Skip to main content

Gwerthu i'r Cyngor

Ein nod ni yw helpu darpar gyflenwyr a chontractwyr i ddeall sut mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn prynu nwyddau, gwasanaethau a gwaith ar hyn o bryd, a'u helpu i wella'u gobeithion o ddysgu am gyfleoedd a gwneud cais am waith.

Mae canllaw gwerthu i'r Cyngor wedi'i ddatblygu ar y cyd â Chyngor Caerdydd, Cyngor Caerffili a Chyngor Torfaen.

Ble alla i gael rhagor o wybodaeth am gyfleoedd contract?

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn defnyddio dwy ffordd i gyhoeddi cyfleoedd contract:

  • Gwerthwch i Gymru yw'r wefan Gaffael Genedlaethol; mae'n cynnwys yr holl gyfleoedd contract o dan ac uwchlaw'r trothwy Ewropeaidd, sy'n cael eu hysbysu'n helaeth. Mae gan y wefan gysylltiad uniongyrchol â Chyfnodolyn Swyddogol yr Undeb Ewropeaidd lle mae'n rhaid cyhoeddi contractau uwchlaw'r trothwy Ewropeaidd.
  • eDendro Cymru yw porth e-dendro'r Cyngor. Mae cyfleoedd contract yn cael eu hysbysebu i gyflenwyr/contractwyr cofrestredig.

Mae'r Cyngor yn annog cyflenwyr i gofrestru ar wefannau eDendro Cymru a Gwerthwch i Gymru. Mae'r ddwy yn rhad ac am ddim, ac yn rhoi cyfle i gyflenwyr dderbyn hysbysiadau tendr awtomatig drwy'r e-bost, gweld cyfleoedd, diweddaru a chynnal eu proffil, derbyn cyfarwyddiadau ar sut i gael gafael ar ddogfennau tendr ac ymateb iddynt, a gweld manylion am gontractau wedi'u dyfarnu.

Tudalennau Perthnasol