Skip to main content

Cofrestrwch i fod yn Gwsmer Ailgylchu a Gwastraff Byd Masnach

Bydd angen i fusnesau newydd gofrestru eu manylion i ddechrau derbyn gwasanaeth ailgylchu a gwastraff byd masnach.
Cofrestrwch eich diddordeb mewn dod yn gwsmer ailgylchu a gwastraff byd masnach
 

Os byddwch chi'n defnyddio’n gwasanaeth ni, gallwn ni roi biniau ar olwynion i chi er mwyn storio eich gwastraff bag du. Os does dim lle gyda chi i gadw bin ar olwynion, mae modd i chi ddefnyddio'r bagiau gwastraff byd masnach brown.

Bydd rhaid i chi sicrhau bod digon o gapasiti (biniau neu fagiau gwastraff byd masnach) gyda chi ar gyfer eich gwastraff. Bydd rhaid i chi allu cau caead eich bin, a fyddwn ni ddim yn casglu gwastraff ychwanegol.

Yn ogystal â'n gwasanaeth casglu gwastraff byd masnach, rydyn ni hefyd yn cynnig gwasanaeth casglu gwastraff ailgylchu cynhwysfawr a gwasanaeth cardfwrdd am ddim i gwsmeriaid.  Mae rhagor o wybodaeth am ein gwasanaethau ailgylchu ar gael yma:

Beth alla i ei ailgylchu yn rhan o'r Cynllun Ailgylchu Gwastraff Byd Masnach?

Os ydych chi'n byw mewn fflat neu dŷ sydd yn rhan o eiddo eich busnes chi, byddwn yn casglu eich gwastraff o'r cartref yn rhan o'ch gwasanaeth casgliadau domestig. Fodd bynnag, mae modd i ni gymryd camau gorfodi yn eich erbyn chi os bydd gwastraff byd masnach yn cael ei roi mewn biniau/bagiau domestig. Nid yw gwastraff byd masnach yn cael ei dderbyn ar hyn o bryd yng Nghanolfannau Ailgylchu yn y Gymuned RhCT.  

Os byddwch chi'n dewis defnyddio gwasanaeth arall, bydd rhaid i chi sicrhau bod unrhyw gontractwr preifat y byddwch chi'n ei ddefnyddio wedi'i gofrestru'n gywir ac yn rhoi'r gwaith papur priodol i chi. Mae pob contractwr casglu gwastraff cyfreithlon wedi'i drwyddedu a'i gofrestru yn gludwr gwastraff gan Cyfoeth Naturiol Cymru / Asiantaeth yr Amgylchedd.

I wneud yn siŵr bod cludwr gwastraff wedi'i gofrestru fel cludwr gwastraff cyffredinol a gwastraff ailgylchu, ffoniwch Asiantaeth yr Amgylchedd ar 03708 506 506 a gofynnwch am Archwiliad Dilysu Cludwr Gwastraff yn y fan a'r lle.