY
E-bost: Bwyd.IechydaDiogelwch@rhondda-cynon-taf.gov.uk
Ffôn: 01443 425324
Ffacs: 01443 425301
Cyflwyno cais
Unwaith i gais gael ei gyflwyno a bod y ffi berthnasol wedi dod i law, bydd swyddog yn cynnal archwiliad o'r safle ac yn asesu'r ymarferwr/ymarferwyr.
Ffioedd
Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn codi'r ffioedd canlynol ar hyn o bryd ar gyfer gwneud cais o ran cofrestru i datŵio, lliwio croen yn lled-barhaol (gan gynnwys micro-lafnu) ,tyllu cosmetig, electrolysis ac aciwbigo;
fees
Cais am Gofrestriad Adeilad |
£176 |
Cais am Gofrestriad Personol |
£86 |
Cais am Drosglwyddiad Personol |
£38 |
Cais am Gofrestriad Personol Ychwanegol
Nodwch: Dylech chi ddefnyddio'r ffurflen yma yn unig os ydych chi'n meddu ar gofrestriad personol mewn adeilad COFRESTREDIG yn Rhondda Cynon Taf ac mae angen cofrestriad YCHWANEGOL arnoch chi i weithio mewn adeilad COFRESTREDIG arall yn Rhondda Cynon Taf.
|
£38 |