Skip to main content

Eiddo masnachol i'w rentu

Mae modd i ni gynnig Gwasanaeth Dod o hyd i Eiddo a Thir Masnachol. Serch hynny, bellach, dyw'r Cyngor ddim yn cynnal eiddo masnachol i’w brydlesu neu'i rentu *

Gwasanaeth dod o hyd i dir ac eiddo ar gyfer masnach

Os ydych chi am leoli'ch busnes yng Nghymoedd De Cymru neu'n chwilio am adeiladau newydd er mwyn ehangu'ch busnes, yna gallai'r Gwasanaeth Dod o Hyd i Dir ac Eiddo Masnachol Gwag y Cyngor eich helpu chi.

Mae CBS Rhondda Cynon Taf yn cynnal rhestr gyfredol o safleoedd eiddo masnachol a chyflogaeth sydd ar gael yn y Fwrdeistref Sirol ar gyfer busnesau sydd am adleoli neu ehangu. Nod y gwasanaeth yw gwneud y broses o symud llawer yn haws a helpu busnesau i ganfod unrhyw gyfleoedd posibl am gymorth ychwanegol drwy gysylltu busnesau â gwerthwyr eiddo, gwasanaethau Cyngor ac asiantaethau cymorth i fusnesau. 

Y Cyngor yn cysylltu anghenion y busnes ag eiddo a gwasanaethau sydd ar gael, gan ddefnyddio'i wybodaeth am yr ardal a'i ddealltwriaeth o'r farchnad eiddo leol. Mae'r Cyngor yn cynnal cofnodion cyfredol o eiddo diwydiannol a swyddfeydd gwag, tir ar gyfer cyflogaeth ac eiddo manwerthu canol tref.

Os ydych chi'n chwilio am adeiladau masnachol yn Rhondda Cynon Taf, anfonwch e-bost at y Carfan Menter gyda'ch cais  adfywio@rctcbc.gov.uk

Rhowch gymaint o wybodaeth â phosibl fel y gallwn ni fodloni'ch gofynion penodol.

Dyma enghreifftiau o'r wybodaeth ddefnyddiol y gallech chi'i rhoi:

  • Lleoliadau sy'n well gyda chi
  • Math o eiddo e.e. Swyddfa, Diwydiannol, Manwerthu, Defnydd Cymysg
  • Maint yr eiddo
  • Eiddo sydd wedi'i osod ar brydles neu sydd ar werth

Gofynion arbennig

Pe hoffech chi i'ch eiddo masnachol gael ei ychwanegu at y rhestr, anfonwch eich manylion cyswllt aton ni trwy e-bost, neu ein ffonio ni’n uniongyrchol ar 01443 281124   

Os ydych chi'n chwilio am eiddo yn y sector masnachol, h.y. sydd ddim yn perthyn i'r Cyngor, yna bydd angen i chi ysgrifennu at yr Uwchadran Datblygu ac Adfywio yn y cyfeiriad isod, gan roi syniad o'r math o fusnes rydych chi'n rhan ohono a'ch gofynion o ran adeilad.

Ffyniant a Datblygiad

Tîm adfywio
Tŷ Sardis,

Heol Sardis, 
Pontypridd
CF37 1DU

Ffôn: 01443 281124

* ychydig iawn o eiddo manwerthu neu swyddfeydd sydd yn ei bortffolio

Portffolio Eiddo Manwerthu / Swyddfeydd

Os oes diddordeb gyda chi mewn holi ynghylch y portffolio eiddo Manwerthu / Swyddfeydd, cysylltwch â'r cyfeiriad isod gan roi'r manylion canlynol:

  • esboniad byr o'r math o fusnes a fydd yn cael ei gynnal yn yr adeilad
  • darparu amcangyfrif bras o faint yr eiddo sy'n ofynnol

Byddwn ni wedyn yn rhoi gwybod i chi a oes adeilad addas gan y Cyngor.

Adran Eiddo'r Cyngor

TY Trevithick
Abercynon
Aberpennar
CF45 4UQ 

Ffôn: 01443 281189