Bydd y Cyflenwr a Enwebir yn gweithredu polisi cyfle cyfartal ac mae'n gwarantu y bydd y polisi yma'n cydymffurfio â phob dyletswydd berthnasol.
Os bydd unrhyw lys, tribiwnlys neu'r Comisiynydd Cydraddoldeb Hiliol yn canfod achos o gamwahaniaethu anghyfreithlon yn erbyn y Cyflenwr a Enwebir, bydd y cyflenwr yn cymryd pob cam angenrheidiol i atal achos o'r fath rhag digwydd eto
Mae'n bosibl y bydd y Cyngor yn gofyn i'r Cyflenwr a Enwebir roi manylion llawn o'r camau a gafodd eu cymryd i atal achos o'r fath rhag digwydd eto, fel y nodir eisoes.
Bydd polisi cyfleoedd cyfartal y Cyflenwr a Enwebir wedi'i gynnwys mewn unrhyw gyfarwyddiadau y mae'n eu hanfon at y gweithwyr hynny sy'n ymwneud â hyfforddi a hyrwyddo ym maes recriwtio. Bydd y polisi hefyd yn cael ei gynnwys mewn dogfennau perthnasol sydd ar gael i weithwyr ac eraill, yn ogystal â mewn hysbysebion recriwtio ac unrhyw ddogfennau perthnasol eraill. Mae'n bosibl y bydd gofyn i'r Cyflenwr a Enwebir roi copïau o'r hysbysebion a dogfennau eraill i'r Cyngor.
Bydd y Cyflenwr a Enwebir yn cydymffurfio â darpariaethau Deddf Cydraddoldeb 2010.